Maes-gasglu

Oddi ar Wicipedia
Maes-gasglu
Enghraifft o'r canlynolsports terminology Edit this on Wikidata
Stadiwm Coedlan y Parc, Aberystwyth
Sadiwm enwog Anfield yn Lerpwl, un o '92 Club' Lloegr
Stadiwm Inverness Caledonian Thistle un o stadiwmau mwyaf gogleddol '38 Club' yr Alban

Mae maes-gasglu (Saesneg: Groundhopping) yn hobi sy'n golygu mynychu gemau mewn cymaint o wahanol stadia neu feysydd chwarae â phosib. Cysylltir y weithgaredd gyda phêl-droed gan fwyaf, er gellid ei fwynhau drwy ymweld â meysydd campau eraill megis rygbi neu griced. Gelwir y rhai sy'n cymryd rhan yn ground hoppers, neu'n hoppers. Yn gyffredinol, mae 'groundhoppers' yn ddilynwyr pêl-droed sydd fel arfer â barn niwtral am glybiau pêl-droed (neu gamp arall) ac yn ceisio mynychu cymaint o gemau mewn cymaint o stadia neu feysydd â phosibl, gan weld y broses gyfan fel gweithgaredd hamdden.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r term Saesneg 'groundhopping' yn tarddu o ddiwedd y 1980au ac mae'n cynnwys y geiriau Saesneg 'ground' a 'to hop' gan chwarae ar y gair "grasshopper" (sioncyn y gwair). O ddiwedd y 1980au dechreuodd cefnogwyr yn yr Almaen fynd o faes i faes. Ar hyn o bryd mae'n arbennig o boblogaidd yn y Deyrnas Unedig, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Sweden a Norwy.

Sefydliad[golygu | golygu cod]

Yn gyffredinol, nid yw maesnesu yn cael ei drefnu'n swyddogol. Fodd bynnag, mae rhai sefydliadau ffurfiol ar gyfer maesgwn, gan gynnwys The 92 Club yn Lloegr, sy'n cynnwys maesneswyr sydd wedi ymweld â gemau ym mhob stadiwm yn yr Uwch Gynghrair a Chynghrair Bêl-droed Lloegr.[2] Gyda hyn mae yna hefyd (yn bennaf) rasys elusennol i weld pwy all fynd o amgylch y 92 stadia pêl-droed yn yr amser byrraf, sy'n cael ei alw yn '92 maes mewn 92 awr'. Y record bresenol yw 72 awr a gyflawnwyd gan bedwar cefnogwr Swindon Town yn 2015.[3] Yn ogystal, mae'r 38 Club ar gyfer holl stadia cynghreiriau proffesiynnol cenedlaethol yr Alban.

Mae Groundhoppers fel arfer yn trefnu eu hunain fel grŵp o ffrindiau neu drwy fforymau ar-lein neu gyfryngau cymdeithasol (e.e. Facebook a Twitter) yn arbennig. Nid yw maes-gasglwyr eraill yn trefnu gydag eraill o gwbl ac yn ymweld â meysydd ar eu pen eu hunain.[1]

Ceir systemau sgorio ar gyfer hyn hefyd, ond nid ydynt wedi'u ffurfioli. Fodd bynnag, fel rheol sylfaenol, rhaid bod rhywun wedi gweld gêm mewn stadiwm er mwyn ei hychwanegu at eu rhestr. Felly nid yw stadiwm yr ymwelir ag ef pan nad oes gêm ymlaen yn cyfrif mewn gwirionedd. Nid yw hyn yn newid y ffaith bod llawer o maesneswyr hefyd yn hoffi ymweld â stadia y tu allan i amser gemau. Yn y pen draw, mae pob ‘groundhopper’ yn cadw ei ‘sgôr’ ei hun ac mae’n ymwneud â’r pleser a gaiff unigolyn o ymweld â stadia pêl-droed a gemau.

Rheolau[golygu | golygu cod]

Nid oes set na rheolau cyffredinol ar gyfer cyfrif ‘ymweliad’ Er mai rheol anysgrifenedig a dderbynnir yn gyffredinol yw bod yn rhaid i ‘ground hopper’ fod wedi gweld gêm bêl-droed lawn 90 munud ar y maes.[4] Mae llawer yn derbyn bod mynychu gêm a stadiwm tan ar ôl hanner amser yn unig yn ddigon, tra bod eraill yn derbyn chwarter awr.[5] Yr unig ofyniad sylfaenol yw bod gêm yn cael ei chynnal ac nad taith stadiwm yn unig mohoni.

