Peter Hughes Griffiths
Peter Hughes Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 6 Awst 1871 Glan-y-fferi |
Bu farw | 1 Ionawr 1937 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, llenor, cynorthwyydd siop |
Priod | Annie Jane Hughes Griffiths |
Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur o Gymru oedd Peter Hughes Griffiths (6 Awst 1871 – 1 Ionawr 1937). Ganwyd yn Ffynnon Ynyd, Glan-y-fferi, Sir Gaerfyrddin, mab y Parch. John Griffiths ac Anna ei briod. Cafodd ei addysg ym Mharcyfelfed, Caerfyrddin, a bu mewn siop yn Aberpennar, Morgannwg. Dechreuodd bregethu yno a chafodd addysg bellach yn ysgol y Gwynfryn a Choleg Trefeca. Bu'n weinidog cynorthwyol yn eglwys Bresbyteraidd Saesneg Waterloo, Lerpwl, cyn ei ordeinio yn sasiwn Cwmbwrla, 1900. Bugeiliodd eglwys y Crug Glas, Abertawe, am ddwy flynedd; symudodd i Capel Charing Cross, Llundain, yn 1902, ac yno y bu weddill ei oes. Pregethai'n wreiddiol, a nodweddid ei weinidogaeth gan asbri ysbrydol.[1]
Priodi
[golygu | golygu cod]Priododd ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Mary Howell o Ben-coed. Ei ail wraig oedd Annie Jane, gweddw T. E. Ellis, Aelod Seneddol Meirionnydd bu farw'n ifanc a disymwth iawn. Adnabu Annie Jane unai wrth ei chyfenw Ellis neu, yn amlach wrth cyfenw ei phriodas â Peter Hughes Griffiths.[1]
Cynghrair y Cenhedloedd
[golygu | golygu cod]Roedd Peter Hughes Griffiths yn gefnogwr pybur o Cynghrair y Cenhedloedd a sefydlwyd yn dilyn galanst y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd ei wraig, Annie Jane Hughes Griffiths, hefyd yn weithgar iawn yn cefnogi Cynghrair y Cenhedloedd ac achos heddychiaeth yng Nghymru. Daeth yn ffigwr mwy adnabyddus yn y maes na'i gŵr. Bu iddi arwain dirpwyaeth Apêl Heddwch Menywod Cymru a gynhwysau deiseb o 390,000 o fenywod ar draws Cymru yn galw ar i'r Unol Daleithiau ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd er mwyn arwain yn frwydr dros heddwch byd-eang. Yn ôl confensiwn yr oes, fe'i hadnebir weithiau fel 'Mrs Peter Hughes Griffiths'.[2]
Awdur
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd lawer i'r cylchgronau Cymraeg, a cheir detholiad o'i ysgrifau yn Llais o Lundain 1912. Golygodd Gweithiau Gwilym Teilo (d.d.), ac ymddangosodd Cofiant W. E. Prytherch yn 1937, ar ôl ei farw.[3]
Bu farw 1 Ionawr 1937, a'i gladdu ym mynwent Salem, Pen-coed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Peter Hughes Griffiths". Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein. Cyrchwyd 23 Ionawr 2024.
- ↑ "Plac porffor i ymgyrchydd heddwch o Geredigion". BBC Cymru Fyw. 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "Ffotograff o Peter Hughes Griffiths ar wynebddalen llyfr Cofiant W.E. Prytherch". Gwefan Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 23 Ionawr 2024.