Gwas neidr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gwas y neidr)
Gweision neidr
Gwäell asgell aur - (Sympetrum flaveolum)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teuluoedd[1]

$Uwchdeulu yw Aeshnoidea, Cordulegastroidea a Libelluloidea. $$Nid yw'n gytras

Y gwas neidr Mesurupetala, Jurasig hwyr (Tithonian), calchfaen Solnhofen, yr Almaen.
Un o nodweddion pennaf y gweision neidr yw eu llygaid mawr, symudliw (iridescent).

Pryf gydag adenydd dwbwl sy'n perthyn i urdd Odonata yw gwas neidr (hefyd: gwas y neidr) (lluosog: gweision neidr). Mae'n byw ger llynnoedd, nentydd a gwernydd ac maen nhw'n bwyta mosgitos, gwybed, clêr, gwenyn, gloynnod byw a phryfed eraill. Nid ydynt yn brathu nac yn pigo pobl. Mae'r gair Groeg Anisoptera yn golygu "adenydd anwastad" gan fod yr adain cefn yn lletach na'r rhai blaen.[2]

Un o brif nodweddion y gwas neidr yw ei lygaid cyfansawdd enfawr, dau bâr o adenydd a chorff hir sy'n eu galluogi i weld bron i 360 gradd - i bob cyfeiriad. Fel pob pryfyn arall mae ganddyn nhw chwe choes; ond nid ydy'r rhan fwyaf ohonyn nhw, bellach, yn medru cerdded. Mae'r gwas y neidr ymhlith y pryfaid a all hedfan gyflymaf ac am gyfnod hir e.e. ar draws y cefnforoedd. Gallant hedfan i 6 chyfeiriad: ymlaen, yn ôl, i fyny, i lawr, i'r chwith ac i'r dde.[3] Mae'r Ymerawdwyr yn medru hedfan ar gyflymder uchaf o 10–15 metr yr eiliad (22–34 mya).

Dim ond am chwe mis mae rhai gweision y neidr yn byw, tra bod eraill yn byw cyn hired â chwe neu saith mlynedd.

Ceir oddeutu 3000 math gwahanol o weision neidr ac mae tua 5,900 o rywogaethau yn yr urdd Odonata gan gynnwys y mursennod.[4][5]

Ffosiliau a pherthynas teuluoedd[golygu | golygu cod]

Mae'r gwas y neidr yn hen grŵp a cheir ffosiliau o weision neidr mawr o gyfnod y Meganisoptera (tua 300-325 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol. Mae gan y ffosiliau hyn faint adenydd o 750 mm (30 mod). Yn y grŵp hwn mae'r Meganeuropsis, sef y pryf mway ei faint ar wyneb y Ddaear. Ceir tua 3,000 rhywogaeth o Anisoptera ar y Ddaear heddiw. Mae'r rhan fwyaf yn drofanol.

'Dyw'r union berthynas rhwng y gwahanol deuluoedd heb ei brofi'n llawn (yn 2015), ondmae'r coeden deulu canlynol yn rhoi syniad i ni o'r berthynas honno. Y llinellau toredig yw' berthynas nad ydyw wedi'i brofi'n llawn.

Anisoptera

Gomphidae (clubtails)





Austropetaliidae



Aeshnoidea ('Ymerawdwyr')



Petaluridae ('Cynffonau petal')





Macromiidae ('Criwserod')






Libelluloidea ('Picellwyr')

Neopetaliidae



Cordulegastridae ('Cylchoedd aur')




Libellulidae (skimmers)



"Corduliidae" [Nid yw'n gytras] ('Y Gweision Gwyrdd')




Synthemistidae ('Cynffonau teigrod)




Chlorogomphidae







Gweision neidr gwledydd Prydain[golygu | golygu cod]

Ceir 57 o rywogaethau'r Odonata yng ngwledydd Prydain: mae 21 ohonynt yn fursennod (is-urdd Zygoptera) a 36 ohonynt yn weision neidr (is-urdd suborder Anisoptera). Ond ymwelwyr yw rhai o'r rhain ac mae rhai ar y rhestr wedi hen farw o'r gwledydd hyn. Y niferoedd sy'n parhau i baru ar yr ynysoedd hyn (yn 2015) yw 42, sef 17 o fursennod a 25 o weision neidr. Caiff y rhestr hon ei diweddaru ar adegau gan Odonata Records Committee a ffurfiwyd yn 1998.

Dyma nhw:

Is-urdd Anisoptera (Gweision neidr)
Teulu'r Gomphidae ('Gweision neidr tindrom')
Teulu'r Aeshnidae ('Yr Ymerawdwyr')
Teulu'r Cordulegastridae ('Gweision neidr torchog')
Teulu'r Corduliidae ('Y Gweision gwyrdd')
Teulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr')

Ar lafar, ac yn gyffredinol gelwir y mursennod hefyd yn weision neidr, er nad yw hyn yn hollol gywir. Dyma'r prif grwpiau:

Is-urdd Zygoptera (Mursennod)
Teulu'r Calopterygidae ('Y Morwynion')
Teulu'r Lestidae ('Y Mursennod gwyrdd')
Teulu'r Coenagrionidae ('Y Mursennod coch a glas-ddu')
Teulu'r Platycnemididae ('Y Mursennod coeswen')

Mae gan nifer o weision neidr enwau Cymraeg ac mae'r rheiny ar y cyfan wedi'u canfod yng ngwledydd Prydain ar ryw gyfnod.

Teulu'r Gomphidae - Y Gweision neidr tindrom[golygu | golygu cod]

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd Côd eu statws
Gwas neidr dindrom [B] Gomphus vulgatissimus  Cymru
 Lloegr
Gwas neidr coes felen [C] Gomphus flavipes V (1818)

Teulu'r Aeshnidae - Yr Ymerawdwyr[golygu | golygu cod]

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd Côd eu statws
Gwas neidr y De Aeshna cyanea  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Gwas neidr brown Aeshna grandis  Cymru
 Lloegr
Gwas neidr llygadwyrdd Aeshna isoceles  Lloegr[K]
Gwas neidr Asur Aeshna caerulea  yr Alban
Gwas neidr glas Aeshna juncea  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Gwas neidr mudol Aeshna mixta  Cymru
 Lloegr
Gwas neidr mudol y De [D] Aeshna affinis V (1952)
Ymerawdwr Anax imperator  Cymru
 Lloegr
Ymerawdwr bach Anax parthenope  Cymru
 Lloegr
RC (1996)
Gwas neidr gwyrdd Anax junius V (1998)
Gwas neidr flewog Brachytron pratense  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Gwas neidr crwydrol [E] Hemianax ephippiger V (1903)

Teulu'r Cordulegastridae - Gweision neidr torchog[golygu | golygu cod]

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd Côd eu statws
Gwas neidr eurdorchog Cordulegaster boltonii  yr Alban
 Cymru
 Lloegr

Teulu'r Corduliidae - Y Gweision Gwyrdd[golygu | golygu cod]

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd Côd eu statws
Gwas gwyrdd blewog Cordulia aenea  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Gwas gwyrdd gloyw Somatochlora metallica  yr Alban
 Lloegr
Gwas gwyrdd y Gogledd Somatochlora arctica  yr Alban
Gwas orenfrith Oxygastra curtisii Ex (1963)

Teulu'r Libellulidae - Y Picellwyr[golygu | golygu cod]

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd Côd eu statws
Picellwr praff Libellula depressa  Cymru
 Lloegr
Picellwr prin Libellula fulva  Lloegr
Picellwr pedwar nod Libellula quadrimaculata  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Picellwr tinddu Orthetrum cancellatum  Cymru
 Lloegr
Picellwr cribog Orthetrum coerulescens  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Gwäell scarlad Crocothemis erythraea V (1995)
Gwäell ddu Sympetrum danae  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Gwäell asgell aur [F] Sympetrum flaveolum V
Gwäell wythien goch Sympetrum fonscolombei  Lloegr RC
Gwäell rudd Sympetrum sanguineum  Cymru
 Lloegr
Gwäell gyffredin [G] Sympetrum striolatum  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Gwäell grwydrol Sympetrum vulgatum V
Gwäell resog Sympetrum pedemontanum V (1995)
Picellwr wynebwyn Leucorrhinia dubia  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Picellwr wynebwyn mawr [H] Leucorrhinia pectoralis V (1859)
Y gleider crwydrol [I] [J] Pantala flavescens V (1823)

Gweision neidr yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Yng Nghymru roedd 37 o rywogaethau o Urdd yr Odanata yn paru rhwng 2010 a 2015: 22 o fursennod (Zygoptera) a 15 o weision neidr (Anisoptera).[6]

Dyma'r gweision neidr:

Maint[golygu | golygu cod]

Maint gweision neidr Cymru
Enw'r rhywogaeth milimetrau
picellwr wynebwyn
37(Leucorrhinia dubia)
picellwr cribog
44(Orthetrum coerulescens)
gwas gwyrdd blewog
48(Cordulia aenea)
picellwr pedwar nod
48(Libellula quadrimaculata)
picellwr praff
48(Libellula depressa)
picellwr tinddu
49(Orthetrum cancellatum)
gwas neidr flewog
55(Brachytron pratense)
gwas neidr mudol
63(Aeshna mixta)
gwas neidr crwydrol
63(Anax (Hemianax) ephippiger)
gwas neidr y de
70(Aeshna cyanaea)
ymerawdwr bach
71(Anax parthenope)
gwas neidr brown
73(Aeshna grandis)
gwas neidr glas
74(Aeshna juncea)
ymerawdwr
78(Anax imperator)
gwas neidr eurdorchog
84(Cordulegaster boltonii)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Martin Schorr, Martin Lindeboom, Dennis Paulson. "World Odonata List". University of Puget Sound. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-28. Cyrchwyd 25 Mawrth 2014.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. Odonata at Tree of Life web project. Retrieved 2011-09-18.
  3. Waldbauer, Gilbert (2006). A Walk Around the Pond: Insects in and Over the Water. Harvard University Press. t. 105. ISBN 9780674022119.
  4. Dunkle, Sidney W. (2000). Dragonflies Through Binoculars: a field guide to the dragonflies of North America. Oxford University Press. ISBN 0-19-511268-7.
  5. Zhang, Z.-Q. (2011). "Phylum Arthropoda von Siebold, 1848 In: Zhang, Z.-Q. (Ed.) Animal biodiversity: An outline of higher-level classification and survey of taxonomic richness". Zootaxa 3148: 99–103. http://mapress.com/zootaxa/2011/f/zt03148p103.pdf.
  6. www.british-dragonflies.org; Archifwyd 2016-11-10 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 16 Awst 2015