Mursen

Oddi ar Wicipedia
Mursen (Zygoptera)
Amrediad amseryddol: 271–0 Miliwn o fl. CP
Mursen dinlas fach; gwryw
(Ischnura heterosticta)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Selys, 1854
Teuluoedd
$ yn dynodi'r grŵp paraphyletic

Is-Urdd o bryfaid yw'r Fursen sy'n enw benywaidd (sef Is-Urdd y Zygoptera; lluosog: Mursennod), a chyda Gweision y neidr maent yn gwneud yr Urdd Odonata. Caiff ambell fursen ei gamgymeryd yn aml am was y neidr gan eu bod mor debyg, ond mae rhai nodweddion tra gwahanol gan gynnwys y ffaith eu bod yn fyrrach, yn deneuach ac mae'r rhan fwyaf o'u rhywogaethau'n swatio'u hadenydd yn agos i'w corff tra maen nhw'n gorffwyso.

Mae pob mursen yn gigysol (neu'n 'rheibus') - yr oedolyn a'r pryf ifanc Mae'r rhai ifanc yn byw mewn dŵr, gyda'r rhan fwyaf o'u rhywogaethau'n byw mewn cynefin dŵr croyw, gan gynnwys mawnog asidig hyd yn oed, llynnoedd, pyllau ac afonydd. Mae'r mursennod ifanc hefyd yn bwrw'u crwyn yn rheolaidd, gyda'r bwriad-croen olaf maen nhw'n dringo allan o'r dŵr ac yn morffio. Mae'r croen ar eu cefnau'n rhwygo ac agorant eu hadenydd, datblygu eu habdomen a thrawsnewid i ffurf oedolyn. Mae eu presenoldeb ar bwll o ddŵr yn arwydd bod y pwll yn eitha glân, heb ei halogi.

Grŵp hynafol[golygu | golygu cod]

Mae'r fursen yn grŵp hynafol iawn, ac wedi bodoli ers y cyfnod Permaidd, pan oedd tir y Ddaear yn un cyfandir (Pangaea); bellach fe'u ceir ar bob cyfandir, namyn Antartig. Mae'r ffosiliau cynharaf ohonynt yn dyddio'n ôl o leiaf 250 miliwn CP, ond gan mai oedolion yw pob un o'r ffosiliau hyn ni wyddys a oedd y mursennod ifainc, yr adeg honno, yn byw mewn dŵr, ai peidio.[1]

Dosbarthiad[golygu | golygu cod]

Ceir cryn newid gan y gwyddonwyr ar rywogaethau o'r fursen, ac ar hyn o bryd (2015) ystyrir fod deunaw teulu ohonynt:[2]

Zygoptera
Lestoidea

Hemiphlebiidae




Perilestidae



Synlestidae



Lestidae





Platystictoidea

Platystictidae




"Calopterygoidea", revised

Calopterygidae



Chlorocyphidae



Dicteriadidae



Polythoridae



13 rhagor o deuluoedd




Euphaeidae



Lestoideidae




8 teulu posibl - incertae sedis




Coenagrionoidea

Platycnemididae



Coenagrionidae (gan gynnwys y Pseudostigmatidae)



Isostictidae







Mae llinellau toredig yn nodi perthynas sydd heb hyd yma ei phrofi'n llawn.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Yn wahanol i was y neidr, mae llygaid cyfansawdd y fursen yn bellach oddi wrth ei gilydd ac yn llai hefyd. Uwch ben y llygaid ceir talcen ac ychydig oddi tano ceir y 'tarian' (neu'r clypeus). Ar frig y pen ceir tri llygad syml (neu ocelli), sydd o bosib yn mesur cryfder golau a cheir pâr o deimlyddion i'w chynorthwyo i fesur cryfder yr aer a'r gwynt.[3]

Mursennod Cymru[golygu | golygu cod]

Maint mursennod sydd ar gael yng Nghymru
Enw'r rhywogaeth milimetrau (mm)
mursen lygatgoch fach
29(Erythromma viridulum)
mursen las Penfro
30(Coenagrion mercuriale )
mursen dinlas fach
31(Ischnura pumilio)
mursen dinlas gyffredin
31(Ischnura elegans)
mursen fach goch
31(Ceriagrion tenellum)
mursen las gyffredin
32(Enallagma cyathigerum)
mursen las asur
33(Coenagrion puella)
mursen las amrywiol
33(Coenagrion pulchellum)
gwäell ddu
34(Sympetrum danae)
mursen lygatgoch fawr
35(Erythromma najas)
mursen fawr goch
36(Pyrrhosoma nymphula)
gwäell rudd
36(Sympetrum sanguineum)
mursen werdd brin
37(Lestes dryas)
gwäell asgell aur
37(Sympetrum flaveolum)
mursen werdd
38(Lestes sponsa)
mursen y gaeaf
38(Sympecma fusca)
gwäell wythien goch
40(Sympetrum fonscolombii)
gwäell grwydrol
40(Sympetrum vulgatum)
gwäell gyffredin
43(Sympetrum striolatum)
morwyn dywyll
45(Calopteryx virgo)
morwyn wych
45(Calopteryx splendens)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Grimaldi, David; Engel, Michael S. (2005). Evolution of the Insects. Cambridge University Press. tt. 174, 178. ISBN 978-0-521-82149-0.
  2. Dijkstra, Klaas-Douwe B.; Kalkman, Vincent J.; Dow, Rory A.; Stokvis, Frank R.; van Tol, Jan (2013). "Redefining the damselfly families: a comprehensive molecular phylogeny of Zygoptera (Odonata)". Systematic Entomology 39 (1): 68–96. doi:10.1111/syen.12035. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/syen.12035/full.
  3. Paulson, Dennis (2011). Dragonflies and Damselflies of the East. Princeton University Press. tt. 10–32. ISBN 1-4008-3966-1. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)