Robert Roberts (Bob Tai'r Felin)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawr Bob Roberts, Tai'r Felin; Sain (Recordiau) Cyf

Roedd Robert Roberts (Bob Tai’r Felin), (1 Medi 1870 - 30 Tachwedd, 1951) yn amaethwr, melinydd, bardd, eisteddfodwr a chanwr gwerin Gymreig.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Bob yn Nhai’r Felin, Cwtirmynach ger y Bala, yn fab i Cadwaladr Roberts, melinydd, a Betsi (neé Rowlands) ei wraig.

Ar 5 Medi, 1901 priododd Elizabeth Jane Roberts, fferm y Frongoch yng Nghapel Tegid y Bala[2], bu iddynt tri o blant.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Olynodd ei dad i weithio fel melinydd ac amaethwr. Gwasanaethodd fel blaenor, athro ysgol Sul a chodwr canu capel y Presbyteriaid, Cwmtirmynach.

O oedran ifanc dechreuodd cyfrannu i ddiwylliant ei fro gan gyfrannu yn gyson mewn eisteddfodau a chyngherddau. Profodd yn hynod boblogaidd fel perfformiwr lleol. Er enghraifft ceir adroddiad canlynol amdano’n diddanu yng Ngŵyl y Delyn, y Bala ym 1914 "Y peth mwyaf poblogaidd o'r cwbl yn y cyngerdd oedd gwaith Mr. Robert Roberts, Tai'r Felin, yn datgan caneuon gwerin. Yr oedd pob un o'r gynulleidfa yn ei ddwbl gan chwerthin ar hyd yr amser, a chlywsom un yn cwyno i'w ystlysau bore heddyw (dydd Llun). Er iddo ail a thrydydd ganu, 'doedd dim diwedd ar alwadau'r dorf"[3].

Ym 1931 daeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y gan werin yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Wedi ei fuddugoliaeth eisteddfodol ffurfiodd Parti Tai’r Felin gyda Robert Lloyd (Llwyd o’r Bryn), John Thomas, Lizzie Jane Thomas a Harriet (merch Bob Tai’r Felin). Bu’r parti yn diddanu ar lwyfannau trwy Gymru gyfan ac ambell un yn Lloegr.

O 1944 bu’n cyfrannu’n gyson i raglen radio Sam Jones y Noson Lawen. Ym 1949 cyfrannodd i ffilm a gyhoeddwyd yn y Gymraeg gyda’r teitl Noson Lawen ac yn y Saesneg gyda’r teitl The Harvest. Bu’n un o berfformwyr Cymraeg cynharaf i ganu ar deledu’r BBC gan ganu Mari Bach fy Nghariad o Hafod y Rhiw mewn cyngerdd byw a ddarlledwyd o’r Alexandra Palace yn Llundain[4] . Yn ôl cwmni Recordiau Sain Mae'n bosib dweud mai Bob Roberts, o Dai'r Felin ger Fron-goch, y Bala, oedd canwr pop cyntaf y Gymraeg! ... Tyrrai'r bobl i'w glywed, ac yr oedd yn ffefryn arbennig gan y merched, a fynnai gael ei lofnod; roedd Bob-mania yn rhagflaenu Beatlemania o ddau ddegawd[5].

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Bob yn ei gartref ym 1951 yn 71 mlwydd oed a rhoddwyd ei olion i orffwys ym mynwent Llanycil. Ym 1961 agorodd Llwyd o’r Bryn cronfa i dalu am gofeb iddo. Crëwyd y gofeb gan Jonah Jones ac mae bellach i’w gweld ar y ffordd wrth giât Tai’r Felin.

Recordiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Rhestr o ganeuon Bob Roberts (Tai'r Felin)

Cyhoeddodd Bob Roberts a’i gyfeillion nifer o recordiau gyda chwmnïau Decca a Teledisc. Yn 2010 cyhoeddodd Cwmni Sain CD yn cynnwys 21 o’r recordiau oedd wedi goroesi.

Bu recordiau a darllediadau Bob a Pharti Tai’r felin yn gyfraniad enfawr i ddiogelu caneuon gwerin megis Moliannwn, Gwenno Penygelli, Pan fu Bes yn Teyrnasu ac ati.

Rhagor o glipiau o Bob Roberts ar Gomin Wicimedia

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1959 golygodd Haydn Morris casgliad o ganeuon Bob mewn llyfr o’r enw “Caneuon Bob Tai’r Felin” a gyhoeddwyd gan gwmni Snell a'i Feibion.

Ym 1965 traddododd y Parch Robin Williams darlith yn y Coleg Normal, Bangor o’r enw Y Tri Bob a oedd yn trafod bywyd a gwaith Bob Owen (Croesor), Bob Lloyd (Llwyd o’r Bryn) a Bob Tai’r Felin. Cyhoeddwyd y ddarlith ar ffurf record gan gwmni Welsh Teledisc ac ar ffurf llyfr gan Lyfrau poced Gomer.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]