Siacsiwca

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Siacsiwca Twnisia mewn padell

Mae'r Siacsiwca (Arabeg: شكشوكة‎, Hebraeg: שקשוקה‎, Sillafid Saesneg: Shakshuka neu shakshouka a sillafiad Ffrangeg: chakchouka) yn bryd o fwyd syml o wy wedi ei botsio mewn saws tomato, pupur tsili a winwns, fel rheol wedi ei ychwanegu gan sbeisys cwmin, paprika, pupur cayenne, a cheuen yr India. Ymysg cynhwysion eraill llai cyffredin mae saws Tabasco a mêl.[1][2] Er i'r saig fodoli yn ardal Môr y Canoldir a'r Dwyrain Canol ers amser, mae'r ychwanegiad o wy a ffurf llyseiol yn hannu o Twnisia.[3]

Etymoleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r gair "siacsiwca" o'r Arabeg شَكْشُوكَةٌ‎ sy'n golygu "cymysgfa" mewn slang Arabeg [4] ac yn arbenig tafodiaith Twnisia o Arabeg.[9] Daw'r gair o'r ferf Arabeg, شَكَّ sef shakka, sy'n golygu "dal/gludo/clymu ar ei gilydd".[5]

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Pryd unigol o siacsiwca

Ceir prydau ar ffurf cawl wedi eu seilio ar domato ar draws Ymerodraeth yr Otomaniaid yng ngwledydd yr Aifft, Syria, Balcan a'r Maghreb. Gelwyd hwy'n siacsiwca yn y Maghreb. Roedd y pryd Ottomanaidd Twrcaidd, şakşuka (sillafiad Twrceg cyfoes) yn bryd o lysiau wedi eu coginio gyda briwgig neu afu (ciġer). Ychwanegwyd tomato a phupir yn hwyrach a datblygwyd ffurfiau di-gig (a rhatach, felly). Byddai cymunedau Iddewig yn y Maghreb Otomoanaidd yn gweini amrywiad ar parve llysieol a gwyddir bod Iddewon Twnisia yn creu fersiwn sbeislyd o wy siacsiwca.[6]

Ceir trafodaeth ac anghytundeb ar wreiddiau'r pryd. Cred rhai iddo wreiddio yn Nhwrci Otomanaidd tra i eraill gredu iddo ddod o Moroco ac eraill yn haeru mae o'r Iemen y daw lle gweinir hi gyda sahawiq sy'n bast gwrdd poeth.

Er nad yw'r pryd yn gynhenid i'r Lefant, daeth i Israel gyda'r Iddewon a ffodd o'r gwledydd Arabaidd yn dilyn Annibyniaeth Israel wedi'r Ail Ryfel Byd gan ddod yn bryd cyffredin i'r cymunedau Twnisia, Aljeria a Moroco yn y wlad. Yn Israel ychwanegir ŵy i'r siacsiwca sydd wedi eu potchio neu gellir defnyddio wy wedi'u rwdlan fel yn y pryd Twrcaidd, menemen.[7][6]

Coginio[golygu | golygu cod y dudalen]

Coginir ac yn aml, gweinir y pryd mewn padell cast iron, neu ym Moroco, tajîn.

Gan mai bwyd gwerinol ydoedd, fel y cawl Cymreig, ceir amrywiaethau o wlad i wlad ac o deulu i deulu. Gellir ychwanegu briw gig oen, crasu sbeisiau, iogwrt a pherlysiau.[8] Gelir hefyd ei goginio i gynnwys caws hallt megis ffeta..[9] Ymysg y sbeisus caiff eu defnyddio mae llysiau'r bara 'di malu (coriander), carwy, paprika, cwmin and pupur cayenne.[10][11]

Siacsiwca yn Israel[golygu | golygu cod y dudalen]

Shakshuka gyda bara pita

Daeth y siacsiwca i Israel gyda'r mudiad enfawr o Iddewon o'r gwledydd Arabaidd, yn enwedig wedi Annibyniaeth yn 1948.

Yn 1950au cynhwyswyd siacsiwca gyda 'spam' kosher (o'r enw loof) ar gyfer rations yr Llu Amddiffyn Israel, yr IDF, gelwir hi yn Lafgania Shakshuka.[12]

Erbyn hyn, mae'r term siacsiwca yn cael ei ddefnyddio ar gyfer sawl gawhanol amrywiaeth ar y bwyd. Ceir dau brif fersiwn; y Tripolitan, lle mae'r sail yn cynnwys tomato, garlleg a sbeis a'r Tunisian. Gelwir gwahanol fathau hefyd wrth enwau arbennig e.e. Siacsiwca Balcan (gyda caws ffeta a pherlysiau). Bwytir y siacsiwca gyda bara, fel rheol bara pita.

Siacsiwca yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweinir siacsiwca mewn sawl bwyty yng Nghymru erbyn hyn. Gellir ei phrynu fel un o'r prydai brecwast ym mwyty Medina yn Aberystwyth.[13] Gweinir y pryd mewn padell ffrio fechan unigol i'r bwytawr gyda bara pita.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Shakshuka". TABASCO® Brand. Cyrchwyd 2018-12-03.
  2. "Mediterranean Eggs (Shakshuka)". Food Network. Cyrchwyd 2018-12-03.
  3. Roden, Claudia (2008). The New Book of Middle Eastern Food. Knopf Doubleday Publishing Group. p. 168. ISBN 9780307558565.
  4. Planet, Lonely (2017-03-01). The World's Best Superfoods (yn Saesneg). Lonely Planet. ISBN 9781787010369. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-16. Cyrchwyd 2017-11-15.
  5. Team, Almaany. "Translation and Meaning of Shakshouka In Arabic, English-Arabic Dictionary of  terms Page 1". www.almaany.com (yn Arabeg). Cyrchwyd June 1, 2018.
  6. 6.0 6.1 Encyclopedia of Jewish Food, Houghton Mifflin Harcourt, 17 Nov 2010, By Gil Marks
  7. Artzeinu: An Israel Encounter, By Joel Lurie Grishaver, 2008
  8. Gordon, Peter (2018-06-03). "Peter Gordon's lamb shakshouka recipe". The Guardian. ISSN 0261-3077. https://www.theguardian.com/lifeandstyle/2018/jun/03/peter-gordons-lamb-shakshouka-recipe. Adalwyd 2018-07-21.
  9. Clifford-smith, Stephanie (2011-06-07). "Three of a kind ... shakshouka". Sydney Morning Herald. http://www.smh.com.au/entertainment/restaurants-and-bars/three-of-a-kind--shakshouka-20110603-1flpc. Adalwyd 2017-08-07.
  10. "Shakshouka Recipe - Tunisian Recipes". PBS Food. 2015-03-12. Cyrchwyd 2018-07-21.
  11. Clark, Melissa. "Shakshuka With Feta Recipe". NYT Cooking. Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2018.
  12. Raviv, Yael (Tachwedd 2015). Falafel Nation: Cuisine and the Making of National Identity in Israel. University of Nebraska Press. p. 171. ISBN 978-0-8032-9023-5.
  13. http://medina-aberystwyth.co.uk/media/1026/breakfast-menu-v4-oct2018.pdf