Robin Williams (llenor)

Oddi ar Wicipedia
Robin Williams
Ganwyd1923 Edit this on Wikidata
Rhoslan Edit this on Wikidata
Bu farw2004 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw gweler Robin Williams.

Roedd Robin Williams (y Parch R. O. G. Williams, 1923 – Rhagfyr 2003) yn bregethwr, yn gyflwynydd teledu ac yn awdur.[1]

Cafodd ei eni ym Mhenycaerau, Llŷn, a'i fagu yn Llanystumdwy. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor, ac yng Ngholeg Diwinyddol yr Eglwys Bresbyteraidd yn Aberystwyth.[2] Roedd yn aelod o Driawd y Coleg a oedd yn canu ar y rhaglen radio Noson lawen a gynhyrchwyd gan yr enwog Sam Jones.

Treuliodd gyfnodau yn weinidog yn Ninmael a Phenrhyndeudraeth. Ddechrau'r saithdegau gadawodd y weinidogaeth a symud i Ros-lan ger Cricieth, gan weithio ar ei liwt ei hun fel awdur a darlledwr. Bu ganddo golofn wythnosol yn Yr Herald Cymraeg.

Bu'n cyflwyno'r rhaglenni teledu crefyddol Dechrau Canu, Dechrau Canmol a Seiat Holi'r Naturiaethwyr ar S4C. Bu'n crwydro'r wlad gyda'i ddarlith enwog 'Y Tri Bob', sef Bob Owen, Croesor, Bob Lloyd (Llwyd o’r Bryn) a Bob Tai’r Felin.

Cyhoeddodd 14 cyfrol, gan gynnwys ysgrifau a llyfrau taith, a'i gyfrol enwocaf Y Tri Bob (Gwasg Gomer, 1970).

Brawd iddo oedd John Griffith Williams.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Basged y Saer (1969)
  • Y Tri Bob (1970)
  • Wrthi (1971)
  • Esgyrn Eira (1972)
  • Blynyddoedd Gleision (1973)
  • Mêl Gwyllt (1976)
  • Cracio Concrit (1979)
  • Lliw Haul (1980)
  • Llongau'r Nos (1983)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Broadcaster and preacher ROGW dies aged 90". Daily Post (yn Saesneg). 22 Rhagfyr 2003. Cyrchwyd 23 Awst 2023.[dolen marw]
  2. Marw Robin Williams , BBC Cymru, 21 Rhagfyr 2003. Cyrchwyd ar 6 Mawrth 2016.