Tîm pêl-droed cenedlaethol Rwmania
(Ailgyfeiriad oddi wrth Rwmania Tîm pêl-droed cenedlaethol)
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Rwmania (Rwmaneg: Echipa națională de fotbal a României) yn cynrychioli Rwmania yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Rwmania (Rwmaneg: Federația Română de Fotbal ) (FRF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r FRF yn aelod o gonffederasiwn Pêl-droed Ewrop (UEFA).
Mae Rwmania wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd saith o weithiau ac wedi cyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop pedair o weithiau.