Gwäell asgell aur
Gwedd
| Sympetrum flaveolum | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Odonata |
| Is-urdd: | Anisoptera |
| Teulu: | Libellulidae |
| Genws: | Sympetrum |
| Rhywogaeth: | S. flaveolum |
| Enw deuenwol | |
| Sympetrum flaveolum (Linnaeus, 1758) | |
Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Gwäell asgell aur (Lladin: Sympetrum flaveolum; lluosog: gweyll asgell aur). Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae i'w ganfod yn Ewrop a chanol a gogledd Tsieina yn ogystal â gwledydd Prydain, fel gwas neidr mudol. Mae wedi'i weld yng ngwledydd Prydain (mewn niferoedd) yn 1906, 1926, 1945, 1953, a 1995.
Mae hyd ei adenydd yn 37mm ac mae'n hedfan rhwng Gorffennaf ac Awst ger llwyni, coed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr. Fel arfer ceir brwyn ar lanau'r pyllau.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Geiriadur enwau a thermau, Llên Natur, Cymdeithas Edward Llwyd.