Huw Jones o Langwm

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Huw Jones o Langwm
Ganwyd c. 1700 Edit this on Wikidata
Llangwm Edit this on Wikidata
Bu farw 1782 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Ni ddylid cymysgu Huw Jones â'r bardd ac emynydd o'r un cyfnod, Hugh Jones.
Anterliwtiau Huw Jones o Langwm gan A. Cynfael Lake
Huw Jones o Langwm gan A. Cynfael Lake

Bardd gwerinol, baledwr ac awdur anterliwtau oedd Huw Jones (dechrau'r 18g - tua 1782?). Roedd yn frodor o bentref Llangwm yn yr hen Sir Ddinbych (Conwy heddiw) ac yn adnabyddus iawn yng ngogledd Cymru fel 'Huw Jones o Langwm'.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ychydig iawn a wyddys amdano. Cyfeiria Lewis Morris ato fel "bardd crwydrol" a enillai ei fywoliaeth "yn ôl dull yr hynafiaid", h.y. trwy ganu mewn ffeiriau, gan ychwanegu iddo gael ei eni tua dechrau'r 18g. Bu farw rywbryd ar ôl 1779, efallai yn 1780.[2]

Gwaith llenyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Er nad ydym yn gwybod fawr dim amdano, roedd Huw yn fardd hynod poblogaidd a ganodd gannoedd o gerddi. Roedd y rhain yn cynnwys baledi traddodiadol a charolau plygain.[1] Cyhoeddwyd swm sylweddol o'i waith yn ystod ei oes, rhwng 1729 a 1779. Pamffledi a llyfrau bychain o faledi oedd llawer o'r rhain. Ond cyhoeddwyd detholiad o waith y bardd mewn llyfr mwy sylweddol y ogystal, sef Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759); cyfrol sy'n cynnwys gwaith Goronwy Owen, Ieuan Fardd, Rhys Jones o'r Blaenau ac eraill yn y rhan gyntaf a detholiad o waith Huw Jones ac eraill yn yr ail ran.[2]

Golygodd Huw Jones y gyfrol Diddanwch Teuluaidd (1763). Cyfrol bwysig arall o waith Lewis Morris ac eraill o Gylch y Morysiaid.[1]

Priodolir tair anterliwt i Huw Jones yn ogystal, sef 'Hanes y Capten Ffactor', '(Anterliwt) Ar Ddull Ymddiddan rhwng Protestant a Neilltuwr,' a gyhoeddwyd yn 1783, a 'Histori'r Geinogwerth Synnwyr' am hanes gŵr priod godinebus.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • A. Cynfael Lake (gol.), Anterliwtiau Huw Jones o Langwm (Cyhoeddiadau Barddas, 2000). Astudiaeth gyda thestun golygiedig tair anterliwt, sef 'Hanes y Capten Ffactor', 'Histori'r Geiniogwerth Synnwyr' a 'Protestant a Neilltuwr'. ISBN 9781900437370

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 Thomas Parry, Baledi'r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 1935).
  2. 2.0 2.1 2.2 Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig o 1650 hyd 1850 (Lerpwl, 1893).