Tom Cruise

Oddi ar Wicipedia
Tom Cruise
GanwydThomas Cruise Mapother IV Edit this on Wikidata
3 Gorffennaf 1962 Edit this on Wikidata
Syracuse, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylBeacon Hill, Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Henry Munro Middle School
  • Glen Ridge High School
  • St. Xavier High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, actor, hedfanwr, cyfarwyddwr, perfformiwr stỳnt Edit this on Wikidata
Taldra170 centimetr Edit this on Wikidata
TadThomas Cruise Mapother III Edit this on Wikidata
MamMary Lee Pfeifferlol Edit this on Wikidata
PriodMimi Rogers, Nicole Kidman, Katie Holmes Edit this on Wikidata
PartnerRebecca De Mornay, Penélope Cruz Edit this on Wikidata
PlantSuri Cruise, Isabella Jane Cruise, Connor Cruise Edit this on Wikidata
PerthnasauWilliam Mapother Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Golden Globe am Actora Gorau - Drama Ffilm Nodwedd, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, IAS Freedom Medal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Saturn am Actor Gorau, Q1321674, Satellite Award for Best Actor in a Musical or Comedy, Golden Globes, Palme d'Or, Gwobr Saturn, Critics' Choice Movie Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.tomcruise.com Edit this on Wikidata
llofnod

Mae Tom Cruise[1] (ganed Thomas Cruise Mapother IV; 3 Gorffennaf 1962) yn actor a gwneuthurwr ffilmiau Americanaidd. Yn ôl y cylchgrawn Forbes, ef yw'r seren enwocaf a mwyaf dylanwadol yn y byd.

Dechreuodd ei yrfa actio'n 19 mlwydd oed gyda'r ffilm Endless Love yn 1981. Ar ôl rolau cefnogol yn Taps (1981) a The Outsiders (1983), cafodd ei brif rôl gyntaf yn y comedi rhamantaidd Risky Business a ryddhawyd ym mis Awst 1983.

Daeth i amlygrwydd ar ôl serennu fel Pete "Maverick" Mitchell yn y ffilm ddrama acsiwn Top Gun (1986). Ers 1996, fe'i adnabyddir ar gyfer ei rôl fel Ethan Hunt yn y ffilmiau Mission: Impossible, a'r ffilm fwyaf diweddar yn y gyfres yw Mission: Impossible - Fallout a ryddhawyd yn 2018.

Ers 1990, mae Cruise wedi bod yn gysylltiedig â'r corff o gredoau ac ymarferion crefyddol Seientoleg.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Cruise yn Syracuse, Efrog Newydd yn fab i Mary Lee (yn gynt Pfeiffer), athrawes addysg arbennig, a Thomas Cruise Mapother III (1934-84)[2], peiriannydd trydanol.[3] Mae'n frawd i dair chwaer Mary Lee, Marian a Cass. Mae ganddo linach Gwyddelig,[4]Almaenaidd a Seisnig.[5]

Magwyd Cruise yn dlawd o fewn magwraeth Gatholig. Cam-driniwyd ef a'i deulu gan y tad ac y mae wedi'i ddisgrifio fel "a merchant of chaos."[6] Yn ôl Cruise, roedd ei dad yn fwli ac yn gachadur, a chafodd ei guro ganddo.

He was the kind of person where, if something goes wrong, they kick you. It was a great lesson in my life—how he'd lull you in, make you feel safe and then, bang! For me, it was like, 'There's something wrong with this guy. Don't trust him. Be careful around him.'[6]

Symudodd y teulu i Ottawa, Canada yn 1971 er mwyn i'r tad gymryd swydd yn gweithio fel ymgynghorydd amddiffyn gyda'r Lluoedd Arfog yn y wlad.[7] Ar ôl cyfnod yng Nghanada, gadawodd y fam y tad gan fynd â'r plant gyda hi'n ôl i'r Unol Daleithiau.[7] Yn nes ymlaen, bu farw ei dad o ganser.[8]

