E.T. the Extra-Terrestrial

Oddi ar Wicipedia
E.T. the Extra-Terrestial

E.T. the Extra-Terrestial
Cyfarwyddwr Steven Spielberg
Cynhyrchydd Kathleen Kennedy
Steven Spielberg
Ysgrifennwr Melissa Mathison
Serennu Henry Thomas
Dee Wallace
Robert MacNaughton
Drew Barrymore
Peter Coyote
Cerddoriaeth John Williams
Sinematograffeg Allen Daviau
Golygydd Carol Littleton (golygwr ffilm)
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Universal Studios
Dyddiad rhyddhau 11 Mehefin 1982
Amser rhedeg 115 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg

Ffilm ffugwyddonol yw E.T. the Extra-Terrestrial (1982). Cafodd y ffilm ei chyd-gynhyrchu a'i chyfarwyddo gan Steven Spielberg a chafodd ei hysgrifennu gan Melissa Mathison. Mae Henry Thomas, Robert MacNaughton, Drew Barrymore, Dee Wallace a Peter Coyote yn actio yn y ffilm. Mae'r ffilm yn adrodd hanes Elliott (sy'n cael ei actio gan Thomas), bachgen unig sy'n dod yn ffrindiau gyda chreadur o blaned arall, a elwir yn "E.T.", sydd wedi ei adael ar y ddaear. Mae Elliott a'i siblingiaid yn helpu E.T. i ddychwelyd adref tra'n ceisio cuddio'i bresenoldeb wrth ei fam a'r llywodraeth.

Seiliwyd y syniad ar gyfer E.T. ar ffrind dychmygol ar oedd gan Spielberg pan ysgarodd ei rieni. Pan ddaeth gwaith ar Night Skies i ben, cyfarfu Spielberg â Melissa Mathison a llogodd hi i ysgrifennu sgript ar gyfer E.T. Ffilmwiyd y ffilm yng Nghaliffornia o fis Medi i Ragfyr 1981 ar gyllid o $10.5 miliwn o ddoleri Americanaidd. Yn wahanol i'r mwyafrif o ffilmiau, ffilmiwyd E.T. yn gyffredinol yn ei drefn gronolegol er mwyn annog perfformiadau emosiynol credadwy wrth yr actorion ifanc.

Cast[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm wyddonias. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.