Merched mewn rhyfela

Oddi ar Wicipedia

Mae profiadau menywod mewn rhyfela wedi bod yn amrywiol. Mae menywod wedi chwarae rôl allweddol a dylanwadol yn hanes rhyfela ar draws y canrifoedd, er nad yw hynny wedi cael ei bwysleisio bob amser gan fod rôl dynion wedi cael lle mwy blaenllaw yn y cofnod hanesyddol. Mae enghreifftiau mewn hanes yn dangos bod menywod wedi ymgymeryd â gwahanol rolau, yn amrywio o amddiffyn eu tiroedd rhag ymosodiad neu goresgyniad, i arwain milwyr, i ymgymryd gyda dyletswyddau a chyfrifoldebau yn ymwneud gyda’r ymdrech ryfel, i fod yn nyrsys ac yn feddygon tu ôl y llinellau ymladd hyd at fedru ymladd wyneb yn wyneb â’r gelyn yn yr 20fed a’r 21ain ganrif.

Cyfnod y Rhufeiniaid[golygu | golygu cod]

Buddug gan John Opie

Arweinydd benywaidd milwrol amlwg yn y cyfnod yma oedd Buddug a arweiniodd wrthryfel gyda’i merched yn erbyn y Rhufeiniaid. Wedi marwolaeth ei gŵr, Prasutagus, brenin yr Iceniaid, rhannwyd rheolaeth y deyrnas hon a leolwyd

yn Nwyrain Anglia, rhwng Buddug a’i mherched gyda’r Ymherawdr Rhufeinig, Nero. Disodlwyd Buddug fel rheolwr y deyrnas a cafodd hi ei chwipio a’i mherched ei threisio. Roedd Buddug yn ddynes benderfynol ac addawodd y byddai’n dial ar y Rhufeiniaid am y gwarth a’r cywilydd yma ar ei theulu a’i llwyth. Cododd y cyfle yma yn OC60-61 pan oedd Suetonius Paulinus, y llywodraethwr Rhufeinig, yn lansio ymosodiad yng ngogledd Cymru ar Ynys Môn. Arweiniodd Buddug ymosodiad drwy losgi ac ysbeilio ar ganolfannau milwrol a threfi Rhufeinig Colchester, Llundain a St.Albans. Llwyddodd y lluoedd o Frythoniaid o dan arweinyddiaeth Buddug i drechu’r milwyr Rhufeinig gan ladd miloedd o filwyr a chwalwyd y 9fed Lleng Rufeinig. Ymladdwyd y ddwy ochr eto yn Watling Street a llwyddodd y Rhufeiniaid i ad-ennill tir yr Iceniaid. Yn ôl y cofnodion lladdwyd 400 o Rufeiniaid ac 80,000 o Frythoniaid.[1] Mae ei gwroldeb a’i harweinyddiaeth anghyffredin am y cyfnod yn cael ei gydnabod hefyd gyda cherflun ohoni ymlith oriel arwyr Cymru yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.[2]

Yr Oesoedd Canol[golygu | golygu cod]

Yn y cyfnod yma roedd menywod yn dod i gysylltiad mwy uniongyrchol gyda rhyfel oherwydd eu statws yn y gymuned, neu oherwydd ffydd neu swydd. Mae ffynonellau’r cyfnod yn sôn am fenywod yn cymryd cyfrifoldeb milwrol ar ôl i’w gwŷr farw gyda rhai yn cymryd swyddi pwysig yn y gymdogaeth fel siryf wedi marwolaeth eu gwŷr a’u cyfuno gyda dyletswyddau milwrol. Roedd menywod eraill wedi ymuno gyda’i gwŷr yn ystod y Croesgadau tra fod menywod bonheddig yn helpu gyda threfniadau adeiladu amddiffynfeydd a threfnu gweithlu i help gyflawni hynny.

Byddai menywod o dras ȋs yn helpu gyda gwaith fel cario dŵr i faes y gad, gwneud gwaith coed fel saernïo saethau a llinynnau bwa a chynnig cymorth meddygol. Mae ambell gyfeiriad at fenywod yn cymryd rhan mewn ymladd uniongyrchol, er enghraifft, arweiniodd Aoife MacMurrough frwydrau ar ran ei gŵr, sef Iarll Penfro ar ddiwedd y 13g ac yn 1461 trechwyd Iarll Warwick yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau gan Marged o Anjou, gwraig y Brenin Harri VI).

Un o arwresau Cymru mewn cyd-destun milwrol yn ystod y cyfnod yma oedd Gwenllian, merch Gruffydd ap Cynan, gwraig Gruffydd ap Rhys a mam Yr Arglwydd Rhys. Tra oedd ei gŵr a’i thad yn y gogledd yn ymladd y Normaniaid arweiniodd Gwenllian yn 1136 byddin o Gymry yn erbyn ymosodiad y Normaniaid ar y Deheubarth. Cipiwyd hi a’i mheibion, Morgan a Maelgwyn, gan y Normaniaid a cafodd hi ei dienyddio. Mae Maes Gwenllian ger Cydweli ble lladdwyd hi wedi ei enwi ar ei hôl.[3][4][5]

Mewn cyd-destun Ewropeaidd amlygodd Jeanne d’Arc, o Ffrainc, neu ‘Morwyn Orléans’ fel yr adnabyddwyd hi hefyd, ei hun fel arweinydd benywaidd milwrol enwog. Arweiniodd lluoedd Ffrainc i fuddugoliaeth trawiadol yn erbyn y Saeson ym Mrwydr Orléans, Mai 1429, yn ystod cyfnod y Rhyfel Can Mlynedd rhwng Ffrainc a Lloegr.[6]

1500-1800 ym Mhrydain[golygu | golygu cod]

Blanche Arundell

Mae sawl enghraifft yn ystod y cyfnod yma o fenywod yn defnyddio arfau er mwyn ymladd neu amddiffyn eu cartrefi pan fyddai eu gwŷr i ffwrdd yn rhyfela. Yn ystod y Rhyfel Cartref amddiffynnodd Blanche, Arglwyddes Arundel,

Castell Wardour yn erbyn dros 1,300 o filwyr y Seneddwyr a llwyddodd yr Arglwyddes Mary Bankes i amddiffyn Castell Corfe am chwech wythnos yn 1643 tra oedd o dan warchae. Mae enghreifftiau eraill yn cofnodi menywod yn ymgymryd ac ymladd uniongyrchol ar faes y gad, megus yr Arglwyddes Ann Cunningham yn 1639 ym Mrwydr Berwick.

Wynebodd Jemima Niclas, neu ‘Jemima Fawr’ fel yr adnabyddwyd hi hefyd a gwraig i grydd, ymosodiad gan filwyr Ffrengig yn 1797 adeg y Chwyldro Ffrengig. Pan laniodd criw o filwyr Ffrengig yn Abergwaun yn 1797 (Brwydr Abergwaun) gorymdeithiodd Jemima draw i gwrdd gyda hwy a’u casglu ynghyd gyda dim ond fforch fel arf. Mae ei hanes wedi cael ei gofnodi mewn llyfrau hanes ac mewn nofelau.[7]

Adeg rhyfeloedd roedd gwersylloedd yn dilyn byddinoedd y cyfnod ac roedd rhain yn cynnwys llawer o fenywod. Dosbarthwyd y gwersylloedd hyn i ddau sef y rhai oedd yn cynnwys gwragedd a phlant y milwyr a’r rhai a oedd yn darparu gwasanaethau ymarferol fel coginio, golchi a thrwsio dillad a gofalu a nyrsio am bobl sâl a rhai a oedd wedi eu hanafu.

Ni welwyd rhyfel fel amgylchedd addas ar gyfer menywod ac roedd llawer o swyddogion uwch y fyddin yn annhebygol i ddod a’u gwragedd gyda nhw ar ymgyrchoedd. Roedd gwragedd milwyr yn cael eu gweld fel eiddo i’r gatrawd ac felly yn derbyn dognau ond yn cael eu cosbi’n llym, er enghraifft, drwy chwipio, os fyddent yn cael eu chwilio’n euog o gamymddwyn.

Nyrsys cynorthwyol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg[golygu | golygu cod]

Betsi Cadwaladr

Daeth pwysigrwydd menywod fel nyrsus ar faes y gad i’r amlwg yn ystod y cyfnod yma. Mae Florence Nightingale yn cael ei gweld fel ffigwr allweddol yn sefydlu nyrsio fel proffesiwn yn sgil y safonau nyrsio a weithredwyd ganddi ar gyfer ei staff nyrsio yn Rhyfel y Crimea (1854-56). Roedd y wardiau yno yn frwnt gyda gwelyau heb eu golchi ac wedi eu staenio gyda gwaed. Roedd cyflenwadau bwyd a meddygol yn brin iawn ond yn sgil ei hymdrechion bu gwelliannau mewn safonau glanweithdra ac roedd safonau uchel ei nyrsys wedi golygu bod llawer o fywydau wedi cael eu harbed. Ganwyd hi yn Fflorens, yr Eidal i deulu cefnog ac yn erbyn dymuniadau ei theulu penderfynodd ei bod eisiau nyrsio. Wedi ei phrofiad yn Rhyfel y Crimea sefydlwyd yr ysgol nyrsio gyntaf ganddi yn Llundain yn 1860.

Nyrs amlwg arall yn Rhyfel y Crimea oedd Mary Seacole a anwyd yn Jamaica. Gwrthodwyd ei chais cychwynnol i fynd draw i weithio fel nyrs ar faes y gad oherwydd ei hethnigrwydd a bu’n rhaid iddi dalu costau teithio ei hun. Gwrthodwyd ei chais i weithio’n wirfoddol fel un o nyrsys Nightingale ond gymaint oedd ei hangerdd dros ei gwaith hyd nes ei bod wedi defnyddio’i harian ei hunan er mwyn sefydlu ‘Gwesty Prydeinig’ ar gyfer gwella swyddogion.

Nyrs enwog o Gymru a fu’n nyrsio yn yr ysbyty a oedd o dan ofal Florence Nightingale yn Scutari yn Nhwrci oedd Betsi Cadwaladr. Er na chafodd hyfforddiant ffurfiol fel nyrs roedd wedi cael ei hysbrydoli i fynd i’r maes yma gan yr adroddiadau papur newydd a ddarllenodd am y milwyr a glwyfwyd ym Mrwydr Alma adeg Rhyfel y Crimea. Wedi hyfforddi fel nyrs yn Llundain ymunodd gyda’r gwasanaeth nyrsio milwrol ble cyfarfu gyda Florence Nightingale yn Scutari. Nid oedd y ddwy yn dod ymlaen a phenderfynodd Betsi symud i Balaclafa lle wnaeth welliannau mawr i’r ysbyty yno.

Bu Janet Wells yn helpu timau meddygol byddin Rwsia yn ystod Rhyfel Rwsia-Twrci 1877-78 a bu’n trin milwyr yn Ne Affrica a fu’n ymladd mewn rhyfeloedd yn erbyn y Zwlw, er enghraifft Brwydr Rorke’s Drift, 1879.[8]

Y Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod]

Golygai rhyfel diarbed bod rhaid i bawb yn y gymdeithas gyfrannu tuag at yr ymdrech ryfel. Byddai’r rhyfel yn her newydd i fenywod ond eto roedd yn gyfle a oedd yn cynnig cychwyn pennod newydd yn eu hanes. Gyda dynion yn gwirfoddoli ac yna’n cael eu consgriptio mewn i’r lluoedd milwrol camodd menywod fewn i’r adwy a gwneud swyddi a oedd cynt wedi eu gwneud gan ddynion. Rhwng 1914-18 cymerodd tua dwy filiwn o fenywod swyddi dynion. Cyflogwyd hwy mewn swyddi gweinyddol, swyddi diwydiannol, yn y ffatrïoedd a gwirfoddolodd miloedd gyda Byddin a Tir a’r Groes Goch a gwahanol elusennau lleol a chenedlaethol. Aeth llawer o fenywod i weithio yn y ffatrïoedd arfau yn cynhyrchu offer milwrol fel sieliau a bwledi. Menywod oedd cyfran sylweddol o’r gweithlu yn ffatrïoedd ffrwydron fel Pembre yn Sir Gaerfyrddin a Queensferry yn Sir y Fflint. Gweithiai’r munitionettes hyn o dan amodau anodd a pheryglus yn gweithio gyda’r TNT wrth gynhyrchu ffrwydron. Roedd damweiniau yn gyffredin ac roedd perygl y swydd yn cael ei gydnabod gan y cyhoedd fel swydd arwrol.

Gweithiodd llawer o fenywod hefyd ar y ffrynt milwrol fel nyrsys gan ymuno gyda gwahanol gwasanaethau fel Gwasanaeth Nyrsio Ymerodrol y Frenhines Alexandra a’r Groes Goch. Bu eraill yn gweithio fel gyrwyr, teleffonwyr a chlercod gyda WAAC (Corfflu Cynorthwyol Menywod y Fyddin) tra ymunodd rhai gyda Llu Awyr Brenhinol y Menywod (WRAF: Women’s Royal Air Force). Bu menywod hefyd yn gwirfoddoli gyda gwahanol asiantaethau, er enghraifft y chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies, Gregynog gyda Chroes Goch Ffrainc a oedd yn rhedeg cabanau bwyd mewn gorsafoedd rheilffordd, ysbytai ymadfer a gwersylloedd tramwy.[8]

Yr Ail Ryfel Byd[golygu | golygu cod]

Aelodau[dolen marw] o Fyddin Tir y Merched tua 1942/3.

Newidiodd bywydau llawer o fenywod yn gyfan gwbl yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Dyma’r tro cyntaf i lawer ohonyn nhw adael y cartref i weithio: yn 1939 roedd tua chan mil o fenywod yng Nghymru yn gweithio, ond erbyn 1944 roedd y nifer wedi dyblu i dros ddau gan mil.

Gan fod angen i Brydain fod yn hunangynhaliol, a gofyn i ffermwyr gynhyrchu mwy o fwyd nag erioed o’r blaen, bu’n rhaid chwilio am fwy o bobl i weithio ar y ffermydd. Roedd llawer o weision fferm wedi mynd i ymladd yn y rhyfel, ac ateb y llywodraeth oedd ailsefydlu Byddin Tir y Merched, cynllun oedd wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Erbyn 1943 roedd bron i bum mil o fenywod yn rhan o Fyddin Tir y Merched yng Nghymru. Roedd miloedd o fenywod hefyd yn gweithio ar fferm y teulu yn helpu i gynhyrchu bwyd ar gyfer yr ymdrech ryfel.[9]

Erbyn 1944 roedd dros 80,000 o fenywod yn aelodau o Fyddin y Tir. Gwisgai’r aelodau siwmperi gwyrdd, trowsusau brown a hetiau ffelt brown. Roedden nhw’n gwneud amrywiaeth o waith gan gynnwys godro a gwaith fferm, torri coed a gweithio mewn melinau llifo. Roedd dros 1,000 o fenywod Byddin y Tir yn gweithio yn dal llygod mawr.[9]

O fis Rhagfyr 1941 ymlaen roedd yn rhaid i bob menyw rhwng 20 a 30 oed gofrestru ar gyfer gwaith rhyfel neu waith gyda’r lluoedd arfog. Ymunodd llawer â Gwasanaethau Cynorthwyol Menywod y fyddin, y llynges a’r llu awyr. I ddechrau doedd dim hawl ganddyn nhw i ymladd ond roedden nhw’n cefnogi gwaith y dynion gyda thasgau fel teipio, coginio, glanhau, ac ateb y ffôn. Yn ddiweddarach cafodd rhai waith oedd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r rhyfel fel bod mwy o ddynion yn gallu mynd i ffwrdd i ymladd.

Roedd gweithgarwch Gwasanaeth Gwirfoddol y Menywod (WVS: Women’s Voluntary Service) hefyd yn bwysig i’r ymdrech ryfel. Erbyn Medi 1943, roedd dros filiwn wedi ymaelodi. Roedd eu gwaith yn amrywio o yrru cerbydau ambiwlans, gofalu am blant sâl a faciwîs, a chynorthwyo mewn llochesau cyrch awyr.[9]

Gwasanaethodd drso 640,000 o fenywod yn y lluoedd arfog gan gynnwys Gwasanaethau Llynges y Menywod (WRNS: Women’s Naval Services) a’r Llu Awyr Tiriogaethol (ATF: Air Territorial Force).

Recriwtiwyd 55 asiant benywaidd gan Winston Churchill fel rhan o’r Gweithgor Ymgyrchoedd Arbennig (SOE: Special Operations Executive). Gollyngwyd hwy tu cefn i linellau’r gelyn er mwyn helpu mudiadau gwrthwynebu i wneud gwaith ysbïo a rhagchwilio yn y rhannau o Ewrop a oedd ym meddiant yr Almaen. Carcharwyd a bu farw rhai yng ngwersylloedd yr Almaen. Recriwtiwyd menywod hefyd gan y Cynorthwywyr Hyfforddiant Awyr (ATA: Air Training Auxilliary) er mwyn helpu gyda’r gwaith o gludo’r awyrennau rhwng y ffatrioedd a’r ffrynt. Galwyd hwy’n Attagirls ac yn nes ymlaen roedd rhai menywod yn gweithio fel peilotiaid gyda’r gwasanaeth.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BBC - Cymru - Hanes - Ysgolion - Y Brythoniaid". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-05-10.
  2. "Boudicca | History, Facts, & Death". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-10.
  3. "Rheolwyr Cymru" (PDF). HWB. Cyrchwyd 11 Mai 2020.[dolen marw]
  4. Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  5. "GWENLLIAN (bu farw 1136), | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-05-11.
  6. "Joan of Arc | Biography, Accomplishments, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-11.
  7. "The last invasion of Britain by the French at Fishguard". Historic UK (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-11.
  8. 8.0 8.1 8.2 "Datbygu Rhyfela" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 11 Mai 2020.
  9. 9.0 9.1 9.2 "Yr Ail Ryfel Byd | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-05-11.