Am gyfnod byr, mynychodd coleg offeiriadol Ffransisgaidd yn Cincinnati ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan yr eglwys gyda'r uchelgais o hyfforddi fel offeiriad.[9] Yn ei flwyddyn olaf chwaraeodd pêl-droed i dîm y coleg cyn cael ei ddiarddel o'r sgwad ar ôl iddo gael ei ddal yn yfed cwrw cyn gêm.[10][11]

Trwy ei fywyd, mynychodd Cruise 15 ysgol dros 14 o flynyddoedd.[12]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cruise yn y 61ain Gwobrau'r Academi, 1989

Un o'r sêr ffilmiau mwyaf yn Hollywood[13][14], dechreuodd yrfa actio Cruise yn 19 mlwydd oed gyda'r ffilm Endless Love yn 1981. Serennodd mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus yn yr 1980au, gan gynnwys y ffilmiau drama The Color of Money (1986), Cocktail (1988), Rain Man (1988), a Born on the Fourth of July (1989).

Cruise yn Sunnyvale, Califfornia, 2006

Yn yr 1990au, serennodd mewn llawer o ffilmiau llwyddiannus eto, gan gynnwys y ffilm rhamantaidd Far and Away (1992), y ffilm ddrama A Few Good Men (1992), y ffilm gyffrous The Firm (1993) y ffilm rhamantaidd arswydus Interview with the Vampire: The Vampire Chronicles (1994), y comedi-ddrama rhamantaidd Jerry Maguire (1996), y ffilm gyffrous erotig Eyes Wide Shut, a'r ffilm ddrama Magnolia (y ddwy yn 1999).

Yn y 2000au, serennodd Cruise mewn nifer o ffilmiau llwyddiannus eraill, gan gynnwys y ffilmiau gyffrous ffuglen wyddonol Vanilla Sky (2001) a Minority Report (2002), y ffilm ryfel The Last Samurai (2003), y ffilm drosedd Collateral (2004), y ffilm drychineb ffuglen wyddonol War of the Worlds (2005), y ffilm ddrama ryfel Lions for Lambs (2007), y ffilm gyffrous hanesyddol Valkyrie (2008), a'r comedi acsiwn Knight and Day (2010). Yn 2012, serennodd yn y ffilm gyffrous Jack Reacher, y ffilm ffuglen wyddonol ôl-apocalyptaidd Oblivion (2013), a'r ffilm ffuglen wyddonol filwrol Edge of Tomorrow (2014). Yn 2016 ailgydiodd yn ei rôl fel Jack Reacher yn y ffilm Jack Reacher: Never Go Back.

Yn 2017, serennodd Cruise mewn adfywiad o'r gyfres ffilmiau The Mummy a seiliwyd ar ffilm arswyd 1932 Boris Karloff.[15] Yn 2018, ailgydiodd yn ei rôl fel Ethan Hunt eto yn Mission: Impossible - Fallout, y chweched ffilm yn y gyfres.

Cruise yn premiere Edge of Tomorrow ym Mharis, 2014.

Yn 2012, Cruise oedd yr actor gyda'r tâl uchaf yn Hollywood.[16] Enillodd 16 o'i ffilmiau dros $100 miliwn yn yr Unol Daleithiau, ac enillodd 22 dros $200 miliwn yn fyd-eang.[17]

Gwobrau ac enwebiadau[golygu | golygu cod]

Mae Cruise wedi ennill Gwobrau Glôb Aur ar gyfer y Perfformiad Gorau gan Actor mewn Ffilm Ddrama yn 1990 ar gyfer Born on the Fourth of July; Perfformiad Gorau gan Actor mewn Ffilm Gomedi/Gerdd yn 1997 ar gyfer Jerry Maguire; a'r Perfformiad Gorau gan Actor mewn Rôl Gefnogol mewn Ffilm yn 2000 ar gyfer Magnolia. Yn 2002, enillodd Cruise Wobr Saturn ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer Vanilla Sky, ac yn 2003 enillodd Wobr AFI ar gyfer Ffilm y Flwyddyn ar gyfer The Last Samurai a Gwobr Empire ar gyfer yr Actor Gorau ar gyfer Minority Report.

