Maint Cymru (elusen)
Enghraifft o'r canlynol | environmental organization, sefydliad di-elw |
---|---|
Pencadlys | Caerdydd |
Sefydlwyd elusen ailgoedwigo Maint Cymru yn 2010.[1] Enw'r elusen yn y Saesneg, yw Size of Wales. Mae'n gweithio gyda phobl frodorol a phobl leol ar draws y byd i dyfu coed a diogelu o leiaf 2 filiwn hectar o goedwigoedd trofannol – ardal o faint Cymru.[2] Mae'r elusen yn canolbwyntio ar hyrwyddo cadwraeth fforestydd glaw fel ymateb cenedlaethol i fater byd-eang newid hinsawdd. Mae pencadlys y cordd yn y Deml Heddwch yng Nghanolfan Ddinesig Caerdydd. Cyfarwyddwr Maint Cymru yn 2023 yw Nicola Pulman.
Yr enw
[golygu | golygu cod]Mae'r enw yn Saesneg yn arbennig, yn chwarae ar y ffordd y mae Cymru'n aml yn cael ei ddefnyddio fel uned fesur ar gyfer tiriogaeth ac yn enwedig tiriogaeth a chynefinoedd naturiol sy'n cael eu dinistro. Mae hyn yn rannol gan bod maint Cymru yn adnabyddus a dealladwy fel cysyniad i siaradwyr Saesneg Prydain a bod tiriogaeth Cymru hefyd yn faint hawdd ei fesur - 20,000km sgwár.[3]
Egwyddorion a Chennad Maint Cymru
[golygu | golygu cod]Mae'r elusen yn gweithio gyda phobl frodorol a phobl leol ar draws y byd i dyfu coed a diogelu o leiaf 2 filiwn hectr o goedwigoedd trofannnol – ardal o faint Cymru.
Maent hefyd yn ceisio hybu pobl Cymru i gydnabod y rôl hollbwysig mae cymunedau brodorol yn ei chwarae mewn amddiffyn yr hinsawdd, bioamrywiaeth, a bywoliaethau.
Maent yn ymgyrchu i sbarduno newid mewn polisi, a galw ar Gymru i ddod yn 'Genedl Dim Datgoedwigo' gyntaf y byd.[4]
Yn ôl eu gwefan, mae Maint Cymrum mae ei gwaith yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (2015) ac ymrwymiadau rhyngwladol i gyfreithiau a safonau hawliau dynol.[5]
Ymgyrch Cymru - Cenedl Dim Datgoedwigo
[golygu | golygu cod]Yn 2020, ymunodd Maint Cymru â WWF Cymru ac RSPB Cymru i alw am Gymru i ddod yn Genedl Dim Datgoedwigo.
Golyga hyn ymgyrchu yn erbyn coedwigoedd (tramor fel rheol) sy'n cael eu torri a cholli er mwyn adeiladu tai neu ar gyfer plannu cnydau masnachol yn unig i'w gwerthu dramor. Defnyddia'r elusen yr enghraifft bod Cymru yn bwyta ac yn defnyddio llawer o gynnyrch sy’n dod o ranbarthau trofannol, fel cig eidion o Dde America, soia (rydyn ni’n ei fwydo i’r anifeiliaid rydyn ni’n eu bwyta), olew palmwydd, cneuen goffi, siocled, pren, papur a mwydion coed. Noda'r mudiad bod dros 50% o gynnyrch bwyd wedi’u pecynnu yn cynnwys olew palmwydd.[6]
Perthynas â Mbale, Wganda
[golygu | golygu cod]Mae gan y corff berthynas arbennig gydag ardal Mbale yn Wganda. Mae hyn yn cydfynd â'r berthynas a ddatblygwyd drwy Lywodraeth Cymru. Mae Mbale yn ardal fryniog fawr sydd wedi cael ei datgoedwigo’n drwm, yn bennaf oherwydd ehangu amaethyddiaeth; galw cynyddol am goed tanwydd a siarcol; a mesurau diogelu cyfreithiol gwan a gorfodi cyfreithiau diogelu coedwigoedd.[7]
Ym mis Tachwedd 2022 cyhoeddwyd bod Maint Cymru, mewn cydweithrediad â phartneriaid Tyfu Coed Mount Elgon (METGE) yn Wganda, "targed o fewn cyrraedd Cymru wrth i goeden rhif 20 miliwn gael ei phlannu yn Uganda". Nod Rhaglen Coed Mbale - a sefydlwyd gan fenter hirsefydlog Cymru ac Affrica - yw plannu 25 miliwn o goed erbyn 2025 mewn ardal fryniog, wedi'i datgoedwigo'n drwm yn nwyrain Wganda mewn ymgais i alluogi cymunedau i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd. Mae'r rhaglen, sy'n anelu at blannu dros 3 miliwn o goed y flwyddyn, yn helpu cymunedau sy'n byw ar reng flaen yr argyfwng hinsawdd i addasu a gwella eu bywoliaeth.
