Mursen las gyffredin
| Enallagma cyathigerum | |
|---|---|
| young adult male | |
| young adult female | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Odonata |
| Is-urdd: | Zygoptera |
| Teulu: | Coenagrionidae |
| Genws: | Enallagma |
| Rhywogaeth: | E. cyathigerum |
| Enw deuenwol | |
| Enallagma cyathigerum (Charpentier, 1840) | |
Mursen (math o bryfyn) yn nheulu'r Coenagrionidae yw'r Mursen las gyffredin (llu: mursennod glas cyffredin; Lladin: Enallagma cyathigerum; Saesneg: Common blue damselfly) sydd o fewn y genws a elwir yn Enallagma. Mae'r mursennod (Zygoptera) a'r gweision neidr (Anisoptera) ill dau'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Odonata. Mae'r Mursen las gyffredin i Ewrop ar wahân i Wlad yr Iâ; mae hefyd i'w chael yng Nghymru.
Fel llawer o fursennod (a elwir yn gyffredinol hefyd yn 'weision neidr') eu cynefin yw pyllau o ddŵr, llynnoedd araf eu llif, nentydd neu afonydd glân.
Mae adenydd yr oedolyn yn 32mm ac fe'i welir yn hedfan rhwng Mai a Medi. Mae'n ddigon hawdd camgymryd y Fursen las gyffredin (E. cyathigerum) am Coenagrion puella, ond mae gan y Fursen las gyffredin fwy o las nag o ddu ar ei thoracs. Mae'r ail segment o'r thoracs hefyd yn bur wahanol, gan fod gan E. cyathigerum smotyn amlwg gyda llinell oddi tano yn arwain tuag at y drydedd segment.
-
Gwryw gyda marciau unigryw ar waelod yr abdomen
-
Newydd anedig
-
Gwryw ifanc
-
Gwryw (oedolyn)
-
Gwryw (oedolyn)
-
Benyw
-
Benyw
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Rhestr o fursennod yn y teulu Coenagrionidae
- Odonata - yr Urdd o bryfaid sy'n cynnwys y gweision neidr a'r mursennod.