Grangetown

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Trelluest)
Jump to navigation Jump to search
Grangetown
Systemau newydd i reoli glaw yn Grangetown, Caerdydd sydd yn glanhau dŵr glaw ac yn ei anfon yn syth i Afon Taf yn hytrach na'i bwmpio dros 8 milltir drwy Fro Morgannwg i’r môr.

Ardal a chymuned yng Nghaerdydd yw Grangetown.[1] Mae'n un o faestrefi mwyaf Caerdydd, ac mae'n ffinio ag ardaloedd Glan'rafon, Treganna a Thre-Biwt. Mae Afon Taf yn nadreddu drwy'r ardal. Fe'i datblygwyd gan deulu Winsdor-Clive, yn bennaf. Gyferbyn ag ardal Bae Caerdydd, mae Grangetown wedi ennill o'r datblygiadau a welwyd yno'n ddiweddar, gan gynnwys adeiladau newydd a gwasanaethau megis cysylltiadau trafnidiaeth gwell.

Roedd gan Grangetown boblogaeth o 18,362 mewn 8,261 aelwyd adeg cyfrifiad 2011[2]. Mae'n ardal amrywiol ac amlddiwylliannol, gyda phoblogaeth sylweddol o bobl o dras Somaliaidd, Asiaidd, a thras cymysg. Mae'n gartref i deml Hindŵ mwyaf Caerdydd,[3] ac amryw o fosgiau gan gynnwys mosg newydd Abu Bakkar.

Enwau Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Grangetown yw'r enw safonol yn y Gymraeg.[1] Gwelir weithiau yr amrywiadau Y Grange (sy'n dyddio'n ôl i'r 19g[4]) ac Y Grenj[5] (sydd yn cyfateb i'r Saesneg The Grange). Mae Owen John Thomas wedi arfer y ffurf Y Grange Mawr (ffurf sydd o bosibl yn dangos dylanwad ffurfiau Saesneg hynafol megis Mor Grange a Grange Moor).[6] Ymddengys fod yr enwau Trelluest[7], Trefaenor[8] a Trefynach[9] yn fathiadau diweddar heb seiliau hanesyddol. Grangetown yw'r ffurf a ddefnyddir gan Wyddoniadur Cymru, ond mae hefyd yn cydnabod bolodaeth y ffurf Trelluest (t. 118).

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[10][11][12][13]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Grangetown (pob oed) (19,385)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Grangetown) (1,867)
  
10.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Grangetown) (11520)
  
59.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Grangetown) (2,441)
  
29.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Davies, John; Menna Baines, Peredur Lynch, Nigel Jenkins (2008). Gwyddoniadur Cymru (yn Cymraeg). Gwasg Prifysgol Cymru, tud. 118. ISBN 0-7083-1954-3
  2. "Gwybodaeth Ward Cyngor Caerdydd". Adalwyd, Ebrill 2019. https://www.cardiff.gov.uk/ENG/Your-Council/Have-your-say/Ask%20Cardiff%20Library/Cyfrifiad%20Grangetown%20-%20Grangetown%20Census.pdf.
  3. Swaminarayan Wales
  4. Er enghraifft, 'ar y Morfa, mewn lle a elwir y Grange', Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru, Thomas Rees a John Thomas (1871).
  5. Er enghraifft, 'Paul a'r Pethe', Vaughan Roderick, BBC (2010).
  6. Owen John Thomas, 'Yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd c.1800-1914', tt. 183 etc., yn Geraint H. Jenkins (gol.), Iaith Carreg Fy Aelwyd (Caerdydd, 1998).
  7. Er enghraifft, 'Marwolaeth Caerdydd: Cyhuddo dyn', Golwg360 (2011).
  8. Er enghraifft, 'Tîm pêl fas gwaith nwy Trefaenor, Caerdydd, 1918', Casglu'r Tlysau.
  9. Er enghraifft, Rhagolwg 27, RhAG (February 2013).
  10. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  11. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  12. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  13. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]