Gwen o Dalgarth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gwen o Dalgarth
Ganwyd 463, 5G Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Tad Brychan Edit this on Wikidata
Plant Caradog Freichfras Edit this on Wikidata

Santes oedd Gwen o Dalgarth ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1] Etifeddodd Garth Madrun (Talgarth) gan ei mam-gu, Marchell. Priododd Llŷr Merini ac roedd yn fam i Garadog Freichfras.

Mae'n fwyaf nodedig am fyw bywyd Cristnogol ac am ei charedigrwydd.[2] Lladdwyd Gwen mewn ymosodiad gan lwyth paganaidd yn 492. Credir fod eglwys Talgarth yn sefyll ar y fan ble'i lladdwyd a gwnaethpwyd creirfa i'w chorff yno.

Tir o gwmpas eglwys Talgarth, safle Garth Madrun.
Eglwys Santes Gwen o Dalgarth,Llys-wen, ar lan yr Afon Gwy Powys.
Ffynnon Gwen ger Trefeca.

Cysegriadau.[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae eglwys Talgarth yn dal i ddwyn enw Gwen ac mae eglwys arall wedi'i chysegru iddi yn Llyswen. Heddiw mae'r ddwy eglwys yn defnyddio yr enw Gwendolen. Bu'r enw Gwendolen yn boblogaidd yn Lloegr yn Oes Fictoria ac mae'n debyg y newidwyd enwau'r ddwy eglwys bryd hynny. Bu santes arall yn dwyn yr enw Gwendolen ond Gwen o Dalgarth yw nawddsant Talgarth a Llyswen.[2]

Gwelir hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylid darllen yr erthygl hon yng nghyd-destun Santesau Cymru 388-680.

Ni ddylid ei chymysgu hi gyda Gwen o Gernyw na Gwen Teirbron.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jones, T.T. 1977, The Daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf. XVII
  2. 2.0 2.1 Spencer, R, 1991, Saints of Wales and the West Country, Llanerch.