Mae Cruise hefyd wedi derbyn tri enwebiad Gwobr yr Academi, ar gyfer Born on the Fourth of July, Jerry Maguire a Magnolia.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Cruise gyda Katie Holmes, 2009

Cafodd Cruise berthynas gyda'i gyd-seren Risky Business Rebecca De Mornay (1983-1985),[18][19] yn ogystal â chanlyn y gantores ac actores Cher, hefyd yn 1985.[20]

Mae Cruise wedi bod yn briod ac wedi ysgaru tair gwaith. Priododd yr actoresau Mimi Rogers (yn briod 1987-1990),[21] Nicole Kidman(yn briod 1990-2001)[22] a Katie Holmes (yn briod 2006 - 2012).[23][24] Yn ogystal â'r priodasau hyn, cafodd berthynas gyda'r actores Penélope Cruz (2001-2004) ar ôl y briodas i Kidman, ond cyn y briodas i Holmes.[25]

Mae gan Cruise dri o blant, dau fabwysiedig ac un biolegol. Mabwysadiodd ferch gyda Kidman o'r enw Isabella yn 1992 a mab o'r enw Connor yn 1995. Gyda Holmes, cafodd un ferch o'r enw Suri, a fe'i ganwyd yn 2006.[26]

Seientoleg[golygu | golygu cod]

Yn ystod ei berthynas gyda Mimi Rogers, daeth Cruise yn rhan, ac yn hwyrach, yn ddadleuwr brwd dros yr Eglwys Seientoleg a'i rhaglenni cymdeithasol cysylltiedig.[21] Wedi brwydr gyda dyslecsia o oedran ifanc, mae Cruise wedi dweud bod Seientoleg, yn enwedig cymorth Study Tech L. Ron Hubbard, wedi'i helpu goresgyn y cyflwr.

Yn fwy diweddar, taniwyd sawl dadl oherwydd barn Cruise tuag at Seientoleg, gan gynnwys siarad yn erbyn seiciatreg a chyffuriau gwrthiselder a siaradodd yn benodol yn erbyn yr actores Brooke Shields a'i defnydd o'r cyffur paroxetine. Ymatebodd yr actores, gan ddweud "[Cruise] should stick to saving the world from aliens and let women who are experiencing postpartum depression decide what treatment options are best for them."[27]

Cruise gyda Mimi Rogers yng Ngwobrau'r Academi, 1989

Cododd Cruise arian i Downtown Medical er mwyn iddynt gynnig therapi dadwenwyno i weithwyr achub 9/11 ar sail gwaith L. Ron Hubbard. Derbyniodd hyn feirniadaeth gan feddygon[28] a diffoddwyr tân.[29] Sbardunodd ddadlau ar ôl ei ymddangosiad mewn fideo YouTube sy'n hybu Seientoleg.[30]

Yn ogystal â hyn, y mae wedi ymdrechu hybu'r crefydd ac i sicrhau ei fod yn derbyn cydnabyddiaeth yn Ewrop. Yn 2005, datgelodd Cyngor Dinas Paris bod Cruise wedi lobio swyddogion Nicolas Sarkozy a Jean-Claude Gaudin, sydd wedi mynd yn eu blaenau i'w ddisgrifio fel llefarydd milwriaethus dros Seientoleg, ac wedi gwrthod delio ag ef yn dyfodol.[31][32]

Crëwyd a chyflwynwyd y Fedal Ryddid Seientoleg ar gyfer Dewrder i Cruise gan arweinydd y mudiad David Miscavige yn 2004.[33]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Teitl Blwyddyn Rôl Cyfarwyddwr Nodiadau Cyfeiriad(au)
Endless Love 1981 Billy Franco Zeffirelli [34]
Taps 1981 David Shawn Harold Becker [35]
The Outsiders 1983 Francis Ford Coppola [36]
Losin' It 1983 Woody Curtis Hanson [37]
Risky Business 1983 Joel Goodson Paul Brickman [38]
All the Right Moves 1983 Stefen Djordjevic Michael Chapman [39]
Legend 1985 Jack Ridley Scott [40]
Top Gun 1986 Lt. Pete "Maverick" Mitchell Tony Scott [41]
The Color of Money 1986 Vincent Lauria Martin Scorsese [42]
Cocktail 1988 Brian Flanagan Roger Donaldson [43]
Rain Man 1988 Charlie Babbitt

