Marchell ferch Hawystl Gloff

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eglwys Llanfarchell, Dinbych a enwyd ar ei hôl.

Santes o'r 7g a gofnodir ei hanes yn y traethodyn achyddol Bonedd y Saint yw Marchell, merch Tangwystl neu Hawystl Gloff oedd yn un o 24 o Ferched Brychan Brycheiniog.[1] Ei thad oedd Tydanwedd ap Amlawdd Wledig a bu ganddi pedwar brawd, Teyrnog, Deifr, Tyfrydiog a Tudur. Cyfeirir [2] ati fel arfer fel Marchell o'r Eglwys Wen a Ladineiddiwyd yn Marcella. Magwyd hi a'i brodyr yn y clas ym Mangor-is-y Coed. Pan ymosododd y Sacsoniaid ar y clas yn 604 llwyddodd y teulu i dihangu i Ddyfryn Clwyd.

Sefydlodd Llanfarchell (neu'r 'Eglwys Wen' yn lleol), Dinbych ganddi; yn agos at dau o'i brodyr, Teyrnog yn Llandyrnog a Deifr ym Modfari. Sefydlodd eglwys o'r un enw yn Llanrwst a chysegrwyd eglwys Marchell ym Marchwieil ger Wrecsam iddi. Yn eglwys Llandyrnog mae ffenestr lliw o'r 15g sydd yn dulunio Marchell gyda'i brawd Teyrnog a Gwenffrewi, Frideswide a Catrin o Alecsandria

Dallwyd ei gwylmabsant ar y 5ed o Fedi. Ni dylid ei chymysgu gyda'i hen nain Marchell o Dalgarth neu gyda'i wyres Marchell o Ystrad Marchell, (cwmwd ym Mhowys Wenwynwyn) a priododd Gwirin Farfdrwch, pennaeth Meirionnydd.

Eglwys Llanfarchell[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r eglwys yn ffinio gydag Afon Clwyd, oddeutu 1 km i'r dwyrain o dref Dinbych, i gyfeiriad Bryniau Clwyd, ar lawr gwastad Dyffryn Clwyd. Yn 1254 cyfeirir ati fel L(l)annvarcell.[3] Yn wreiddiol, Llanfarchell oedd prif eglwys, sef eglwys y plwyf yng nghanol pentref. Pan adeiladodd Castell Ddinbych yn y 13g, adeiladwyd tai newydd yn ymyl y castell, cyn codi eglwysi eraill yn y dref ac yn raddol gadewyd yr eglwys yn sefyll ar ei phen ei hun. Yn ôl rhai, dyma un o'r eglwysi plwyf mwyaf urddasol o'r Oesoedd Canol cynnar, ac fel llawer o eglwysi Dyffryn Clwyd mae ganddi ddau gorff. Ceir ffenestri lliw hefyd o'r Canol Oesoedd a chofebau i fawrion Sir Ddinbych gan gynnwys Humphrey Llwyd (m.1568) a Richard Myddelton (m.1575). Roedd yma ar un adeg ffynnon sanctaidd a phoblogaidd iawn, sydd bellach o dan cylchdro'r ffyrdd, ar y ffordd i Ruthun.[4] Cyfeiriodd Edward Llwyd at ffynnon Marchell yn ymyl yr eglwys yn 1699.

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Jones, TT. 1977, The daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII
  2. Breverton, T.D. 2000, The Book of Welsh Saints Glyndwr Publishing
  3. Adroddiad gan CPAT cpat.org.uk; adalwyd 28 Mawrth 2017.
  4. medieval-wales.com; adalwyd 28 Mawrth 2017.