Picellwyr (teulu)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Libellulidae)
Libellulidae
Pantala flavescens yn Dar es Salaam, Tansanïa. Tua 5cm.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Epiprocta
Inffra-urdd: Anisoptera
Teulu: Corduliidae
Isdeuluoedd

Cordulephyinae - Corduliinae - Gomphomacromiinae - Idionychinae - Idomacromiinae - Neophyinae

Mae'n fwy na phosibl mai'r teulu yma o bryfaid, y Libellulidae (Cymraeg: teulu'r Picellwyr) ydy'r teulu mwyaf o weision neidr ar wyneb y Ddaear. Mae'n cynnwys yr isdeuluoedd: Corduliidae a'r Macromiidae yn ôl rhai, er bod cryn ddadlau am hyn gan naturiaethwyr. Hyd yn oed heb y ddau isdeulu hyn, mae'r teulu Libellulidae'n dal i gynnwys dros 1,000 o rywogaethau.

Mae eu tiriogaeth yn ymestyn dros wyneb y Ddaear, fwy neu lai, ond ceir ambell un, fel Libellula angelina sy'n hynod o brin. Mae llawer o aelodau'r teulu hwn yn lliwgar eithriadol, neu gyda bandiau ar eu hadenydd. Mae'r genws cysylltiedig, Plathemis yn cynnwys y 'cynffonau gwynion'. Mae'r genws Celithemis yn cynnwys sawl rhywogaeth hynod o liwgar, a welir yn yr Unol Daleithiau. Lliwgar hefyd ydy'r rhywogaethau yn y genera Trithemis a Zenithoptera ac ymhlith y rhai mwyaf cyffredin y mae: Tramea a Pantala.

Mae'r picellwyr canlynol i'w cael yng ngwledydd Prydain:

Delwedd Rhywogaeth Enw Lladin Gwledydd
Female Libellula depressa bgiu.jpg Picellwr praff Libellula depressa  Cymru
 Lloegr
LibellulaFulvaMale3.jpg Picellwr prin Libellula fulva  Lloegr
Vierfleck (Libellula quadrimaculata).jpg Picellwr pedwar nod Libellula quadrimaculata  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Orthetrum cancellatum.jpg Picellwr tinddu Orthetrum cancellatum  Cymru
 Lloegr
KleinerBlaupfeilKreta1.JPG Picellwr cribog Orthetrum coerulescens  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Darter August 2007-8.jpg Gwäell scarlad Crocothemis erythraea
Sympetrum danae 2(loz).jpg Gwäell ddu Sympetrum danae  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Sympetrum flaveolum 1(loz).jpg Gwäell asgell aur [F] Sympetrum flaveolum
Darter August 2007-22 edit.jpg Gwäell wythien goch Sympetrum fonscolombei  Lloegr
Sympetrum sanguineum - botanischer Garten Schönbrunn.jpg Gwäell rudd Sympetrum sanguineum  Cymru
 Lloegr
Sympetrum striolatum 3(loz).jpg Gwäell gyffredin [G] Sympetrum striolatum  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Highland Darter - geograph.org.uk - 923136.jpg Gwäell yr ucheldir [G] Sympetrum nigrescens  yr Alban
Gemeine Heidelibelle (Sympetrum vulgatum) 4.jpg Gwäell grwydrol Sympetrum vulgatum
SympetrumPedemontanumMale.jpg Gwäell resog Sympetrum pedemontanum
LeucorrhiniaDubiaMale.jpg Picellwr wynebwyn Leucorrhinia dubia  yr Alban
 Cymru
 Lloegr
Leucorrhinia pectoralis female.jpg Picellwr wynebwyn mawr [H] Leucorrhinia pectoralis
Wandering glider horizontal edit1.jpg Y gleider crwydrol [I] [J] Pantala flavescens

Genera[golygu | golygu cod]

Mae Libelluidae yn cynnwys y genera canlynol:

Galeri[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Silsby, Jill. 2001. Dragonflies of the World. Smithsonian Institution Press, Washington D.C.

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: