Robert Redford

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Robert Redford
Robert Redford (cropped).jpg
Ganwyd 18 Awst 1936 Edit this on Wikidata (81)
Santa Monica Edit this on Wikidata
Alma mater Pratt Institute, American Academy of Dramatic Arts, University of Colorado Boulder Edit this on Wikidata
Gwaith Actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, person busnes, actor llwyfan edit this on wikidata
Priod Lola Van Wagenen, Sibylle Szaggars Edit this on Wikidata
Plant Amy Redford, James Redford Edit this on Wikidata
Gwobr/au Y Medal Celf Cenedlaethol, Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Marchog y Lleng Anrhydeddus, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr yr Arlywydd: Medal Rhyddid, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Anrhydedd y Kennedy Center Edit this on Wikidata

Actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, model, amgylcheddwr, a dyngarwr Americanaidd yw Charles Robert Redford Jr. (ganwyd 18 Awst, 1936), a elwir gan amlaf yn Robert Redford. Ymysg ei ffilmiau enwocaf fel actor yw Butch Cassidy and the Sundance Kid, Jeremiah Johnson, The Sting, ac All the President's Men.

Enillodd Gwobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau ym 1980 am ei ffilm Ordinary People a Gwobr Anrhydeddus yr Academi am Lwyddiant Oes yn 2002.

Ym 1978 cyd-sefydlodd Gŵyl Ffilm Utah/UDA, a gafodd ei hail-enwi'n Ŵyl Ffilm Sundance ym 1991 ar ôl cymeriad Redford yn Butch Cassidy and the Sundance Kid. Mae bellach yn ŵyl ffilm annibynnol fwyaf yr Unol Daleithiau.