Steven Spielberg

Oddi ar Wicipedia
Steven Spielberg
GanwydSteven Allan Spielberg Edit this on Wikidata
18 Rhagfyr 1946 Edit this on Wikidata
Cincinnati Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Talaith California, Long Beach
  • Saratoga High School
  • Arcadia High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, actor, casglwr celf, person busnes, awdur ffuglen wyddonol, actor ffilm, cynhyrchydd gweithredol, golygydd ffilm, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr, sgriptiwr ffilm Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadArnold Spielberg Edit this on Wikidata
PriodAmy Irving, Kate Capshaw Edit this on Wikidata
PlantSasha Spielberg, Jessica Capshaw, Max Spielberg, Sawyer Spielberg, Theo Spielberg, Destry Allyn Spielberg Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE, Cadlywydd Urdd y Coron, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Emmy 'Daytime', Gwobr Urdd Cyfarwyddwyr America, Medal y Dyniaethau Cenedlaethol, Philadelphia Liberty Medal, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr yr Academi am Ffilm Orau, New York Film Critics Circle Award for Best Animated Film, Gwobr BAFTA am y Ffilm Orau, Anrhydedd y Kennedy Center, New York Film Critics Circle Award for Best Film, National Society of Film Critics Award for Best Director, National Society of Film Critics Award for Best Director, Gwobr Saturn am y Cyfarwyddwr Gorau, Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau, Boston Society of Film Critics Award for Best Director, Gwobr Saturn am y Cyfarwyddwr Gorau, Critics' Choice Movie Award for Best Director, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau, London Film Critics Circle Award for Director of the Year, London Film Critics Circle Award for Film of the Year, Gwobr Saturn am y Cyfarwyddwr Gorau, New York Film Critics Circle Award for Best Film, Gwobr Emmy Daytime am Rhaglen Blant Animeddiedig Eithriadol, London Film Critics Circle Award for Film of the Year, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Gwobr Inkpot, Officier de la Légion d'honneur, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Gwobr Heddwch y Cenhedloedd Unedig, Irving G. Thalberg Memorial Award, Golden Globes, Gwobr i'r Sgript Gorau (Gŵyl Ffilm Cannes), Gwobr César, Y César Anrhydeddus, Gwobr Saturn am y Cyfarwyddwr Gorau, Urdd y Wên, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Hall of Fame Ffantasi a llenyddiaeth Wyddonias, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Gwobr y Bwrdd Adolygu Cenedlaethol am y Ffilm Orau, Gwobr BAFTA am Gyfarwyddo Gorau, Eagle Scout, Gwobr Eryr y Sgowtiaid Nodedig, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Doctor honoris causa o Brifysgol Jagiellonian, Krakow, Gwobr Golden Globe am Gyfarwyddwr Gorau, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Director, Dallas-Fort Worth Film Critics Association Award for Best Director Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://amblin.com/steven-spielberg/ Edit this on Wikidata
llofnod

Cyfarwyddwr Ffilm yw Steven Allen Spielberg KBE (ganwyd 18 Rhagfyr 1946, Cincinnati, Ohio, UDA). Yn 2006, rhestrodd cylchgrawn Premiere ef fel y person mwyaf pŵerus a dylanwadol ym myd ffilmiau. Rhestrodd cylchgrawn Time ef fel un o'r 100 o Bobl Mwyaf y Ganrif. Ar ddiwedd yr 20g, cafodd ei enwi gan gylchgrawn Time fel un o gymeriadau mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth. Mewn gyrfa sydd wedi ymestyn dros bedwar degawd, mae ffilmiau Spielberg wedi ymdrin â nifer o themâu gwahanol. Gwelwyd ffilmiau cynharaf Spielberg, sef ffilmiau gwyddonias ac antur (yn aml yn canolbwyntio ar blant), fel y ddelfryd o ffilmiau mawrion Hollywood. Yn y blynyddoedd mwy diweddar, dechreuodd ei ffilmiau ymdrin â themâu fel yr holocost, caethwasiaeth, rhyfel a therfysgaeth.

Enillodd Spielberg Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau am Schindler's List (1993) a Saving Private Ryan (1998). Torrodd tair o ffilmiau Spielberg y record mewn sinemau am faint o arian a wnaethant, sef Jaws (1975), E.T. the Extra-Terrestrial (1982), a Jurassic Park (1993).

Ei fywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Spielberg yn Cincinnati, Ohio, i deulu Iddewig. Perchennog bwyty a phianydd oedd ei fam, Leah Adler, tra bod ei dad Arnold Spielberg yn beirianydd trydanol a weithiai yn datblygu cyfrifiaduron.[1] Treuliodd ei blentyndod yn Haddon Heights, New Jersey a Scottsdale, Arizona, un o faesdrefi mawr Phoenix. Trwy gydol ei arddegau, creodd Spielberg ffilmiau 8mm amatur gyda'i ffrindiau. Ffilmiwyd y cyntaf o'r ffilmiau hyn ym mwyty Pinnacle Peak Patio yn Scottsdale. Cododd dâl o 25 cent i weld ei ffilmiau tra byddai ei chwaer yn gwerthu popcorn.

Ym 1958, daeth Spielberg yn scowt a derbyniodd fathodyn anrhydedd am greu ffilm 8mm naw munud o hyd o'r enw The Last Gunfight.[2] Mewn cyfweliad ag ef flynyddoedd yn hwyrach, cofiodd Spielberg yn ôl at y cyfnod a dywedodd, "My dad's still-camera was broken, so I asked the scoutmaster if I could tell a story with my father's movie camera. He said yes, and I got an idea to do a Western. I made it and got my merit badge. That was how it all started."[3] Pan yn 13 oed, enillodd Spielberg wobr am ffilm ryfel 40 munud o hyd o'r enw Escape to Nowhere. Ym 1963, pan oedd yn 16, ysgrifennodd a chyfarwyddodd Spielberg ei ffilm annibynnol gyntaf, ffilm antur gwyddonias 140-munud o'r enw Firelight (a oedd wedi ysbrydoli Close Encounters yn ddiweddarach). Dangoswyd y ffilm, a wnaed ar gyllideb o UDA$500, yn ei sinema leol a gwnaeth elw o $1.00.[4] Gwnaeth nifer o ffilmiau o'r Ail Ryfel Byd hefyd yn seiliedig ar hanesion rhyfel ei dad.

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Cyfarwyddwr

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.