William Davies (Gwilym Teilo)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Davies
Ffugenw Gwilym Teilo Edit this on Wikidata
Ganwyd 1831 Edit this on Wikidata
Llandeilo Edit this on Wikidata
Bu farw 3 Hydref 1892 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd, Hanesydd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg a hanesydd Cymreig oedd William Davies (18313 Hydref 1892), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Gwilym Teilo.

Brodor o ardal Llandeilo, Sir Gaerfyrddin oedd Gwilym Teilo. Fel bardd a llenor, enillodd sawl gwobr mewn eisteddfodau, lleol a chenedlaethol.[1]

Fel hanesydd lleol ei sir enedigol y'i cofir yn bennaf erbyn hyn. Cyhoeddodd gyfrolau am hanes Llandeilo a'i gylch ac am hanes a hynfiaethau ardal Caio. Erys ei gyfraniad mwyaf heb ei gyhoeddi hyd yn hyn, sef traethawd hir ar 'Lenyddiaeth y Cymry' a fwriedid fel math o barhad o waith Thomas Stephens yn ei The Literature of the Kymry (1849), llyfr sy'n trafod llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol yn unig.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Llandilo-Vawr and its Neighbourhood (1858)
  • Traethawd ar Caio a'i Hynafiaethau (1862)
  • Gweithiau Gwilym Teilo, gol. P. H. Griffiths (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.


Planned section.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.