Zbigniew Brzezinski

Oddi ar Wicipedia
Zbigniew Brzezinski
GanwydZbigniew Kazimierz Brzeziński Edit this on Wikidata
28 Mawrth 1928 Edit this on Wikidata
Warsaw Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mai 2017 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Falls Church Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
AddysgBaglor yn y Celfyddydau, gradd meistr, Doethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Merle Fainsod Edit this on Wikidata
Galwedigaethgeowleidydd, gwyddonydd gwleidyddol, addysgwr, academydd, awdur, strategist, critig Edit this on Wikidata
SwyddCynghorydd Diogelwch Cenedlaethol, aelod o fwrdd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Grand Failure, The Grand Chessboard, Between Two Ages Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
MudiadRealaeth Edit this on Wikidata
TadTadeusz Brzeziński Edit this on Wikidata
PriodEmilie Benes Brzezinski Edit this on Wikidata
PlantIan Brzezinski, Mark Brzezinski, Mika Brzezinski Edit this on Wikidata
PerthnasauMatthew Brzezinski Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Knight of the Order of the White Eagle, Order of Tomáš Garrigue Masaryk, 1st class, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Urdd y Tair Seren, Ail Dosbarth, Medal Canmlynedd Havard, Gwobr Antonovych, Grand Officer of the Order of the Star of Romania, Urdd Teilyngdod, Dosbarth 1af, Croes Uwch Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Croes Fawr Urdd Uchel-Ddug Gediminas, honorary doctor of the University of Warsaw, Urdd Stara Planina, Cadlywydd Urdd Seren er Teilyngdod, Hwngari, Ellis Island Medal of Honor, honorary citizen of Kraków, honorary doctorate from the Catholic University of Lublin, honorary doctor of Fordham University, honorary doctor of Georgetown University, honorary doctor of Vilnius University, Doctor honoris causa o Brifysgol Jagiellonian, Krakow, Order of Prince Yaroslav the Wise, 3rd class, honorary citizen of Vilnius, Urdd seren Romania, Urdd Teilyngdod, Dosbarth lll, honorary citizen of Gdańsk, Great Immigrants Award, Q122213895 Edit this on Wikidata
Zbigniew Brzezinski
10fed Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol
Yn ei swydd
20 Ionawr 1977 – 20 Ionawr 1981
ArlywyddJimmy Carter
DirprwyDavid Aaron
Rhagflaenwyd ganBrent Scowcroft
Dilynwyd ganRichard Allen

Diplomydd a gwyddonydd gwleidyddol Americanaidd a aned yng Ngwlad Pwyl oedd Zbigniew Kazimierz Brzezinski (28 Mawrth 192826 Mai 2017). Gwasanaethodd yn gynghorydd i'r Arlywydd Lyndon B. Johnson o 1966 i 1968 ac yn Gynghorydd Diogelwch Cenedlaethol trwy gydol arlywyddiaeth Jimmy Carter o 1977 i 1981. O ran ei safbwynt ar gysylltiadau rhyngwladol, roedd Brzezinski yn perthyn i ysgol realaidd, a saif yn nhraddodiad daearwleidyddol Halford Mackinder a Nicholas J. Spykman.[1][2]

Yn ystod ei gyfnod yn y Tŷ Gwyn, ymdrinasai â sawl argyfwng a dadl polisi tramor gan gynnwys normaleiddio cysylltiadau rhwng yr Unol Daleithiau a Gweriniaeth Pobl Tsieina (a thorri cysylltiadau â Gweriniaeth Tsieina); arwyddo'r ail Gytundeb ar Gyfyngu Arfau Strategol (SALT II); Cytundebau Camp David; Chwyldro Islamaidd Iran a'r wlad honno yn troi'n erbyn yr Unol Daleithiau; anogi anghydffurfwyr yn y bloc Dwyreiniol a phwysleisio hawliau dynol er mwyn tanseilio dylanwad yr Undeb Sofietaidd;[3] arfogi'r mujahideen yn Affganistan, gyda'r nod o wthio'r Sofietiaid i oresgynu y wlad honno;[4] ac arwyddo'r cytundebau rhwng Carter a'r Arlywydd Torrijos o Banama ac felly ildio hawl yr Unol Daleithiau i Gamlas Panama ym 1999.

Yn ddiweddarach, roedd Brzezinski yn athro ar bolisi tramor Americanaidd ym Mhrifysgol Johns Hopkins, ysgolhaig yn y Center for Strategic and International Studies, ac yn aelod o nifer o fyrddau a chynghorau. Ymddangosodd yn aml fel arbenigwr ar rhaglenni teledu gan gynnwys The NewsHour with Jim Lehrer ar PBS, This Week with Christiane Amanpour ar ABC News, a Morning Joe ar MSNBC (mae ei ferch, Mika, yn gyd-gyflwyno'r rhaglen honno). Roedd yn gefnogwr i Broses Prâg.[5] Arbenigwr ar bolisi tramor yw ei fab hynaf Ian, a gwasanaethodd ei fab ieuangaf Mark yn llysgennad yr Unol Daleithiau i Sweden o 2011 i 2015. Bu farw Brzezinski yn 2017 yn 89 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Sabine Feiner: Weltordnung durch US-Leadership? Die Konzeption Zbigniew K. Brzezinskis. Westdeutscher Verlag, Wiesbaden 2001
  2. Seiple, Chris (November 27, 2006). "Revisiting the Geo-Political Thinking of Sir Halford John Mackinder: United States–Uzbekistan Relations 1991–2005" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-08-28. Cyrchwyd 2017-05-29.
  3. Tim Weiner. Legacy of Ashes: The History of the CIA.
  4. "The Brzezinski Interview with Le Nouvel Observateur (1998)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2017-05-29.
  5. "Prague Declaration on European Conscience and Communism" (Press release). Victims of Communism Memorial Foundation. June 9, 2008. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2011-05-13. https://www.webcitation.org/5yf4HFF6d?url=http://www.victimsofcommunism.org/media/article.php?article=3850. Adalwyd May 10, 2011.
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Brent Scowcroft
Cynghorydd Diogelwch Cenedlaethol
19771981
Olynydd:
Richard Allen