Barry Levinson

[44]
Born on the Fourth of July 1989 Ron Kovic Oliver Stone [45]
Days of Thunder 1990 Cole Trickle Tony Scott Hefyd yn ysgrifennwr (stori) [46][47]
Far and Away 1992 Joseph Donelly Ron Howard [48]
A Few Good Men 1992 Lt. Daniel Kaffee Rob Reiner [49]
The Firm 1993 Mitch McDeere Sydney Pollack [50]
Interview with the Vampire 1994 Lestat de Lioncourt Neil Jordan [51]
Mission: Impossible 1996 Ethan Hunt Brian De Palma Hefyd yn gynhyrchydd [52]
Jerry Maguire 1996 Jerry Maguire Cameron Crowe [53]
Without Limits 1998 Robert Towne Cynhyrchydd [54]
Eyes Wide Shut 1999 William Harford Stanley Kubrick [55]
Magnolia 1999 Frank T. J. Mackey Paul Thomas Anderson [56]
Mission: Impossible II 2000 Ethan Hunt John Woo Hefyd yn gynhyrchydd [57][58]
Stanley Kubrick: A Life in Pictures 2001 Adroddwr Jan Harlan [59]
The Others 2001 Alejandro Amenábar Uwch-gynhyrchydd [60]
Vanilla Sky 2001 David Aames Cameron Crowe Hefyd yn gynhyrchydd [61]
Space Station 3D 2002 Toni Myers Adroddwr [62]
Minority Report 2002 John Anderton Steven Spielberg [63]
Austin Powers in Goldmember 2002 Ei hun fel Austin Powers Jay Roach Cameo [64]
Narc 2002 Joe Carnahan Uwch-gynhyrchydd [65]
Shattered Glass 2003 Billy Ray Uwch-gynhyrchydd [66]
The Last Samurai 2003 Nathan Algren Edward Zwick Hefyd yn gynhyrchydd [67][68]
Collateral 2004 Vincent Michael Mann [69]
War of the Worlds 2005 Ray Ferrier Steven Spielberg [70]
Elizabethtown 2005 Cameron Crowe Cynhyrchydd [71]
Ask the Dust 2006 Robert Towne Cynhyrchydd [72]
Mission: Impossible III 2006 Ethan Hunt J. J. Abrams Hefyd yn gynhyrchydd [73]
Lions for Lambs 2007 Y Seneddwr Jasper Irving Robert Redford [74]
Tropic Thunder 2008 Les Grossman Ben Stiller [75]
Valkyrie 2008 Claus von Stauffenberg Bryan Singer [76]
Knight and Day 2010 Roy Miller James Mangold [77]
Mission: Impossible – Ghost Protocol 2011 Ethan Hunt Brad Bird Hefyd yn gynhyrchydd [78]
Rock of Ages 2012 Stacee Jaxx Adam Shankman Fe'i gredydwyd ar drac sain y ffilm:
"Paradise City"
"Wanted Dead or Alive"
"I Want To Know What Love Is"
"Pour Some Sugar On Me"
"Here I Go Again"
"Every Rose Has Its Thorn"
"Rock You Like A Hurricane"
"Don't Stop Believin"
[79][80]
Jack Reacher 2012 Jack Reacher Christopher McQuarrie Hefyd yn gynhyrchydd [81]
Oblivion 2013 Jack Harper Joseph Kosinski [82]
Edge of Tomorrow 2014 Maj. William Cage Doug Liman [83]
Mission: Impossible – Rogue Nation 2015 Ethan Hunt Christopher McQuarrie Hefyd yn gynhyrchydd [84]
Jack Reacher: Never Go Back 2016 Jack Reacher Edward Zwick Hefyd yn gynhyrchydd [85]
The Mummy 2017 Nick Morton Alex Kurtzman [86]
American Made 2017 Barry Seal Doug Liman [87]
Mission Impossible - Fallout 2018 Ethan Hunt Christopher McQuarrie Hefyd yn gynhyrchydd [88]
Top Gun: Maverick 2019 Pete "Maverick" Mitchell Joseph Kosinski Ffilmio; hefyd yn gynhyrchydd [89]

