Rhys Jones o'r Blaenau
| Rhys Jones o'r Blaenau | |
|---|---|
| Ganwyd | 1713 Cymru |
| Bu farw | 14 Chwefror 1801 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | bardd, golygydd |
Roedd Rhys Jones (weithiau: Rice; 1713 – 14 Chwefror 1801) yn fardd a hynafiaethydd o Lanfachreth, ger Dolgellau. Cyhoeddodd un o gyfrolau mwyaf dylanwadol y 18g sef Gorchestion Beirdd Cymru ym 1773.[1]
Treuliodd ei oes yn ardal Blaenau Ffestiniog; pan oedd yn ddeunaw oed, yn dilyn marwolaeth ei dad, roedd yn gobeithio mynd yn gyfreithiwr. Priododd Ann, merch Richard Griffith, Tan-yr-allt, Sir Gaernarfon yn 1741.[2]
Roedd hefyd yn un o sefydlwyr a mynychwyr Cymdeithas y Lloerigyddion a gyfarfyddai yn nhafarn Drws y Nant, a leolid rhwng Rhydymain a Llanuwchllyn, bob nos Iau cyn y lleuad llawn. Mae'n debygol bod y gymdeithas wedi ei sefydlu o dan ddylanwad cymdeithasau yn Lloegr megis yr Lunar Society (a elwid hefyd y Lunatick Society), lle roedd dynion (fel arfer) dylanwadol yn cwrdd i drafod syniadau, ond hefyd yr Hellfire Club lle roedd hedonistiaeth yn arferol.
Geiriau cytgan arwyddgan agoriadol y Gymdeithas Loerig, a gyfansoddwyd gan Rhys Jones, yw:
- "Fal pysg traflyngcwn,
- Fal Bleiddiaid bloeddiwn,
- Ag yfwn yn ddi gwrs,
- At iechyd Hymen
- A Syr Sion Heidden,
- Tra dalio llen y pen a'r pwrs."[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Erthygl gan Bethan Gwanas ar Rhys Jones https://www.thefreelibrary.com/Hogyn+drwg+a+sefydlodd+gymdeithas+o+rafins+lloerig.-a0192665001
- ↑ Jones, D. G., (1953). JONES, RHYS (neu Rice) (1713 - 1801), hynafiaethydd a bardd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adalwyd 14 Chwefror 2026, o Y Bywgraffiadur Cymraeg
- ↑ Rhys Jones yn y Bywgraffiadur Cymreig http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-RHY-1713.html