Humphrey Lhuyd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Humphrey Llwyd)
Humphrey Lhuyd
Ganwyd1527 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 1568 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Man preswylFoxhall Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethmapiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1559 Parliament, Member of the 1563-67 Parliament Edit this on Wikidata
TadRobert Llwyd Edit this on Wikidata
MamJoan Pigott Edit this on Wikidata
PriodBarbara Lumley Edit this on Wikidata
PlantLumley Lloyd Edit this on Wikidata
Cartre'r Llwydiaid yn Foxhall, Dinbych
Yr Eglwys Wen (neu 'Llanfarchell'), Dinbych, lle'i claddwyd
Cofeb neu feddrod Llwyd, gyda glôb ar ei ben i nodi'i gyfraniad i gartograffeg; Yr Eglwys Wen.

Meddyg, cartograffydd, hynafiaethydd ac awdur Cymreig oedd Humphrey Lhuyd, weithiau Humphrey Llwyd (152721 Awst 1568).[1][2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Foxhall yn Ninbych yn fab i Robert Llwyd (a oedd yn ddisgynnydd i Harry Rossendale, un o swyddogion 3ydd Iarll Lincoln). Symudodd Foulk Rosindale o Loegr i Gymru a phriododd un o deulu Llwydiaid Aston, o ble daeth y cyfenw gan roi enw'r Foulkes ar y plasty newydd 'Foulkes Hall' - Foxhall bellach, sy'n dal i sefyll.

Fe'i addysgwyd yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen ac roedd yn gyfoeswr i Thomas Salisbury a William Morgan. Bu'n feddyg preifat i Henry FitzAlan, 19eg Iarll Arundel am gyfnod, cyn dychwelyd i Ddinbych ym 1563. Ynghyd â llyfrgell Arundel, ei lyfrgell personol ef oedd craidd y Casgliad Brenhinol - a gedwir heddiw yn y Llyfrgell Brydeinig.[3] Bu'n Aelod Seneddol dros East Grinstead yn ystod teyrnasiad Elisabeth I, Brenhines Lloegr (1559).

Ei arwyddair oedd: Hwy pery klod na golyd.[3] Cedwir ar glawr marwnad iddo gan Lewis ab Edward. Priododd Barbara, aeres yr Arglwydd Lumley, a bu iddynt bedwar o blant. Bu farw yn Ninbych, a chladdwyd ef yn yr Eglwys Wen yno.

Ei waith[golygu | golygu cod]

Yn ogystal a'r cyhoeddiadau a nodir isod, cyhoeddodd Lhuyd The Description of Cambria, fersiwn wedi ei helaethu o lyfryn gan Syr John Prise, Aberhonddu. Defnyddiodd David Powel y gwaith hwn fel sylfaen i'w lyfr The Historie of Cambria (1584).

Roedd yn adnabod Abraham Ortelius, ac ymddangosodd dau fap o waith Lhuyd fel atodiad i Theatrum Orbis Terrarum Ortelius yn 1573, un o Gymru ac un o Gymru a Lloegr. Rhain oedd y mapiau cyntaf o'r gwledydd hyn i'w hargraffu ar wahân.

Rheol Tintur[golygu | golygu cod]

Efallai nad yw'n syndod, o gofio ei ddiddordeb ac ymwneud â maes argraffu a mapiau, i Humphrey Lhuyd lunio Rheol Tintur (The Rule of Tincture) ar y ddefnydd a chyferbyniad lliw wrth lunio arfbeisiau a dylunio'n gyffredinol. Mae'r rheolau yma mor gyfredol heddiw ag yr oeddynt yn 1568 pan ysgrifennodd Lhuyd, "metal should not be put on metal, nor colour on colour"; metal = lliw aur (melyn) arian (gwyn) ar liw, coch, glas, gwyrdd ag ati: rheol y mae, yn eironig, hanner waelod baner Cymru yn ei dorri wrth i hanner waelod y Ddraig Goch orwedd ar lain werdd - gan, felly, dorri rheol i beidio rhoi "lliw ar liw" Lhuyd.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • An Almanack and Kalender containing the Day, Hour, and Minute of the Change of the Moon for ever
  • Cronica Walliae (1559)
  • De Mona Druidium Insulâ (sef 'Ynglŷn â Derwyddon Ynys Môn')
  • Commentarioli Descriptionis Britannicae Fragmentum (Cwlen, 1572) - cyfieithwyd i'r Saesneg gan Thomas Twyne fel The Breviary of Britayne (1573)
  • The Treasury of Health (1585)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dyddiad marwolaeth yn ol LlGC ar Trydar oedd 21 Awst 1568. Gweler: Trydar.
  2. "LLWYD (LHUYD), HUMPHREY (c. 1527 - 1568), hynafiaethydd a gwneuthurwr mapiau | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-18.
  3. 3.0 3.1 R. Brinley Jones, ‘Llwyd, Humphrey (1527–1568)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Sept 2004

Dolen allanol[golygu | golygu cod]