Teledu[golygu | golygu cod]

Teitl Blwyddyn Rôl Sianel Nodiadau
Fallen Angels 1993 Showtime Pennod: "The Frightening Frammis" (director)[90]
Preacher 2016 Gohebydd AMC Peilot[91][92]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Tom Cruise Height, Weight, Body Measurements, Shoe, Best 2021" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-02. Cyrchwyd 2022-01-02.
  2. "About Tom". Time. 24 Mehefin 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-24. Cyrchwyd 3 Chwefror 2013.
  3. "Tom Cruise Biography". Cyrchwyd 17 Hydref 2007.
  4. "Tom Cruise's Irish Ancestry". Eneclann. 28 Mawrth 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-07. Cyrchwyd 4 Ebrill 2013.
  5. "Ancestry of Tom Cruise". Wargs.com. Cyrchwyd 8 Awst 2009.
  6. 6.0 6.1 "I Can Create Who I Am". Parade. 9 Ebrill 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ebrill 2011. Cyrchwyd 18 Chwefror 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. 7.0 7.1 "Tom Cruise: An Unauthorized Biography" (PDF). Cyrchwyd 25 Medi 2012.
  8. "Tom Cruise and Katie Holmes: Very Different Upbringings". ABC. 10 Gorffennaf 2012.
  9. Cf. Tom Cruise: An Unauthorized Biography, pp.24-26.
  10. Cf. Tom Cruise: An Unauthorized Biography, page 47
  11. Tom Cruise Biography - Facts, Birthday, Life Story. Biography.com. Retrieved on 2012-06-13.
  12. "Famous New Jerseyans". NEW JERSEY ENTERTAINERS. Cyrchwyd 7 Hydref 2014.
  13. Michael West. "'Edge of Tomorrow': Is Tom Cruise Still The World's Biggest Movie Star? [Poll]". Cyrchwyd 2 Ebrill 2015.
  14. "Four Reasons Why Tom Cruise is Still the Biggest Star in the World". Hollywood.com. 20 Rhagfyr 2011. Cyrchwyd 2 Ebrill 2015.
  15. Mendelson, Scott (21 Ionawr 2016). "Tom Cruise will officially star in the Mummy". Forbes. https://www.forbes.com/sites/scottmendelson/2016/01/21/tom-cruise-brings-star-power-to-universals-mummy-reboot/#2d447df71ccf. Adalwyd 22 Ionawr 2016.
  16. Pomerantz, Dorothy (18 Ebrill 2012). "Tom Cruise Tops Our List Of Hollywood's Highest-Paid Actors". Forbes. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2012.
  17. "Tom Cruise". boxofficemojo.com. Cyrchwyd 3 Mehefin 2013.
  18. "Yahoo biography of De Mornay". Sg.movies.yahoo.com. Cyrchwyd 5 Mehefin 2011.
  19. "Cruise Control". Vh1. 27 Mai 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-29. Cyrchwyd 5 Mehefin 2011.
  20. "Cher reveals affair with Tom Cruise". NewsComAu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-17. Cyrchwyd 2 Ebrill 2015.
  21. 21.0 21.1 Masters, Kim (Medi–Hydref 2005). "The Passion of Tom Cruise". Radar. as excerpted by Radar at RadarOnline.com Archifwyd 2006-10-19 yn y Peiriant Wayback.
  22. "Nicole Kidman says she still loves Tom Cruise - Entertainment - Celebrities - TODAY.com". Today.msnbc.msn.com. 9 Mai 2006. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-27. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2012.
  23. Soriano, César G. (5 Mai 2005). "Tom, Katie flying high on romance". USA Today.
  24. "Tom Cruise, Katie Holmes to divorce". CNN Entertainment. 29 Mehefin 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-29. Cyrchwyd 29 Mehefin 2012.
  25. "Cruise and Cruz end relationship". BBC News. 26 Mawrth 2004. Cyrchwyd 31 Hydref 2008.
  26. Smith, Ryan E. (6 Hydref 2005). "Baby frenzy begins: Katie Holmes and Tom Cruise are expecting their first child together" Archifwyd 2020-12-29 yn y Peiriant Wayback.. The Blade
  27. "Brooke Shields Lashes Out at Tom Cruise". People. 2 Mehefin 2005.
  28. O'Donnell, Michelle (4 Hydref 2003). "Scientologist's Treatments Lure Firefighters". The New York Times.
  29. Friedman, Roger (22 Rhagfyr 2006). "Tom Cruise Can't Put Out These Fires". Fox News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-01-09. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2006. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  30. "Is Tom Cruise is Really Sick....???". 23 Hydref 2015. Cyrchwyd 23 Hydref 2015.
  31. "Paris snubs Scientology 'militant' Cruise". Irish Examiner. 13 Gorffennaf 2005. Cyrchwyd 15 Ebrill 2012.[dolen marw]
  32. "Tom Cruise ne sera pas citoyen d'honneur de Paris" Archifwyd 2012-04-25 yn y Peiriant Wayback.. 12 Gorffennaf 2005.
  33. Maureen Orth (Hydref 2012). "What Katie Didn't Know". Vanity Fair. Nodyn:Inconsistent citations
