Llwybr Treftadaeth Trefynwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Llwybr Treftadaeth Trefynwy yn daith ar hyd strydoedd y dref wedi'i gynllunio er mwyn i ymwelwyr gael cip yma ag acw ar adeiladau hanesyddol y dref.

Cymdeithas Ddinesig Trefynwy oedd y tu ôl i'r Llwybr a hynny yn 2009, sef pennu'r adeiladau, cynllunio'r daith, sgwennu ychydig o destun a chreu murluniau (placs) i'w gosod ar y tu allan i'r adeiladau hanesyddol hyn. Lluniwr y placs oedd Ned Heywood o Gas-gwent ac fe'u gwnaed o glai gyda'r ysgrifen yn dri dimensiwn, a lliw glas i'r cyfan. Roedd nifer y geiriau wedi'u cyfyngu gan faint y plac, wrth gwrs, a rhoddent wybodaeth gynnil i'r ymwelydd o bwysigrwydd hanesyddol a phensaernïol yr adeilad.

Argraffwyd taflen Gymraeg a gellir cael copi ohoni o.[1] Ceir hefyd ar hyd y daith Codau QR er mwyn i'r ymwelydd eu sganio gyda'i ffôn clyfar.

Adeiladau hynafol Trefynwy[golygu]

Rhif Enw Llun Gradd Dyddiad Lleoliad[A] Disgrifiad
1 Drybridge House Drybridge House II 1671 51°48′32″N 2°43′24″W / 51.809°N 2.7233°W / 51.809; -2.7233 (Drybridge House) Mae Tŷ Drybridge yn dŷ sylweddol sydd wedi'i gofrestru gan CADW fel adeilad o'r 17eg ganrif: Gradd II*. Mae wedi'i leoli yn ochr de-orllewin tref Trefynwy, Sir Fynwy. Roedd pont fechan gerllaw a arferid ei galw'n "drybridge", ac mae hwnnw bellach o dan gylchfan y ffordd.
2 Eglwys Sant Tomos y Merthyr, Trefynwy St Mary's Church II* c.1170 51°48′30″N 2°43′13″W / 51.8084°N 2.720408°W / 51.8084; -2.720408 (St Thomas') Saif Eglwys Sant Tomos y Merthyr(neu Eglwys Sant Tomos ar lafar) ar bwys Pont Canol Oesol Mynwy. Mae'r bont yn croesi Afon Mynwy. Mae rhan o'r adeilad yn mynd yn ôl i tua 1180 ac mae ganddo bwa cangell sy'n dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif. Adferwyd y tu allan yn y 19eg ganrif.
3 Pont Trefynwy Monnow Bridge I 13 C 51°48′32″N 2°43′12″W / 51.809°N 2.7200°W / 51.809; -2.7200 (Monnow Bridge) Pont Trefynwy yw'r unig bont yng Nghymru sydd â thŵr amddiffynnol, milwrol; fe'i codwyd oddeutu 1272 ac mae'r bont yng nghanol tref Trefynwy. Mae'r bont yn croesi Afon Mynwy, tua 2 filltir (3.2 km) o'r ffin â Lloegr.
4 Gwesty Robin Hood, Trefynwy Robin Hood Inn II* late medieval 51°48′34″N 2°43′09″W / 51.8095°N 2.7193°W / 51.8095; -2.7193 (Robin Hood Inn) Mae Gwesty Robin Hood yn tarddu'n ôl i ddiwedd yr Oesoedd Canol. Fe'i codwyd o garreg ac mae ganddo borth llydan sy'n tarddu'n ôl i'r 15fed ganrif - sy'n nodwedd brin iawn yn yr ardal hon. Cofrestrwyd yr adeilad gan Cadw fel Gradd II* ar 27 Mehefin 1952.
