Rhiangar ach Brychan

Oddi ar Wicipedia
Rhiangar ach Brychan
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Man preswylLlanrhian, Aberhonddu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
PlantCynidr Edit this on Wikidata

Santes o'r 5g oedd Rhiangar ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1] Roedd ganddi fab, Cynidr, oedd yn etifedd iddi. Ni wyddom enw ei dad ef. Roedd tiroedd Rhiangar yn ne Brycheiniog a gorllewin Henffordd.

Diffyg Cysegriadau[golygu | golygu cod]

Ar wahân i eglwys yn Llech ym Maelienydd nid oes eglwysi sy'n parhau i ddwyn enw Rhiangar. Cyfeirir mewn hen ddogfennau at "lannau Rhiangar a Chynidr", a ail-gysegrwyd i Fair, mam Iesu yn ddiweddarach.[1] Ond ceir eglwysi sy'n dwyn enw ei mab: Llangynidr ym Mhowys ac Aberysgir a Llan-y-wern ble gelwir yr eglwysi yn "Eglwys Fair a Cynidr". Yn Nghantref ac yn Kenderchurch (eglwys Cynidr) mae'r cysegriad presennol hefyd wedi'i newid i Fair. Pan drosglwyddwyd awdurdod dros yr eglwys yn y Clas-ar-Wy i fynachdy Sant Pedr, Caerloyw yn 1088 cyfeiriwyd ati fel "eglwys sant Cynidr. Heddiw gelwir hi yn eglwys Sant Pedr.[1]

Mae Rhiangar yn enghraifft o santes sydd bron wedi mynd yn anghof oherwydd y tuedd Normanaidd i ail-gysegru eglwysi.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Jones, T.T. 1977, The Daughters of Brychan, Brycheiniog XVII