Gweision neidr torchog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cordulegastridae)
Gweision neidr torchog
Cordulegastridae
Cordulegaster heros
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teulu: Cordulegastridae

Genera:
Anotogaster - Selys, 1854 Cordulegaster - Leach, 1815 Neallogaster - Cowley, 1934 Sonjagaster - Lohmann, 1992

Teulu o Weision neidr ydy Cordulegastridae, a adnabyddir yn gyffredin gyda'r enw Gwas neidr torchog (lluosog: Gweision neidr torchog) (Saesneg: spiketails).[1] Mae'r hen enw Saesneg ar y teulu hwn ("flying adder") yn ddigon tebyg i'r hen enw Cymraeg (gwas y "neidr"). Gyda'i gilydd, mae'r gweision neidr a'r Mursennod yn ffurfio Urdd a elwir yn Odonata.

Fe'i ceir ledled y byd; mae pob un o'r wyth rhywogaeth i'w cael yng Ngogledd America ac yn perthyn i'r genws Cordulegaster.

Mae eu cyrff yn gymharol fawr, gyda marciau oren ar gefndir brown neu ddu. Eu cynefin yw nentydd glân ger llwyn o goed; mae'n ddigon hawdd ei hadnabod yno gan eu bod yn hedfan yn araf tua 30 i 7070 cm uwch wyneb y dŵr. Os cânt eu dychryn, fodd bynnag, gallant hedfan ar gryn gyflymder.

Yn nhywod gwely'r nant mae'r Cordulegastridae'n dodwy ei wyau, a hynny yn y rhan bâs, fel arfer; i wneud hyn mae'r fenyw yn hofran yn fertig ac yn trochi yn awr ac yn y man i mewn i'r dŵr.[2]

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Daw'r enw Lladin, gwyddonol, "Cordulegastridae" o'r Groeg kordylinus sef 'siâp pastwn' a gaster - bol. Ystyr y gair Cymraeg 'torch' yw 'coron' neu 'goler gron'.[1]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Berger, Cynthia (2004). Dragonflies: Wild Guide. Stackpole Books. ISBN 0-8117-2971-0.
  2. Donald Joyce Borror, Dwight Moore DeLong (1971). An introduction to the study of insects. ISBN 978-0-03-082861-4.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: