Mursen werdd

Oddi ar Wicipedia
Mursen werdd
Lestes sponsa
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Teulu: Lestidae
Genws: Lestes
Rhywogaeth: L. sponsa
Enw deuenwol
Lestes sponsa
(Hansemann, 1823)

Mursen yw Mursen werdd (ll. mursennod gwyrdd; Lladin: Lestes sponsa; Saesneg: Emerald damselfly neu Common spreadwing) sy'n bryfyn sy'n perthyn i deulu'r Lestidae yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr). Ei thiriogaeth yw'r Palearctig. Gwyrdd metalig yw lliw adenydd yr oedolyn gwryw a benyw a phan maen nhw'n cael seibiant, yn llonydd, mae eu hadenydd yn gilagored.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae'r fursen werdd yn un o'r mursennod mwyaf o ran maint ac i'w gweld yng Ngorffennaf ac Awst ar bwys llynnoedd neu byllau dŵr llonydd - anaml iawn mae'n dewis dŵr sy'n llifo. Mae'n hoff iawn o dreulio'r diwrnod ar frwynen yn sbio o'i chwmpas, a mae ei lliw'n guddliw effeithiol ar yr adeg yma. Dydy hi ddim yn hedfan yn arbennig o gryf, o'i chymharu gyda mursennod eraill fel yr Enallagma cyathigerum, ond pan ddaw niwl neu law mae hi yn ei helfen yn hedfan - heb rywogaeth arall o'i chwmpas. Os caiff ei tharfu, nid yw'n hedfan yn bell i ffwrdd: metr neu ddwy fel arfer.

Mae'r arferiad o adael ei hadenydd yn gilagored wrth orffwys yn nodweddiadol o deulu'r Lestidae, a dyma'u henw mewn ambell iaith (e.e. spreadwing). Mae cymuned o fursennod gwyrdd fel arfer yn cynnwys cant neu ddau ohonynt.

Paru[golygu | golygu cod]

Mae'r L. sponsa (fel cânt eu talfyru) yn paru yn y dull arferol i fursennod ac yna'n symud i ffwrdd o'r dŵr gyda'i gilydd. Mae'r weithred ei hun o gymhau yn cymryd oddeutu 30-60 munud ac wedi hynny arhosant gyda'i gilydd mewn pâr. Mae'r fenyw fel rheol yn dodwy ei hwyau yn y dŵr ac ar blanhigyn; ar yr adeg yma, gall gall y fenyw fod o dan y dŵr am gyfnod o 30 munud. Mae'n gwneud twll bychan ym meinwe'r planhigyn ac yn dodwy i mewn yn y twll hwnnw. Ar adegau prin mae'n dodwy mewn planhigion wrth ochr y dŵr, os oes gobaith y daw glaw ac y byddant ymhen y rhawg o dan y dŵr.

Mae'n cymryd ychydig wythnosau i'r wyau ddatblygu; yn aml, oherwydd amgylchiadau amgylcheddol, mae'r broses hwn yn arafu (proses sy'n cael ei alw'n 'saib').[1] Gall y 'seibiant' hwn fod cyhyd â'r gaeaf, pan fo hi'n aeaf caled.

Pan ddaw'r gwanwyn, mae'r wyau'n deor, a gwnânt hynny o fewn munud neu ddau. Nid oes gan y larfa goesau nac adenydd ac ni all fwyta, ond mae'n mynd yn ei blaen drwy symud ei gorff o'r naill ochr i'r llall, nes ei bod o dan y dŵr. Yna mae'n newid siap ei chorff ac yn medru bwyta a thyfu unwaith eto i siap ychydig yn wahanol. Mae'n cyrraedd maint oedolyn mewn oddeutu 8 wythnos.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Askew, R.R. (2004) The Dragonflies of Europe. (revised ed.) Harley Books. tt58–66. ISBN 0-946589-75-5
  • Corbet, P.S., Longfield, C., and Moore, N.W. (1960). Dragonflies. Collins. New Naturalist. tt260. ISBN 0-00-219064-8.
  • Corbet, P.S and Brooks, S. (2008). Dragonflies. Collins. New Naturalist. tt454 ISBN 978-0-00-715169-1
  • d'Aguilar, J., Dommanget, JL., and Prechac, R. (1986) A field guide to the Dragonflies of Britain, Europe and North Africa. Collins. tt168–178. ISBN 0-00-219436-8
  • Gibbons, R.B., (1986). Dragonflies and Damselflies of Britain and Northern Europe. Country Life Books. tt54–62. ISBN 0-600-35841-0.
  • Hammond, C.O. (1983). The Dragonflies of Great Britain and Ireland, (2nd Ed). Harley Books. tt58–59. ISBN 0-946589-00-3.
  • Ueda, T., (1978). Geographic variation in the life cycle of Lestes sponsa. Tombo 21:27–34.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi; adalwyd 15 Awst 2015
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: