Jonah Jones
Jonah Jones | |
---|---|
Ganwyd | 17 Chwefror 1919 Tyne a Wear |
Bu farw | 29 Tachwedd 2004 |
Dinasyddiaeth | Cymru Lloegr |
Galwedigaeth | dylunydd graffig, cerflunydd |
Priod | Judith Maro |
Cerflunydd arlunydd a nofelydd oedd Jonah Jones (17 Chwefror 1919 - 29 Tachwedd 2004). Cafodd ei eni yn Swydd Durham, Gogledd-ddwyrain Lloegr, ond roedd yn byw yng Nghymru ers 1948 gan agor gweithdy yn Nhremadog, Gwynedd. Roedd yn briod â’r awdures Judith Maro.
Roedd Jonah Jones yn gweithio mewn sawl cyfrwng. Torrodd llythrennau mewn llechen, cerfiodd mewn maen a chreodd penddelwau mewn efydd. Roedd hefyd yn artist gwydr lliw ac yn arlunydd mewn dyfrlliw. Dylanwadwyd ei waith gan ddelweddaeth Gristnogol, chwedlau y Mabinogi a thirwedd Cymru. Yn ogystal, ysgrifennodd ddwy nofel, arweinlyfr am lynnoedd gogledd Cymru, casgliad o ysgrifau a bywgraffiad y pensaer enwog Syr Clough Williams- Ellis.
Mae’n enwog am ei benddelwau efydd o Syr Clough, Bertrand Russell a John Cowper Powys, ei gofebion i Dylan Thomas a Lloyd George yn Abaty Westminster, a hefyd ei gerfluniau ar adeilad Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- A Tree Mai Fall (1980) - nofel
- Zorn (1986) - nofel
- The Lakes of North Wales (1983) - arweinlyfr
- The Gallipoli Diary (1989) - ysgrifau
- Clough Williams-Ellis: Architect of Portmeirion Seren Publishing, (1997) – bwygraffiad
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cofio Jonah Jones - Prosiect i gofnodi a dathlu bywyd a gyrfa Jonah Jones
- Cofysgrif Jonah Jones , The Guardian
- Cofysgrif Jonah Jones, The Independent
- Jonah Jones plaque recordiwyd ar openplaques.org