Neidio i'r cynnwys

Llythyrau Goronwy Owen (1895)

Oddi ar Wicipedia
Llythyrau Goronwy Owen
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
GolygyddJohn Morris-Jones Edit this on Wikidata
AwdurGoronwy Owen Edit this on Wikidata
CyhoeddwrIsaac Foulkes Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dyddiad cyhoeddi1895 Edit this on Wikidata
Genregohebiaith Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiLerpwl Edit this on Wikidata

Mae Llythyrau Goronwy Owen golygwyd gan John Morris-Jones yn gasgliad o lythyrau a ysgrifennwyd gan Goronwy Owen i Forysiaid Môn yn bennaf. Fe gyhoeddwyd gyntaf ym 1895 gan wasg Isaac Foulkes (Llyfrbryf), Brunswick Street, Lerpwl.[1]

Syr John Morris-Jones

[golygu | golygu cod]

Bardd, ysgolhaig, gramadegydd a beirniad llenyddol oedd Syr John Morris-Jones (1864 - 1929).[2] Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, yn 1888 ac yn 1895 yn athro yn yr Adran Gymraeg newydd. . Fe'i hurddwyd yn farchog yn 1918. Ei gyfraniad pwysicaf oedd ei waith i sefydlu orgraff yr iaith Gymraeg. Bu farw yn 1929 ac fe'i claddwyd yn Llanfairpwllgwyngyll.

Ymysg ei gyhoeddiadau eraill mae:

  • Welsh Orthography (1893)
  • Caniadau (1907). Barddoniaeth.[3]
  • A Welsh Grammar, Historical and Comparative (Rhydychen, 1913)
  • Taliesin (1918). Cyfrol XXVIII o'r Cymmrodor wedi'i neilltuo yn gyfan gwbl i astudiaeth Morris-Jones.
  • Cerdd Dafod, sef Celfyddyd Barddoniaeth Gymraeg (1925)[4]
  • Orgraff yr Iaith Gymraeg (1928)[5]
  • Welsh Syntax (1931).

Goronwy Ddu o Fôn

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Goronwy Owen[6] ar ddydd calan 1723 (calendr Iŵl 13 Ionawr calendr Gregori) yn Llanfair Mathafarn Eithaf, Môn. Cafodd ei addysgu yn ysgol Friars, Bangor a Choleg Yr Iesu, Rhydychen. Cafodd ei ordeinio’n ciwrad yn Eglwys Loegr, a fu'n gwasanaethu mewn nifer o blwyfi yn Lloegr. Wedi anobeithio am ddyrchafiad i'r offeiriadaeth lawn, ymfudodd i'r Unol Daleithiau yn 1757. Dysgodd barddoni gan Lewis Morris. Erbyn cyfnod Goronwy roedd safon barddoniaeth Cymraeg wedi gostwng yn aruthrol o wychder canu Beirdd yr Uchelwyr. Roedd Goronwy yn un o gylch bychan o feirdd oedd am ail adfer gogoniant barddoniaeth yr hen ddyddiau. Meddai Owen Morgan Edwards amdano:―

Bu ei ddylanwad ar Gymru 'n fawr. Tynnodd sylw oddiwrth gerddi rhyddion esmwyth dechreu'r ddeunawfed ganrif at swyn y Gynghanedd.[7]

Yn nyddiau Goronwy roedd disgwyl i awdur talu am gyhoeddi ei waith cyn ei argraffu. Fel ciwrad tlawd doedd gan Goronwy dim mo'r arian i dalu o'i boced ei hun na'r amser i fynd o gwmpas i gasglu tanysgrifwyr i dalu am gopi rhag blaen.[8] Doedd ei duedd i afradu pob dimai oedd ganddo ar ddiod dim o gymorth iddo gael noddwyr na thanysgrifwyr chwaith.

Cyhoeddwyd peth o'i waith pan oedd Goronwy yn yr Amerig gan Huw Jones o Langwm yn y Dedwyddwch Teuluaidd, 1763. Cyhoeddwyd y cyfan o'i farddoniaeth fel rhan o Corff y Gainc Dafydd Ddu Eryri ym 1810; yn Gronoviana John Jones (Pyll) ym 1860; yn "The Poetical Works of the Rev. Goronwy Owen, with his life and correspondence," gan y Parch. Robert Jones, Rotherhithe, ym 1876; ac yn Holl Waith Barddonol Goronwy Owen, gyhoeddwyd tua'r un pryd, gan Lyfrbryf.

