Llanfarchell

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eglwys Santes Marchell
Eglwys Wen, St Marcella's Church, Denbigh.JPG
Math Eglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13G Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.1851°N 3.39112°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Ann Jones (Llafur)
AS/au Chris Ruane (Llafur)
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd i Marchell ferch Hawystl Gloff Edit this on Wikidata

Ystyrir Eglwys y Santes Marchell (hefyd yr Eglwys Wen neu Llanfarchell) yn un o'r 'eglwysi plwyf canoloesol godidocaf yn Sir Ddinbych'; fe'i cofrestrwyd gan Cadw yn Radd I ar 24 Hydref 1950.[1] Cofnodwyd bod ei nawddsant, Marchell Forwyn, wedi dewis man ger ffynnon sanctaidd yma yn y 7g, ystyrid hi'n lleian arbennig o gysegredig. Llanfarchell fu eglwys plwyf Dinbych erioed a'i heglwys cyntaf; ni ddatblygodd Dinbych ryw lawer hyd at ddiwedd y 13g. Dymchwelwyd y gwreiddiol ac fe'i hailgodwyd ar ffurf eglwys ddau gorff ar ddiwedd y 15g, gyda thŵr trawiadol a ffenestri perpendicwlar mawr, rhai o'r Oesoedd Canol.

Mae'r eglwys yn ffinio gydag Afon Clwyd, oddeutu 1.5 km i'r de-ddwyrain o dref Dinbych, i gyfeiriad Bryniau Clwyd, ar lawr gwastad Dyffryn Clwyd. Yn 1254 cyfeirir ati fel L(l)annvarcell.[2] Yn ôl rhai, dyma un o'r eglwysi plwyf mwyaf urddasol o'r Oesoedd Canol cynnar, ac fel llawer o eglwysi Dyffryn Clwyd mae ganddi ddau gorff. Ceir ffenestri lliw hefyd o'r Canol Oesoedd a chofebau i fawrion Sir Ddinbych gan gynnwys Humphrey Llwyd (m.1568) a Richard Myddelton (m.1575). Roedd yma ar un adeg ffynnon sanctaidd a phoblogaidd iawn, sydd bellach o dan cylchdro'r ffyrdd, ar y ffordd i Ruthun.[3] Yma hefyd mae bedd Twm o'r Nant.

Ceir santes arall, ar wahân i Farchell sant o'r enw Marcellus. Ni cymysgu'r eglwys hon chwaith, gydag Ystrad Marchell, cwmwd ym Mhowys Wenwynwyn.

Pensaerniaeth a chofebau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir pileri canolog main a bwâu wedi eu mowldio'n gain y tu fewn i'r eglwys ac mae'r rhain yn codi i'r nenfwd fesul pâr o doeon trawstiau gordd, sydd wedi eu panelu a'u haddurno ag angylion. Maent yn gorwedd ar gorbelau o garreg gyda bwystfilod a rhagor o angylion cerfiedig. Ceir ffris o garreg sydd wedi ei addurno'n gain â blodau a phennau a grotesgu – bachgen yn tynnu cynffon asyn, llwynog ac ysgarfarnog.

Ar yr ochr ogleddol, mae Humphrey Lhuyd yn penlinio mewn teml Glasurol, gydag angylion yn dal glôb, a deial i gynrychioli fforiwr.

Gerllaw i gofeb Lhuyd mae cofeb bres (sy'n brin yng Nghymru) yn portreadu Richard Myddelton (bu farw ym 1565) gyda'i wraig a'i 16 o blant, saith ohonynt yn ferched sydd wedi'u gwisgo'n ffasiynol a naw mab. Daeth un o'r rhain, Syr Thomas Myddelton, yn Arglwydd Faer Llundain yn ddiweddarach a sefydlodd linach Castell Y Waun; bu mab arall, gof aur ac entrepreneur, Syr Hugh, yn gyfrifol am drawsnewid cyflenwad dŵr Llundain, gyda'i brosiect 'Afon Newydd'.

Bu'r allor ddeheuol, ar un adeg, yn gapel preifat i deulu grymus Salesbury – dyma sy'n cyfrif am geinder ei bwrdd cymun cerfiedig a'i rheiliau allor. Yma y saif y gofeb alabastr beintiedig ysblennydd o Syr John Salusbury (bu farw ym 1578) a'i wraig, y Fonesig Jane (Myddelton arall). Mae'n gorwedd mewn arfwisg, gyda'i gleddyf a'i gyllell hela – ac yn ei gwain ceir cyllell a fforc bychan: mae ei draed yn gorffwys ar anifail rhyfedd – nid ei filgi na'r ‘Bwystfil Caledfryn' mytholegol, ond, yn syml, llew sydd wedi ei gerfio'n wael. Mae'r Fonesig Jane yn gwisgo'i ffrog weddw gyda'i rwff uchel, a'i thraed yn ymddangos o dan ei pheisiau stiff. O'u cwmpas saif eu naw mab (pob yn yn gwisgo arfwisg ac eithrio offeiriad mewn gwn du) a phedair merch; dangosir dwy a fu farw'n fabanod wedi eu rhwymo mewn cadachau.

Marchell[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Marchell ferch Hawystl Gloff

Santes o'r 7g oedd Marchell, ei henw llawn oedd Marchell ferch Hawystl Gloff a chofnodir ei hanes yn y traethodyn achyddol Bonedd y Saint. Cyfeirir ati fel arfer fel 'Marchell' a Ladineiddiwyd yn ddiweddarach i Marcella. Ceir eglwys o'r un enw yn Llanrwst. Nid oes gofnod o ba bryd mae ei gwylmabsant a cheir dau ddyddiad yn y calendrau Cymreig i santes arall o'r enw Marcellus. Ni ddylid ei chymysgu chwaith, gydag Ystrad Marchell, cwmwd ym Mhowys Wenwynwyn. Cyfeirir ati fel morwyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. medieval-wales.com; adalwyd 28 Mawrth 2017.
  2. Adroddiad gan CPAT cpat.org.uk; adalwyd 28 Mawrth 2017.
  3. medieval-wales.com; adalwyd 28 Mawrth 2017.