Santes Arianwen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Santes Arianwen
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
TadBrychan Edit this on Wikidata

Santes cynnar ac un o ferched Brychan oedd Arianwen (fl. 6g) yn ôl dogfen a elwir yn 'Cognatio de Brychan', dogfen o'r 11g. Cyfeiriodd Gerallt Gymro at y traddodiad o 24 o ferched Brychan yn 1188 a chynhwysir Arianwen yn ei restr.

Pennaeth a thad i nifer o seintiau oedd Brychan (fl. 5g). Rhoes ei enw i Deyrnas Brycheiniog yn ne-ddwyrain canolbarth Cymru. Ei ddygwyl yw 5 Ebrill a gwyddom iddo briodi deirgwaith.

Priododd Arianwen Iorwerth Hirfawd, neu weithiau "Hirflawdd", Brenin Teyrnas Powys.

Roedd ganddi nifer o chwiorydd, neu hanner-chwiorydd, gan gynnwys: Rhiangar, Gwladys, Gwawr, Gwrgon, Nefydd, Lleian, Marchell, Meleri, Nefyn, Tutglid, Belyau, Ceinwen, Cynheiddon, Ceindrych, Clydai, Dwynwen, Eiluned, Goleudydd, Gwen, Ilud, Tybïe, Tudful, a Tangwystl.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]