Esblygiad[golygu | golygu cod]

Mae'r is-ddiwylliant ofaesifaesu wedi newid yn sylweddol o ganlyniad i ddigido ac mae cyfranogiad wedi dod yn haws diolch i fynediad at wybodaeth. Ers 2011, mae'r app Futbology (app "Groundhopper" yn wreiddiol) wedi bod ar gael, y gellir defnyddio, ymhlith pethau eraill, i chwilio am gemau pêl-droed a gall defnyddwyr fewngofnodi ar y safle.[6] Mae'r ap wedi'i lawrlwytho dros 100,000 o weithiau o'r Google Play yn unig .

Term Gymraeg[golygu | golygu cod]

Does dim term cydnabyddiedig Gymraeg am y difyrrwch yma. Cafwyd sawl awgrym mewn trafodaeth fywiog ar Twitter am pwnc ym 2022. Ymysg awgrymiadau am yr hobi mae: maes-gasglwr; maesnesu (tebyg i 'busnes'); maes-gasglwr; ofaesiafaesu; hel-droed (er bod hynny'n cyfyngu'r hobi i bêl-droed) ac eraill.[7]

Maesnesu Cymreig[golygu | golygu cod]

Does dim traddodiad mor gryf i fynychu ond ceir cymuned a thudalen Facebook grŵp Groundhopping Wales. Mae'r grwp yn herio pobl i "Doing the 108" sef 108 clwb yn system pyramid pêl-droed Cymru e.e. Uwch Gynghrair Cymru ac Cymru North a Cymru South.[8] Does dim grŵp tebyg ar gyfer rygbi yng Nghymru. Efallai bod hynny oherwydd diffyg statws y cynghreiriau ym meddylfryd cefnogwyr chwaraeon neu oherwydd nad oes llawer o feysydd i fusnesu ynddynt. Ceir y Welsh Groundhop lle bydd gêmgŵn ar draws y Deyrnas Unedig yn mynychu temau is-adrannau'r pyramid pêl-droed Cymri.[9]

Er bod y sîn maesnesu cenedlaethol Cymru yn ifanc, bydd unigolion yn ymweld â meysydd a gemau pêl-droed lleol ar draws Cymru a rhoir bri i bêl-droed lleol iawn ar raglenni fel Ar y Marc ar BBC Radio Cymru a rhaglen Sgorio ar S4C.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Bauer, Christian (2018). Tourism in Football: Exploring Motivational Factors and Typologies of Groundhoppers : An example of a German Groundhopper Online Community.
  2. "Ninety-Two Club. Home Page". www.ninetytwoclub.org.uk. Cyrchwyd 4 October 2017.
  3. www.the92.net. "Doing the 92 League Grounds in 72 hours for a good cause". www.the92.net. Cyrchwyd 2020-07-20.
  4. "Your Ultimate Guide To The World's Football Stadiums". Groundhop (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-23.
  5. Jörg Heinisch: Das Abenteuer Groundhopping geht weiter. Band 2 zu Stadien sammelnden Fußballfans. Agon, Kassel 2004, S. 16–17
  6. Groundblogging: Wir haben ein Monster geschaffen
  7. "'Maesnesu' (fel busnesu ar gyfer meysydd pêl-droed) fel gair Cymraeg am 'groundhopping'? ⚽ Am sgwennu cofnod i'r @Wicipedia. Awgrymiadau? Ond dim byd barddonol; rhywbeth bydde @DylanAryMarc neu @sgorio yn ei ddefnyddio go iawn. 🤔 @geiriadur". Twitter Siôn Jobbins @SionJobbins. 5 Tachwedd 2022.
  8. "Groundhopping Wales". tudalen Facebook Groundhopping Wales. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2022.
  9. "What is the 2018 Groundhop? What teams are involved? Why does it happen?". Gwefan ClwbPeldroed.org. 2018.
  10. Wilson, Glen (29 Gorffennaf 2023). "I've visited 300 football grounds – should I be proud or embarrassed?". Guardian. Cyrchwyd 11 Mawrth 2024.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.