Y Llythyrau

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd pytiau o lythyrau Goronwy Owen yn rhai o'r Cylchgronau Cymreig "Greal," y "Cambrian Register," y "Cambro Briton,"[9] y "Gwyliedydd," a chyda casgliadau o'i barddoniaeth yn  "Gronoviana," ac ail gyfrol y Parch. Robert Jones.

Y casgliad hwn gan John Morris Jones, yw'r ymgais cyntaf i greu casgliad cyflawn o holl lythyrau Goronwy Owen. Mae'r casgliad yn cynnwys 49 o lythyrau. Mae'r mwyafrif o'r llythyrau wedi eu cyfeirio at y tri brawd Lewis, Richard a William Morris. Ceir hefyd un llythyr yr un at William Eleias, Plas y Glyn, (hen gyfaill), John Rowlands, Clegir Mawr, Môn (cefnder), derbynnydd dienw a llythyr yn gofyn am gymorth ariannol i ymfudo at Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

Prif gynnwys bron y cyfan o'r llythyrau yw sylwadau am farddoniaeth, llenyddiaeth a phynciau cysylltiedig, ond mae nifer ohonynt hefyd yn cynnwys sylwadau achlysurol am helyntion bywyd y bardd ei deulu a'i gydnabod.

Cafwyd hyd i 19 o'r llythyrau mewn llawysgrif a brynodd Llyfrbryf gan y Canon Wynne Edwards, ficer Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch. Barn John Morris Jones oedd bod y llythyrau wedi eu hysgrifennu gan Goronwy Owen, o bosibl, fel copïau o lythyrau roedd wedi eu danfon.[10]

Ers cyhoeddi'r casgliad hwn, mae pytiau a chasgliadau eraill o lythyrau Goronwy wedi cael eu cyhoedd. Mae nifer o ddyfyniadau o'i lythyrau i'w gweld yn ddwy gyfrol Gwaith Goronwy Owen, Cyfres y Fil (1902). Cyhoeddwyd casgliad ehangach yn The Letters of Goronwy Owen olygwyd gan Lewis Williams (1924). Ceir rhai o'i lythyrau a'r atebion iddynt yn y ddwy gyfrol o The letters of Lewis, Richard, William and John Morris of Anglesey, (Morrisiaid Mon) 1728-1765[11] gan John Humphreys Davies, (1909) ar atodiad iddi The Additional Letters of the Morrises of Anglesey gan Hugh Owen (1949). Cafodd Bedwyr Lewis Jones hyd i 3 lythyr arall a gyhoeddwyd yn Nhrafodion y Cymrodorion 1969.[12] Ceir cyfeiriadaeth at rai o'r lythyrau a ysgrifennodd Goronwy yn America yn narlith, John Gwilym Jones Goronwy Owen's Virginian Adventure (1969).[12]

Argaeledd

[golygu | golygu cod]

Gan fu farw yr awdur cyn 1954, mae'r llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai. Mae'r llyfr bellach allan o brint ond mae modd ei ddarllen ar Llythyrau Goronwy Owen, Wicidestun

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "FOULKES, ISAAC ('Llyfrbryf'; 1836-1904), perchennog newyddiadur a chyhoeddwr | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-07-31.
  2. "MORRIS-JONES (gynt JONES), Syr JOHN (MORRIS) (1864 - 1929), ysgolhaig, bardd, a beirniad llenyddol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-07-31.
  3. Morris-Jones, John (1907). Caniadau. Rhydychen: Fox Jones & Co.Kemp Hall.
  4. Morris-Jones, John (1925). Cerdd Dafod. Rhydychen: Gwasg Clarendon.
  5. Morris-Jones, John (1928). Orgraff yr Iaith Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
  6. "OWEN, GORONWY (1723 - 1769), clerigwr a bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-07-31.
  7. Gwaith Goronwy Owen Cyf II―Rhagymadrodd tud 4
  8. Williams, Owen Gaianydd (Ionawr, 1923). "Goronwy Owen a'r Morrisiaid". Y Traethodydd LXXVIII: 6.
  9. Original Letters; The Cambro-Briton and general Celtic repository, Cyf. IIII Mai 1822
  10. Llythyrau Goronwy Owen—Rhagymadrodd
  11. Davies, John Humphreys (1907). The letters of Lewis, Richard, William and John Morris of Anglesey, (Morrisiaid Mon) 1728-1765. Aberystwyth: John H Davies.
  12. 12.0 12.1 Parry, Thomas; Morgan, Merfyn (1976). Llyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. tt. 195–198. ISBN 0708306314.