  34. Ferguson, John. "Endless Love". Radio Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-21. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  35. Canby, Vincent (9 Rhagfyr 1981). "Taps (1981)". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  36. Bernardin, Marc; Susman, Gary (8 Tachwedd 2007). "Tom Cruise, The Outsiders". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-21. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  37. Bernardin, Marc; Susman, Gary (8 Tachwedd 2007). "Tom Cruise, Shelley Long, ..." Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-21. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  38. Bernardin, Marc; Susman, Gary (8 Tachwedd 2007). "Tom Cruise, Rebecca De Mornay, ..." Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-21. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  39. Bernardin, Marc; Susman, Gary (8 Tachwedd 2007). "Tom Cruise, All the Right Moves". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-21. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  40. Canby, Vincent (18 Ebrill 1986). "Legend (1985)". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  41. Oughton, Jack. "Outrageous Film Characters You Didn't Know Were Based On Real People". Empire. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-21. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  42. Canby, Vincent (17 Hydref 1986). "The Color of Money (1986)". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  43. Rickey, Carrie (29 Gorffennaf 1988). "Tom Cruise And Bryan Brown Mix A 'Cocktail'". The Philadelphia Inquirer. Robert J. Hall. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  44. Benson, Shiela (16 Rhagfyr 1988). "Movie Review: 'Rain Man'--Not the Ordinary Buddy Film". Los Angeles Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  45. Travers, Peter (20 Rhagfyr 1989). "Born on the Fourth of July". Rolling Stone. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  46. Benson, Shiela (27 Mehefin 1990). "Movie Review : Utility Vehicle : 'Days of Thunder': The NASCAR racing footage and Tom Cruise's grin are fine. Robert Towne's malnourished screenplay isn't". Los Angeles Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  47. "Days of Thunder (1990) – Production Credits". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  48. James, Caryn (22 Mai 1986). "Far and Away (1992)". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  49. Kehr, Dave (11 Rhagfyr 1992). "Full Court Press". Chicago Tribune. Tony W. Hunter. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  50. Travers, Peter (30 Mehefin 1993). "The Firm". Rolling Stone. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  51. "Interview with the Vampire (1994) – Acting Credits". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  52. "Mission Impossible". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  53. McCarthy, Todd (8 Rhagfyr 1996). "Review: 'Jerry Maguire'". Variety. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  54. "Without Limits (1998)". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  55. McCarthy, Todd (12 Gorffennaf 1999). "Review: 'Eyes Wide Shut'". Variety. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  56. Turan, Kenneth (17 Rhagfyr 1999). "Random Lives, Bound by Chance". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-24. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  57. Scott, A. O. (24 Mai 2000). "Mission Impossible 2 (2000)". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  58. "Mission Impossible 2 (2000) – Production Credits". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  59. "Stanley Kubrick: A Life in Pictures (2001) – Acting Credits". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  60. "The Others (2001)". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  61. McCarthy, Todd (9 Rhagfyr 2001). "Review: 'Vanilla Sky'". Variety. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  62. "Space Station". British Board of Film Classification. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-21. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  63. Ebert, Roger (21 Mehefin 2002). "Minority Report Movie Review & Film Summary (2002)". Roger Ebert. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  64. "In brief: Tom Cruise in Austin Powers cameo". The Guardian. 