Brwydr Abergwaun

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Carregwastad, man glanio'r Ffrancod.

Ymgais gan Weriniaeth Gyntaf Ffrainc i oresgyn Teyrnas Prydain Fawr yn ystod Rhyfel y Glymblaid Gyntaf oedd Brwydr Abergwaun neu Laniad y Ffrancod. Hwn oedd y goresgyniad diwethaf gan lu milwrol ar dir mawr Prydain. Roedd yr ymosodiad wedi'i ddyfeisio gan cadlywydd Ffrengig Lazare Hoche ac roedd tair rhan iddo, gyda'r prif ymosodiad yn cefnogi Cymdeitha y Gwyddelod Unedig, ond oherwydd y tywydd un ddigwyddodd, sef yr ymosodiad ar Abergwaun. Lladdwyd ac anafwyd 33, daliwyd 1,360 yn garcharorion a dwy long.[1][2]

Ar 22 Chwefror 1797 glaniodd 600 o filwyr rheolaidd ac 800 o gyn-garcharorion o Ffrainc yng Ngharregwastad, Pen-caer, ger Abergwaun yn Sir Benfro, dan arweiniad William Tate, Americanwr o dras Wyddelig. Cludwyd hwy yno mewn pedair llong. Ysbeiliodd y Ffrancod ffermdai cyfagos a chanfod cyflenwad o win a'i yfed. Ildiodd y llu a phentyrru eu harfau ar draeth Wdig ar 24 Chwefror.[3]

Aeth John Campbell, barwn cyntaf Cawdor rhagddo i gasglu oddeutu 500 o filwyr-wrth-gefn a bu sgarmes neu nau rhwng milwyr y ddwy wlad ar 23 Chwefror. Erbyn drennydd roedd Tate wedi ildio; meddiannodd Cambell a'i griw hefyd dwy long Ffrengig ond llwyddodd Castagnier i ddychwelyd i Ffrainc.

Carreg ar y pentir sy'n cofio'r frwydr.

Arwres y dydd oedd merch o'r enw Jemima Nicholas, a ddaliodd 12 o filwyr Ffrengig ar ei liwt ei hun, gyda dim ond fforch. Mewn adroddiad ysgrifenedig ar 25 Chwefror, nodir i'r Ffrancod gredu mai milwr oedd merched y pentref, oherwydd eu hetiau traddodiadol, cantel lydan ac mai gynnau oedd y ffynn yn eu dwylo.[4]

Heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Coffeir y frwydr mewn tapestri a arddangosir yn Llyfrgell Abergwaun, Neuadd y Dref.[5]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. James. James' Naval History. pp. 95–6. 
  2. historic-uk.com; adalwyd 22 Chwefror 2016
  3. Davies, John et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 376 ['GLANIAD Y FFRANCOD'].
  4. Rose & Richard tt. 93-101
  5.  Tapestri Glaniad y Ffrancod. Amgueddfa Rithwir Sir Benfro. Adalwyd ar 19 Mawrth 2014.