Nâzım Hikmet

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Nazım Hikmet)
Neidio i: llywio, chwilio
Nâzım Hikmet
NazimHikmetRan.jpg
Ynganiad TR-Nâzım Hikmet.ogg Edit this on Wikidata
Ffugenw Orhan Selim Edit this on Wikidata
Ganwyd 15 Ionawr 1902 Edit this on Wikidata
Thessaloníci Edit this on Wikidata
Bu farw 3 Mehefin 1963 Edit this on Wikidata (61 oed)
Achos: trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
Alma mater Galatasaray High School, Turkish Naval High School, Communist University of the Toilers of the East Edit this on Wikidata
Gwaith Dramodydd, bardd, awdur, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Priod Münevver Andaç Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.nazimhikmet.org.tr/ Edit this on Wikidata
Llofnod
Nazim Hikmet Signature.png

Bardd a dramodydd comiwnyddol o Dwrci oedd Nazım Hikmet Ran (IPA:nɑːˌzɯm hikˈmɛt) (20 Rhagfyr 19013 Mehefin 1963). Cyfieithwyd ei waith i sawl iaith.

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yn Selânik yn Ymerodraeth yr Otomaniaid (Thessaloniki, Gwlad Groeg erbyn hyn). Daeth yn aelod o'r blaid gomiwnyddol TKP, a chafodd ei alltudio a'i garcharu sawl gwaith achos o'i egwyddorion gwleidyddol.

Wedi gyfnod o fyw yn Moskva, fe ddychwelodd i Dwrci ym 1928 ar ôl ymweld â chynhadledd yn Wien, a chafodd ei garcharu am dri mis. Fe'i carcharwyd eto ym 1933, a chafodd ei ryddhau mewn amnest yn 1934. Ym 1938, fe'i cafwyd yn euog o annog gwrthryfel ymysg myfyrwyr y byddin (am iddynt ddarllen ei farddoniaeth), ac fe'i dedfrydiwd i wyth mlynedd ar hugain a phedwar mis o garchariad gyda llafur caled. Cafodd ei ryddhau o'r diwedd ym 1950 (eto fel rhan o amnest gyffredinol), wedi iddo fynd ar streic ympryd ac i lawer ymgyrchu drosdo. Roedd yn sal erbyn hynny, gyda phroblemau gyda'i iau a'i galon. Derbyniodd yr Wobr Heddwch Rhyngwladol a ddyfarnwyd gan Gyngor Heddwch y Byd ym 1950, ynghyd â Pablo Picasso, Paul Robeson, Wanda Jakubowska a Pablo Neruda. Bu'n rhaid iddo adael Twrci ym 1951, ac ni ddychwelodd wedi hynny. Treuliodd rhan fwyaf o gyfnod olaf ei fywyd yn Yr Undeb Sofietaidd, er iddo ymweld â China a Paris. Bu farw ym Moskva ym 1963.

Bu iddo briodi tair gwaith, yn gyntaf i Pirayé İçin, yna i Münevver Andaç (cawsant fab, Mehmet), ac yna i Vera Tulyakova.

Ei farddoniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Er i'w gerddi cynnar defnyddio mesurau sillafog, roedd cysyniadau ei farddoniaeth yn anghonfensiynol o'r dechrau. Weithiau ysgrifennodd mewn gwers rhydd, weithiau fe gymerodd ffurf traddodiadol fel y rubaiyat a'i addasu i'w anghenion. Manteisiau'n gyson ar sain gyfoethog y Tyrceg. Fe'i dylanwadwyd gan Mayakovski a'r beirdd Sofietaidd hynny a hyrwyddodd dyfodoliaeth. Gosododd Zülfü Livaneli llawer o'i gerddi i gerddoriaeth.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]