Nefyn ach Brychan
Gwedd
Nefyn ach Brychan | |
---|---|
Ganwyd | Aberhonddu |
Man preswyl | Rheged |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Blodeuodd | 5 g |
Tad | Brychan |
Mam | Prawst |
Priod | Cynfarch fab Meirchion |
Plant | Urien Rheged, Llew ap Cynfarch |
Santes o'r 5g oedd Nefyn ac un o 24 merch Brychan Brycheiniog.[1]
Priododd Cynfarch Cul ap Meirchen a bu eu plant yn llywodraethu Rheged (Ardal y Llynnoedd), Ystrad Clyd a Gŵyr. Ei mab enwocaf oedd Urien Rheged ac roedd yn hen-nain i Cyndeyrn (Mungo) a sefydlodd Llanelwy.[2]
Ffynnon Nefyn
[golygu | golygu cod]Cysylltir Nefyn yn bennaf gyda Llanefydd ger Dinbych ble lleolir ffynnon sy'n dwyn ei henw, ym mynwent Llanefydd a ail-adeiladwyd yn y 17g. Credwyd y gellai'r ffynnon wella gwaeledd trwy ymdrochi ynddi ar dair dydd Gwener canlynol.