Richard Roberts (gweinidog Wesleaidd)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Richard Roberts
Portrait of Rev. Richard Roberts (London) (4670533) (cropped).jpg
Ganwyd 30 Mai 1823 Edit this on Wikidata
Machynlleth Edit this on Wikidata
Bu farw 28 Tachwedd 1909 Edit this on Wikidata (86 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth gweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Roedd Richard Roberts (30 Mai, 182328 Tachwedd, 1909) yn weinidog Wesleaidd Cymreig a wasanaethodd fel Llywydd y Gynhadledd Wesleaidd, yr anrhydedd mwyaf gellid ei roi i weinidog o'i enwad. [1]

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Roberts ym Machynlleth yn blentyn i Richard a Catherine Roberts, gwerthwyr deunydd ysgrifennu. Yn blentyn ifanc symudodd i fyw gyda modryb iddo ym Manceinion er mwyn iddo fanteisio ar addysg Saesneg. Cafodd ei addysg gychwynnol mewn ysgol yn Salford. Bedyddiwyd Roberts yng Nghapel y Wesleaid ym Machynlleth ar 10 Mehefin, 1823, enwad ei rieni. [2] Roedd Mrs Prichard, y fodryb a'i magodd, yn aelod triw gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg ac yn rhoi llety i weinidogion Calfinaidd oedd yn ymweld â Manceinion i bregethu. Trwy ei fodryb cyfarfu Roberts a nifer o fawrion cynnar y Methodistiaid Calfinaidd; William Williams o'r Wern, John Elias o Fôn; John Jones, Talysarn, David Jones, Treborth, ac eraill. Er hynny arhosodd Roberts yn driw i enwad ei rieni ac ymunodd a chapel y Weslead Cymreig yng Nghapel Hardman Street, Manceinion pan yr oedd tua naw mlwydd oed. Cafodd tröedigaeth Efengylaidd ym 1837 wedi clywed y Parch Robert Williams, Bodfari, yn pregethu. [3]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwng 1837 a 1841 bu Roberts yn gweithio yn warws cwmni masnachol J & N Philips, Church Street, Manceinion. Dechreuodd bregethu fel pregethwr cynorthwyol i Gymry Manceinion yn ystod y cyfnod hwn. Ym 1841 agorodd ei dad siop groser yng Nghorris, a mynnodd bod ei fab yn dychwelyd i Gymru i helpu gyda'r fenter. Wrth weithio yn y siop parhaodd i bregethu fel lleygwr gan ddod yn bregethwr poblogaidd yng nghylchdeithiau (ardaloedd gweinidogaethol y Weslead) ym Meirion, Maldwyn a Cheredigion.

Ym 1843 aeth Roberts yn fyfyriwr i Athrofa'r Weslead yn Didsbury, Manceinion i hyfforddi i fod yn weinidog gan ddechrau ar ei weinidogaeth yn Aberhonddu ym 1846. Trefn y Weslead yn ei gyfnod oedd bod gweinidogion yn newid cylchdaith (ardal gweinidogaethu) pob tair blynedd. Ac eithrio ei dair blynedd gyntaf fel gweinidog ar brawf yn Aberhonddu, bu Roberts yn teithio trwy gylchdeithiau Lloegr am weddill ei weinidogaeth:

Ymneilltuodd o'r weinidogaeth llawn amser ym 1888 i South Hampstead, Llundain. Enw ei gartref yn South Hamstead oedd Bwlchglas, a enwyd ar ôl ffarm deuluol yn Nhal-y-bont, Ceredigion. [4]

Er ei fod yn weinidog yng Nghapeli Saesneg yn Lloegr parhaodd Roberts i fod yn bregethwr hynod boblogaidd yn y Gymraeg a byddai'n mynd ar deithiau pregethu a darlithio rheolaidd yng Nghymru gan ddenu cynulleidfaoedd mawr i'w wrando. Bu hefyd yn teithio lawer, tu allan i'w gylchdeithiau cartref yn Lloegr, Cernyw, Yr Alban a'r Iwerddon gan gael ei gyfrif yn "seren" y gwyliau pregethu mawr ac ymgyrchoedd cenhadu ac efengylu. Gan fod gymaint am glywed ei bregethau bu weithiau yn cynnal gwasanaethau mewn theatrau oedd yn dal 5,000 neu mwy o bobl yn hytrach nag mewn capel. [5]

Ym 1874 etholwyd Roberts i Gant Cyfreithiol y Wesleaid, sef cant o weinidogion oedd yn gweithredu fel ymddiriedolwyr a chyngor rheoli'r enwad. Ym 1885 rhoddwyd iddo "y swydd fwyaf urddasol a fedd y corff, sef bod yn Llywydd y Gynhadledd, ac yn olynydd a cheidwad Beibl John Wesley." [6] Y Cymro Cymraeg cyntaf i dderbyn y fath fraint. Ef hefyd oedd Llywydd cyntaf y Gynhadledd a gyflwynwyd yn y Llys Brenhinol, syndod mawr i nifer o'i frodyr Methodistaidd oedd ei weld mewn gwisg llys gyda llodrau pen-glin, sgidiau crwyn â bwcl arian, a het glerigol gwalciog. [7]

Cyhoeddwyd casgliadau o'i bregethau mewn cyfres o lyfrau:

  • My Later Ministry (1887)
  • The Living One (1892)
  • The Man of Peace (1894)
  • My Jewels (1903)

A chyhoeddwyd cofiant iddo gan Dinsdale T. Young: Richard Roberts, a Memoir (Llundain 1910);

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n briod ddwywaith. Tua 1858 priododd ei wraig gyntaf Sarah Sophia Neville Broom, bu iddynt o leiaf ddwy ferch bu hi farw rhywbryd cyn 1870 pan briododd Roberts Hannah Elsworth, ei ail wraig, bu hi farw ym 1904. [8]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref yn Llundain yn 86 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Finchley Road, Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "ROBERTS, RICHARD (1823 - 1909), gweinidog Wesleaidd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-06-05.
  2. Family Search Wales Births and Baptisms, 1541-1907 adalwyd 5 Mehefin 2020
  3. Perthynas y diweddar Barch. R. Roberts â Chorris Yr Eurgrawn Wesleyaidd; Cyf. CII rhif. 2 - Chwefror 1910 adalwyd 5 Mehefin 2020
  4. Ymweliad a'r Hybarch Richard Roberts gan y Parch. P Jones-Roberts; Yr Eurgrawn Wesleyaidd, Cyf. CI rhif. 8 - Awst 1909, tudalen 282 adalwyd 5 Mehefin 2020
  5. "Y PARCH RICHARD ROBERTS - Y Dydd". William Hughes. 1885-07-24. Cyrchwyd 2020-06-05.
  6. "MAE SON AMDANYNT - PARCH RICHARD ROBERTS, GWEINIDOG Y WESLEYAID - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-12-30. Cyrchwyd 2020-06-04.
  7. "Death of Rev Richard Roberts - The Montgomeryshire Express and Radnor Times". William Pugh Phillips & Gilbert Norton Phillips. 1909-12-07. Cyrchwyd 2020-06-05.
  8. "Marwolaeth Mrs Roberts Anwyl Briod yr Hybarch Richard Roberts - Y Gwyliedydd". Amos Brothers. 1904-01-13. Cyrchwyd 2020-06-05.