Pau

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Pau (Frainc))
Jump to navigation Jump to search
Pau
Montage Pau 4.jpg
Blason ville fr Pau (64).svg
Math cymuned, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth 77,130 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth François Bayrou Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Göttingen, Setúbal, Zaragoza, Pistoia, Kōfu, Abertawe, Daloa, Xi'an Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Pyrénées-Atlantiques, canton of Jurançon, canton of Pau-Centre, canton of Pau-Est, canton of Pau-Nord, canton of Pau-Ouest, canton of Pau-Sud, arrondissement of Pau Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ocsitania Ocsitania , Baner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd 31.51 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 205 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Buros, Billère, Bizanos, Gelos, Idron, Jurançon, Lons, Montardon, Morlaàs Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 43.3008°N 0.37°W Edit this on Wikidata
Cod post 64000 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Pau Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth François Bayrou Edit this on Wikidata
Castell Pau

Tref a chymuned yn département Pyrénées-Atlantiques, rhanbarth Aquitaine, yn ne-orllewin Ffrainc ger y Pyreneau ydy Pau. Mae ganddi boblogaeth o 78,732 (1999).

Arwyddair: "Urbis Palladium et Gentis".

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Pau oedd prifddinas Béarn o 1464 ymlaen, ond cyn hynny roedd Morlans ac Ortès yn brifddinasoedd y frenhiniaeth, ac doedd dim rôl arbennig gan Pau cyn y 10fed ganrif. Is-iarllaeth oedd Béarn, dan arweiniad ieirll Foish (Foix yn Ffrangeg), a oedd yn annibynnol ar adeg pan oedd teyrnasoedd Ffrainc a Lloegr yn cystadlu dros ardal Aquitaine, gyda chlymbleidio yn newid yn aml. O'r 10fed tan y 12fed ganrif, pentref gyda chastell oedd Pau, math o gastell a gyfeiriwyd ato yn yr hen Ocsitaneg fel "castelnau" (sef castell newydd), "casteth nau" yn nhafodiaeth Gasconeg Ocsitaneg erbyn hyn. "Baile" oedd yn rheoli'r castell, wedi ei benodi gan Ieirll Béarn. Gaston Febus o deulu Foish-Bearn penderfynodd cryfhau yr amddiffynfeydd, ac a dewisodd Pau yn brifddinas wrth iddo ddod i fyw yn y Castell. Roedd y castell wedyn yn gartref i frenhinoedd Nafarroa hyd at yr uno gyda Theyrnas Ffrainc ym 1620.


Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid yw tarddiad yr enw Pau yn eglur. Yn ôl un damcaniaeth, mae'r enw yn cyfeirio at y gweundir yr adeiladwyd Pau arni, ger afon y Gave, a gyfeirwyd ato yn Lladin fel palus, paludis (f) < palud < pau. Yn ôl damcaniaeth arall, daw'r enw o'r Ffrangeg 'palissade' gan gyfeirio at ffensys amddiffynnol.


Sefydliadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Prifysgol Pau [1]

Sefydliadau sy'n hyrwyddo'r iaith Ocsitaneg:

  • Institut Occitan [2]
  • Calandretas [3] (coleg Ocsitaneg)
  • Hestivoc [4]
  • Carnaval Bearnes [5]

Enwogion o Pau[golygu | golygu cod y dudalen]

Actorion

Ysgrifenwyr

Sêr chwaraeon


Gwleidyddion

Archesgobion

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of France.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.