Phoenix, Arizona

Oddi ar Wicipedia
Phoenix
Mathdinas yn yr Unol Daleithiau, tref ddinesig, dinas fawr, dinas â miliynau o drigolion Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlFfenics Edit this on Wikidata
En-us-Phoenix.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,608,139 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1868 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethKate Gallego Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−07:00, Cylchfa Amser y Mynyddoedd Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Suceava, Ramat Gan, Calgary, Chengdu, Hermosillo, Himeji, Taipei, Prag, Inis, Grenoble, Catania, Dubai Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMaricopa County Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd1,341.477468 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr1,086 troedfedd, 331 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Salt Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.4483°N 112.0739°W Edit this on Wikidata
Cod post85003 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Phoenix Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Phoenix Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethKate Gallego Edit this on Wikidata
Map

Dinas yng ngorllewin yr Unol Daleithiau yw Phoenix. Hi yw prifddinas a dinas fwyaf talaith Arizona. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 1,552,259; Phoenix yw'r unig brifddinas talaith yn yr Unol Daleithiau sydd a phoblogaeth dros filiwn, a saif yn bumed o ran dinasoedd yr Unol Daleithiau yn ôl poblogaeth. Roedd poblogaeth yn ardal ddinesig yn 2007 yn 4,179,427.

Trigolion gwreiddiol yr ardal oedd pobl frodorol yr Hohokam, oedd yn defnyddio camlesi i ddyfrhau'r tiroedd ar gyfer tyfu cnydau. Gostyngodd y boblogaeth yn raddol oherwydd prinder dŵr, a bychan oedd y boblogaeth erbyn dechrau'r 19g. Sefydlwyd y ddinas tua 1867 gan Jack Swilling, mewn man lle roedd olion camlesi'r Hohokam. Yn ddiweddarach, enwyd y ddinas yn "Phoenix" ar ôl y Ffenics chwedlonol, oherwydd fod y ddinas wedi tyfu ar olion sefydliad cynharach.

Gefeilldrefi Phoenix[golygu | golygu cod]

Gwlad Dinas
Taiwan Taipei
Canada Calgary
Yr Eidal Catania, Sisili
Tsieina Chengdu
Iwerddon Inis
Ffrainc Grenoble
Mecsico Hermosillo
Japan Himeji
Gweriniaeth Tsiec Prag
Israel Ramat Gan

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Phoenix
Eginyn erthygl sydd uchod am Arizona. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.