Munich (ffilm 2005)

Oddi ar Wicipedia
Munich
Cyfarwyddwr Steven Spielberg
Cynhyrchydd Kathleen Kennedy
Steven Spielberg
Barry Mendel
Colin Wilson
Ysgrifennwr Tony Kushner
Eric Roth
Serennu Eric Bana
Daniel Craig
Ciarán Hinds
Mathieu Kassovitz
Hanns Zischler
Geoffrey Rush
Ayelet Zurer
Michael Lonsdale
Mathieu Amalric
Gila Almagor
Moritz Bleibtreu
Cerddoriaeth John Williams
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Sinemau'r UDA & DVD Byd-eang (ac eithrio Siapan)
Universal Pictures
Canada
Alliance Atlantis
Dyddiad rhyddhau 23 Rhagfyr, 2005
Amser rhedeg 163 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg, Hebraeg, Almaeneg, Eidaleg, Ffrangeg

Mae Munich (2005) yn ffilm rhannol-ffuglennol am ddial cyfrinachol y llywodraeth Israel ar ôl cyflafan athletwyr Olympaidd Iddewig ym München ym 1972. Fe'u lladdwyd gan wŷr arfog y Black September. Mae'r ffilm yn serennu Eric Bana a chafodd y ffilm ei chynhyrchu a'i chyfarwyddo ar y cyd gyda Steven Spielberg. Ysgrifennwyd y sgript gan Tony Kushner a Eric Roth.

Dengys y ffilm sgwad o lofruddion, yn cael ei harwain gan gyn-asiant Mossad (Eric Bana) yn mynd ar drywydd ac yn lladd yr aelodau o Black September a oedd o dan amheuaeth o lofruddio un ar ddeg o athlewyr Israel. Enwebwyd y ffilm am bump o Wobrau'r Academi gan gynnwys y Ffilm Orau.

Mae rhan gyntaf yn ffilm, sy'n dangos yr athletwyr yn cael eu cymryd yn wystlon, yn agos iawn at y digwyddiad hanesyddol. Mae ail hanner y ffilm sy'n dangos ymateb y llywodraeth Iddewig wedi bod yn destun trafod gan feirniaid ffilm a newyddiadurwyr. Cyfeiria Spielberg at ail hanner y ffilm fel "ffuglen hanesyddol", gan ddweud ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan weithredoedd Iddewig go iawn sydd bellach yn cael eu galw yn Ymgyrch Digofaint Duw.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ddrama. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.