Sgwrs Defnyddiwr:Cybellechomsky

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Croeso[golygu cod]

Shwmae, Cybellechomsky! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Message in English | Message en français
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,412 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 08:05, 6 Hydref 2022 (UTC)[ateb]

Erthyglau sy'n gyfieithiadau yn unig (heb eu cywiro, heb fod yn driw i arddull Wici)[golygu cod]

Cyn mynd ati i greu unrhyw erthygl newydd, mae angen gwiro, cywiro a gwella dy erthyglau presennol. Dydy nhw ddim yn cyd-fynd a'r arddull arferol, dim categori perthnasol, mae nhw'n cychwyn gyda phenawd, mae na wallau cyfieithu sy'n golygu llawer o waith i olygydd sy'n siarad Cymraeg. Os na fedri wneud hyn, a wnei di eu dileu, oni bai bod un o'n golygyddion ni wedi eu cywiro, wrth gwrs. Diolch - ond nid pwrpas y Cymhorthydd Cyfieithu yw chwydu gwybodaeth heb ei gywiro. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:19, 7 Hydref 2022 (UTC)[ateb]

Gofynais i ti 'beidio golygu hyd nes dy fod wedi cywiro'r erthyglau. Anwybyddaist y cyngor hwn. Rwyf felly wedi dy atal rhag golygu pellach. Llywelyn2000 (sgwrs) 08:00, 12 Hydref 2022 (UTC)[ateb]

Shwmae. Mae dy olygiad ar Swmer yn smonach llwyr mae gen i ofn. Cafodd popeth ar waelod y dudalen eu dileu, yn cynnwys y cyfeiriadau a'r categoriau. Roedd y testun a gyfieithiwyd o enwiki yn llawn o nodiadau ar goll (Nodyn:Cuneiform) ac ychydig o bethau eraill. Bydd yn rhaid addasu'r nodiadau hyn cyn gallu cynnwys y testun hyn i gyd.

Am nawr felly rwy wedi adfer y fersiwn gwreiddiol cyn yr holl olygiadau diweddar.

Beth am geisio gyfieithu neu addasu y darn mewn i'r blwch tywod neu i dudalen o fewn dy ofod Defnyddiwr? Wedyn galli di edrych ar gael gwared yr holl wallau mewn testun coch cyn ei gopio i dudalen yr erthygl ei hun. Diolch! --Dafyddt (sgwrs) 22:21, 7 Hydref 2022 (UTC)[ateb]


Diolch am fod mor frwdfrydig, ond STOPIWCH!

Peidiwch â chyfrannu at ragor o erthyglau hyd nes y byddwch chi wedi trwsio'r rhai rydych chi wedi dechrau arnyn nhw. Rydyn ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae'ch gwaith yn gwneud difrod, ac mae angen i olygyddion eraill ddod i mewn a thrwsio'r hyn rydych chi wedi'i wneud. Mae eich gwaith yn faich yn hytrach na chymorth.

Rhaid i chi fod yn fwy ofalus eich dewis wrth gyfieithu o'r Saesneg. Nid yw llawer iawn o'r wybodaeth yn yr erthyglau rydych chi wedi gweithio arnyn nhw yn berthnasol i'r Gymraeg.

Wythnos yn ôl gadewais i neges "Rhybudd" ar eich erthygl Tyrau Petronas. Fe wnaethoch chi ei dileu ac anwybyddu'r hyn a ddywedais. Dywedais wrthych chi ei fod yn cynnwys nonsens, gan gynnwys y gair "conscraper" nad yw'n air Cymraeg. Dim ond darn diffygiol o gyfieithu sy'n dod o Google Translate yw e. Mae'r "conscrapers" yno hyd heddiw, ynghyd â latheni mwy nonsens.

Peidiwch â chreu mwy o lanast i ni ei drwsio, os gwelwch yn dda. --Craigysgafn (sgwrs) 16:28, 10 Hydref 2022 (UTC)[ateb]