Mae dros 100 o staff wedi cael eu recriwtio ac mae 50 o feithrinfeydd coed dan arweiniad cymunedau wedi cael eu creu.[8]
Prosiectau
[golygu | golygu cod]- 10 Miliwn o Goed: Nod y prosiect plannu coed hwn yn Wganda yw plannu 10 miliwn o goed yn ardal Mbale sydd wedi’i datgoedwigo’n drwm.
- Cymunedau'n Cefnogi Gorilod a Choedwigoedd, mewn partneriaeth â Fauna & Flora International: Mae'r prosiect hwn yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo yn cefnogi creu dwy warchodfa a arweinir gan y gymuned mewn rhan o goedwig law ail fwyaf y byd.
- Hawliau Tir Wapichan, mewn partneriaeth â Forest Peoples Programme: Nod y prosiect hwn yw cynorthwyo pobl Wapichan Guyana i ddiogelu a diogelu tiriogaeth eu hynafiaid yn gyfreithiol a chynnal eu coedwig draddodiadol.
- Diogelu Coedwigoedd Arfordirol Cenia, mewn partneriaeth â WWF.
- Sicrhau tiroedd hynafiaid Ogiek, coedwigoedd a bywoliaethau cynhenid, mewn partneriaeth â Forest Peoples Programme: Nod y prosiect hwn yw helpu pobl frodorol Ogiek Mynydd Elgon yn Kenya i ennill hawliau cyfreithiol ar gyfer eu tiroedd. Yn 2000 cafodd yr Ogiek eu troi allan o'u tiroedd yn enw 'cadwraeth'. Mae'r achosion hyn o droi allan yn caniatáu i Wasanaeth Coedwig Kenya (KFS) reoli'r tiroedd a'r coedwigoedd hyn. Mewn gwirionedd, mae KFS yn derbyn taliadau gan ffermwyr i fynd i mewn i goedwig gynhenid, ei thorri i lawr, a'i diraddio'n ddifrifol. Mae'r Ogiek wedi dangos pan fydd y gymuned frodorol yn rheoli'r tir, mae datgoedwigo'n lleihau fel y mae llosgi siarcol a photsio eliffantod.
- Sicrhau tiriogaeth Wampís, mewn partneriaeth â Forest Peoples Programme: Nod y prosiect nid yn unig yw cynorthwyo cymuned frodorol Wampís ym Mheriw i sicrhau hawliau cyfreithiol i diroedd eu hynafiaid ond hefyd i ennill cydnabyddiaeth gyfreithiol o'u hawliau fel hunaniaeth gyfunol ym Mheriw. ac yn rhyngwladol.
- Gwarchod Parc Cenedlaethol Conkouati-Douli (CDNP), mewn partneriaeth â WCS: CDNP yw'r parc mwyaf ecolegol amrywiol yng Ngweriniaeth y Congo, sy'n ymestyn o arfordir yr Iwerydd i fynyddoedd mewndirol a safana.
- Kariba REDD+, mewn partneriaeth â South Pole Group: Mae'r prosiect hwn wedi'i leoli yn Llyn Kariba, gogledd Zimbabwe. Nod y prosiect yw sefydlu ardal rheoli bywyd gwyllt o safon fyd-eang o fewn y Coridor Gwyrdd Zambezi (GZA) arfaethedig i warchod bywyd gwyllt, tir a hunan-rymuso'r bobl leol gyda chyfleoedd busnes i dyddynwyr.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Prince launching 'Size of Wales' project in Llanarthne". BBC Wales News. 7 Medi 2010.
- ↑ "Am Maint Cymru". Gwefan Maint Cymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
- ↑ "https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-46737277". BBC Wales News. 22 Ionawr 2019. External link in
|title=
(help) - ↑ "Am Maint Cymru". Gwefan Maint Cymru. Cyrchwyd 23 Awst 2023.
- ↑ "Ein Hegwyddorion Canllaw". Gwefan Maint Cymru. Cyrchwyd 23 Awst 2023.
- ↑ "Ysgolion Dim Datgoedwigo". Cyrchwyd 23 Awst 2023.
- ↑ "Uganda Rhaglen Coed Mbale". Gwefan Maint Cymru. Cyrchwyd 23 Awst 2023.
- ↑ "Targed o fewn cyrraedd Cymru wrth i goeden rhif 20 miliwn gael ei phlannu yn Uganda". Llywodraeth Cymru. 9 Tachwedd 2022.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Maint Cymru Cymraeg a Saesneg
- @SizeofWales cyfrif Twitter
- Sianel Youtube cyfeiriad @sizeofwales6030