Pen-caer

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Erthygl am y gymuned yw hon. Am y cwmwd canoloesol gweler Pen Caer (cwmwd).
Pencaer, Ynys Meicl, Ynys Onnen a'r goleudy, wrth i'r haul fynd i'w fedd

Cymuned yng ngogledd-orllewin Sir Benfro yw Pen-caer[1] neu weithiau "Pen Caer". Saif i'r gorllewin a'r gogledd-orllewin o Wdig ger Abergwaun ac mae ei harwynebedd yn 3,588 hectar.

Daw enw'r gymuned o enw penrhyn Pen Caer, sy'n cynnwys Pen Strwmbl (Saesneg: Strumble Head). Nid oes unrhyw bentref mawr o fewn y gymuned, y mwyaf yw Tremarchog (St Nicholas) gyda phoblogaeth o ychydig dros 50, gydag aneddiadau gwasgaredig yn Llanwnda, Llangloffan, Trefaser a Treopert (Granston). Mae'r rhan arfordirol o'r gymuned yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ac mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn arwain trwyddi.

Ceir cromlechi neolithig yn Llanwnda a Thremarchog a dwy fryngaer o'r Oes Haearn uwchben Pwll Deri. Ceir carreg Ogham yn Eglwys Tremarchog.

Ger Carregwastad yn 1797 y bu glaniad y Ffrancod.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pen-caer (pob oed) (474)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pen-caer) (187)
  
41.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pen-caer) (293)
  
61.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pen-caer) (54)
  
26.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Defnyddir sillafiad safonol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 699
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013