5 Caer Rhufeinig Blestiwm Blestium na c. 55AD 51°48′16″N 2°43′24″W / 51.80447°N 2.7233°W / 51.80447; -2.7233 (Roman Fort) Dyma safle caer fechan, Rufeinig Blestiwm. Mae'n bur debygol mai dyma leoliad y gaer gyntaf i gael ei adeiladu yng Nghymru, ychydig cyn 55 O.C.
6 Gwesty'r Kings Head Hotel, Trefynwy King's Head Hotel II* 17 C 51°48′43″N 2°42′57″W / 51.811935°N 2.715721°W / 51.811935; -2.715721 (King's Head) Saif Gwesty'r King's Head yn Stryd Glyn Dŵr. Mae'n un o westai mwyaf y dref. Perchennog y gwesty, bellach, ydy Weatherspoons. Cafodd ei adeiladu'n wreiddiol yng nghanol yr 17eg ganrif a chredir i Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban aros yma yn 1645.
7 Neuadd y Sir, Trefynwy Shire Hall I 1724 51°48′43″N 2°42′55″W / 51.811973°N 2.715404°W / 51.811973; -2.715404 (Shire Hall) Mae Neuadd y Sir, Trefynwy yn adeilad a gofrestrwyd oherwydd ei werth hanesyddol fel gradd 1. Cafodd ei adeiladu yng nghanol y dref yn 1724 fel llys barn ar gyfer Sir Fynwy. Dyma leoliad achos llys y Siartydd mawr John Frost ac eraill am deyrnfradwriaeth am eu rhan yn nherfysg Casnewydd. Wedi hynny, defnyddiwyd yr adeilad fel marchnad anifeiliaid.
8 Great Castle House, Trefynwy Great Castle Househ I 1673 51°48′46″N 2°42′59″W / 51.8127°N 2.7164°W / 51.8127; -2.7164 (Great Castle House) Tŷ trefol sy'n deillio'n ôl i 1673 ydy Tŷ Mawr y Castell (Saesneg: Great Castle House). Saif ger Sgwâr Agincourt. Mae rhan o'r tŷ ar dir Castell Trefynwy ac mae wedi'i gofrestru fel adeilad hynafol Gradd I.
9 Neuadd y Farchnad, Trefynwy Market Hall II 1830s 51°48′47″N 2°42′55″W / 51.813°N 2.7154°W / 51.813; -2.7154 (Market Hall) Adeilad Fictoraidd o waith y pensaer lleol George Vaughan Maddox ydy hwn. Fe'i codwyd rhwng 1837 a 1839 fel canolbwynt canol y dref pan oedd y dre'n cael ei ailwampio wedi difrod gan dân. Mae bellach yn gartref i Amgueddfa Trefynwy.
10 Priordy Trefynwy Monmouth Priory II* 1075 51°48′49″N 2°42′51″W / 51.8135°N 2.71413°W / 51.8135; -2.71413 (Monmouth Priory) Priordy Benedictaidd ger tref Trefynwy yn Sir Fynwy oedd Priordy Trefynwy. Adeiladodd yr arglwydd Normanaidd William FitzOsbern gastell yn Nhrefynwy tua 1070. Rai blynyddoedd wedyn, rhoddodd y Llydäwr Guihenoc o Fynwy yr eglwys a thir o'i chwmpas i Abaty Sant Fflorent ger Saumur yn Ffrainc. Cysegrwyd eglwys y priordy tua 1101 neu 1102.
11 Eglwys Prior y Santes Fair St Mary's Church II* 18 - 19 C 51°42′34″N 2°37′24″W / 51.709497°N 2.6233°W / 51.709497; -2.6233 (St Mary’s Church) Eglwys Anglicanaidd yw hon ond fe'i sefydlwyd fel priordy Benedictaidd yn 1075. Mae'r eglwys bresennol, fodd bynnag, yn tarddu'n ôl i'r 18fed ganrif. Cysegrwyd eglwys y priordy tua 1101 neu 1102.