2 Gorffennaf 2002. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  65. "Narc (2002) – Production Credits". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  66. "Shattered Glass – Production Credits". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  67. Ebert, Roger (5 Rhagfyr 2003). "The Last Samurai Movie Review (2003)". Roger Ebert. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  68. LaSalle, Mick (5 Rhagfyr 2003). "A dogged Cruise learns new rules of war -- and takes a thumping in the process -- as a Western samurai". San Francisco Chronicle. Jeffrey M. Johnson. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  69. Ebert, Roger (6 Awst 2004). "Collateral Movie Review & Film Summary (2004)". Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  70. Travers, Peter (6 Gorffennaf 2005). "War of the Worlds". Rolling Stone. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  71. Scott, A. O. (14 Hydref 2005). "Grief, Love and Shoes in a Kentucky Stew". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  72. Dargis, Manohla (10 Mawrth 2006). "A Writer's Story of Rage, Lust and Oranges". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  73. Dargis, Manohla (5 Mai 2006). "Mission: Impossible III (2006)". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  74. Chocano, Carina (9 Tachwedd 2007). "As a matter of policy, 'Lions' doesn't play". Los Angeles Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  75. O' Hara, Helen; De Semlyen, Phil. "Tom Cruise". Empire. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-21. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  76. Turan, Kenneth (25 2008). "Faltering ride of the 'Valkyrie'". Los Angeles Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014. Check date values in: |date= (help)
  77. Denby, David (5 Gorffennaf 2010). "Thrills and Chills". The New Yorker. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  78. Dargis, Manohla (15 Rhagfyr 2011). "Mission: Impossible Ghost Protocol (2011)". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  79. Lane, Anthony (25 Mehefin 2012). "Face the Music". The New Yorker. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  80. "Tom Cruise Covers Guns N' Roses, Russell Brand Sings Jefferson Starship on 'Rock of Ages' Soundtrack". The Hollywood Reporter. 1 Mai 2012. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  81. Scott, A. O. (20 Rhagfyr 2012). "Might Make Him Right". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  82. Turan, Kenneth (18 Ebrill 2013). "Review: Tom Cruise's 'Oblivion' a sci-fi adventure to remember". Los Angeles Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  83. Dargis, Manohla (5 Mehefin 2014). "Killed in Action by Aliens, Over and Over Again". The New York Times. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2014.
  84. Turan, Kenneth (30 Gorffennaf 2015). "Once again, Tom Cruise accomplishes the near-impossible in 'Rogue Nation'". Los Angeles Times. Cyrchwyd 1 Awst 2015.
  85. Evry, Max (20 Hydref 2015). "Jack Reacher: Never Go Back Begins Filming with Tom Cruise". comingsoon.net. Cyrchwyd 22 Hydref 2015.
  86. Kroll, Justin (14 Mawrth 2016). "Marwan Kenzari Joins Tom Cruise in 'The Mummy' Reboot". Variety. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Mawrth 2016. Cyrchwyd 24 Mawrth 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  87. Fleming Jr, Mike (27 Mai 2015). "Universal Sets Tom Cruise-Doug Liman 'Mena' Flight Plan For January 2017". Deadline Hollywood. Penske Media Corporation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mai 2015. Cyrchwyd 29 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  88. "Christopher McQuarrie (@christophermcquarrie) • Instagram photos and videos". www.instagram.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-03-25.
  89. Mitchell, Robert (31 Mai 2018). "Tom Cruise Shares First Look Photo as 'Top Gun 2' Begins Production". Variety. Cyrchwyd 1 Mehefin 2018.
  90. "Variety and Daily Variety Television Reviews, 1993-1994". Variety. 3 Medi 1993. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2014.
  91. "TOM CRUISE MAKES AN EXPLOSIVE APPEARANCE IN THE "PREACHER" PILOT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-29. Cyrchwyd 2016-03-28.
  92. Seth Rogen and Evan Goldberg on Blowing Up Tom Cruise in AMC’s ‘Preacher’