Mursen las Penfro

Oddi ar Wicipedia
'Coenagrion mercuriale'
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Teulu: Coenagrionidae
Genws: Coenagrion
Rhywogaeth: C. mercuriale
Enw deuenwol
Coenagrion mercuriale
(Charpentier, 1840)

Mursen (math o bryfyn) yn nheulu'r Coenagrionidae yw Mursen las Penfro (llu: mursennod glas Penfro; Lladin: Coenagrion mercuriale; Saesneg: Southern Damselfly) sydd o fewn y genws a elwir yn Coenagrion. Mae'r mursennod (Zygoptera) a'r gweision neidr (Anisoptera) ill dau'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Odonata. Mae'r Mursen las Penfro i'w chael yng Nghymru, fel yr awgryma'r enw. Mae hi hefyd i'w chael yn: Algeria, Awstria, Gwlad Belg, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Liechtenstein, Lwcsembwrg, Moroco, the yr Iseldiroedd, Portiwgal, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Swistir, Tiwnisia, a gwledydd eraill Prydain.

Fel llawer o fursennod (a elwir yn gyffredinol hefyd yn 'weision neidr') eu cynefin yw afonydd, llynnoedd araf eu llif, nentydd neu afonydd glân. Mae bygythiad iddi oherwydd lleihau cynefinoedd addas. Credir fod 25% o'r holl rywogaeth o C. mercuriale yn byw yng ngwledydd Prydain; lleihaodd y niferoedd 30% ers 1960 drwy golli cynefinoedd addas a glân. Ym Mynyddoedd y Preseli, yn 2015, cafwyd gwaith pwysig iawn i geisio ei diogelu.[1]

Mae adenydd yr oedolyn yn 30mm ac fe'i welir yn hedfan rhwng canol Mai ac Awst.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Conservationists restore habitat for endangered species". Western Telegraph. 12 April 2015. Cyrchwyd 12 April 2015.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]