12 Carchar Trefynwy County Gaol II 1780s 51°49′01″N 2°42′47″W / 51.817°N 2.713°W / 51.817; -2.713 (County Gaol) Mae Hen Garchar Sir Fynwy yn adeilad sy'n perthyn i'r 18fed ganrif. Dyma oedd prif garchar y sir pan agorwyd ei ddrysau cadarn yn 1790. Arferid crogi drwgweithredwyr yma hyd at y 1850au; yn wir daeth cymaint a thair mil o bobl yma i wylio'r crogi diwethaf.
13 Neuadd Rolls Rolls Hall II 1887 51°48′47″N 2°42′40″W / 51.813°N 2.711°W / 51.813; -2.711 (Rolls Hall) Neuadd Fictoraidd ydy hon. Bellach, caiff ei defnyddio fel Llyfrgell y Dref. Fe'i cofrestrwyd fel adeilad Gradd II yn Hydref 2005. Codwyd yr adeilad yn 1887-8 gan F. A. Powell mewn arddull Jacobeaidd.
14 Tŷ'r Barnwr Judges' Lodgings II 18c 51°48′47″N 2°42′43″W / 51.81306°N 2.712°W / 51.81306; -2.712 (Judges' Lodgings) Adeilad sy'n perthyn i'r 18fed ganrif ydy Tŷ'r Barnwr, sydd wedi'i leoli yn Stryd Whitecross, Sgwâr Sant Ioan. Mae rhannau o'r adeilad yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif. Newidiwyd yr enw i'r 'Labour in Vain' tua 1756. Gwyddem iddo gael ei ddefnyddio fel cartref barnwr ym 1835.
15 Y Fferyllfa, Trefynwy Dispensary II 1860s? 51°48′47″N 2°42′38″W / 51.8130°N 2.7106°W / 51.8130; -2.7106 (Dispensary) Tŷ trefol a godwyd yng nghanol y 18fed ganrif ydy'r Fferyllfa neu Yr Hen Fferyllfa a leolwyd yn Sgwâr Sant Iago. Sefydlwyd fferyllfa yma yn 1857, a drodd yn ddiweddarach yn ysbyty yn ogystal â'r gwaith o ddosbarthu meddyginiaeth. Roedd naw o wlâu yma ar gyfer y cleifion yn 1868, ond caewyd y drysau yn 1903.
16 Capel y Methodistaidd Methodist Church II* 1837 51°48′43″N 2°42′36″W / 51.812°N 2.710°W / 51.812; -2.710 (Methodist Church) Cynlluniwyd Capel y Methodistaidd hwn gan George Vaughan Maddox. Fe godwyd yr adeilad yn 1837. Bu John Wesley'n pregethu yma yn 1779 a phedair gwaith wedi hynny.
17 Eglwys Gatholig y Santes Fair St Mary's Roman Catholic Church II 1793 51°48′44″N 2°42′47″W / 51.812306°N 2.713°W / 51.812306; -2.713 (St Mary's R.C. Church) Codwyd yr adeilad yn 1793; erys rhan yn unig, bellach, sef yr ochr ddwyreiniol. Ychwanegwyd ato'n sylweddol yn Oes Victoria gan y pensaer Benjamin Bucknall. Cofrestrwyd yr adeilad yn Awst 1974 fel adeilad Gradd II.
18 Gwesty’r Angel, Trefynwy Angel Hotel II 17 C 51°48′46″N 2°42′51″W / 51.8127°N 2.7142°W / 51.8127; -2.7142 (Angel Hotel) Mae Gwesty'r Angel, bellach, yn siop ddodrefn. Roedd yn westy rhwng 1700 a 1985. Drwy'r 19eg ganrif fe'i defnyddiwyd fel pencadlys Clwb Teithio Beics Cangen Trefynwy.
