Mursen las amrywiol

Oddi ar Wicipedia
Coenagrion pulchellum
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Zygoptera
Teulu: Coenagrionidae
Genws: Coenagrion
Rhywogaeth: C. pulchellum
Enw deuenwol
Coenagrion pulchellum
(Vander Linden, 1825)

Mursen (math o bryfyn) yn nheulu'r Coenagrionidae yw'r Mursen las amrywiol (llu: mursennod glas amrywiol; Lladin: Coenagrion pulchellum; Saesneg: Variable Damselfly) sydd o fewn y genws a elwir yn Coenagrion. Mae'r mursennod (Zygoptera) a'r gweision neidr (Anisoptera) ill dau'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Odonata. Mae'r Mursen las amrywiol yn frodorol o Ewrop, ac mae'n eitha cyffredin yn Iwerddon, ac fe'i ceir yng Nghymru.[1]

male damselfly
Gwryw C. pulchellum

Fel llawer o fursennod (a elwir yn gyffredinol hefyd yn 'weision neidr') eu cynefin yw pyllau o ddŵr, llynnoedd araf eu llif, nentydd neu afonydd glân.

Mae adenydd yr oedolyn yn 33mm ac fe'i welir yn hedfan rhwng Mai a Medi. Mae ei loiw'n amrywio cryn dipyn, a dyna hanfod ei henw. Gellir ei chamgymryd am y Fursen las asur yn hawdd. Mae'r oedolyn yn aros ar lan y llyn neu'r pwll, ond gall y Fursen las amrywiol (neu'r C. pulchellum fel y caiff ei galw gan y naturiaethwr) stelcian o gwmpas cae o wair cyfagos.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Variable Damselfly". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 27 Mai 2011.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]