19 Theatr y Savoy Savoy Theatre II* 19C 51°48′46″N 2°42′52″W / 51.81284°N 2.7145°W / 51.81284; -2.7145 (Savoy Theatre) Cafodd Theatr y Savoy ei gofrestru gan CADW fel Gradd II* a chafodd ei adnewyddu yn y steil gwreiddiol, traddodiadol. Mae 360 o seddi y tu fewn a chaiff ei reoli gan elusen.
20 Tafarn yr Alarch Wen, Trefynwy White Swan Inn II* rebuilt 1839 51°48′32″N 2°43′23″W / 51.809°N 2.723°W / 51.809; -2.723 (White Swan Inn) Perthyn i'r 18fed ganrif mae Gwesty'r Alarch Wen; Mae rhai'n honni mai dyma adeilad pwysicaf y dre, oherwydd ei bensaernïaeth unigryw. Cofrestrwyd yr adeilad fel Gradd II* ym Mehefin 1952.
21 Agincourt House, Trefynwy Agincourt House II* 17-19C 51°48′45″N 2°42′54″W / 51.812472°N 2.715°W / 51.812472; -2.715 (Agincourt House) Perthyn i ddechrau'r 17eg ganrif y mae Agincourt House. Mae'n adeilad nodedig gyda hanner ohono'n ffrâm bren.[1] Cofrestrwyd y tŷ hwn ym Mehefin 1952 fel adeilad Gradd II*. Ceir y dyddiad 1624 ar y talcen, ar ddarn o bren.
22 Gwesty The Beaufort Arms, Trefynwy Beaufort Arms Hotel II* 1830s 51°48′43″N 2°42′54″W / 51.812°N 2.715°W / 51.812; -2.715 (Beaufort Arms) Gwesty a thafarn ydy Gwesty'r Beaufort Arms sy'n dyddio nôl i'r 18fed ganrif. Mae ffrynt y gwesty, fodd bynnag, yn fwy diweddar gan iddo gael ei foderneiddio yn Oes Victoria, fwy na thebyg gan y pensaer lleol, sef George Vaughan Maddox, a hynny yn y 1830au.
23 Gwaith Dŵr Potel Hyam Hyam's Mineral Water Works na 1866 51°48′40″N 2°42′50″W / 51.811°N 2.714°W / 51.811; -2.714 (Hyam's Water Works) Adeilad sy'n dyddio'n ôl i 1866 ydy Gwaith Dŵr Potel Hyam, ac sydd wedi'i leoli yn 23 23 Heol Glyn Dŵr, Trefynwy. Arferai gynnal gwaith potelu dŵr llawn o fwynau. Mae'r adeilad yn fflatiau erbyn heddiw.
24 Gerddi Nelson Nelson Garden II* nom.1802 51°48′40″N 2°42′56″W / 51.811°N 2.7156°W / 51.811; -2.7156 (Nelson Garden) Mae Gerddi Nelson yn erddi sydd wedi'i lleoli yn 13 Heol Chippenhamgate, yn nhu cefn i 18 Heol Mynwy ac yn tarddu nôl i ddiwedd y 19eg ganrif. Cynhaliwyd yma barti i anrhydeddu Horatio Nelson yn 1802. Ei ffin ddeheuol ydy wal y dref a cheir mynedfa drwy'r wal i'r ardd. Roedd yma gwrt tennis yn yr 17eg ganrif a lawnt fowlio erbyn 1718. Trodd wedi hynny'n berllan.

Allwedd i'r lliwiau uchod[golygu]

Gradd Llinyn mesur Cadw [2] ac English Heritage[3]
Gradd I Adeiladau o ddiddordeb arbennig, weithiau o bwys rhyngwladol.
Gradd II* Adeiladau arbennig o bwysig ac o ddiddordeb arbennig iawn.
Gradd II Adeiladau o bwys cenedlaethol o ran pwysigrwydd a diddordeb.


Gweler hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Blue Plaque Trail, VisitWyeValley.com, adalwyd Ionawr 2012
  2.  CADW (2011). Adeiladau ac Ardaloedd Cadwraeth. Cadw. Adalwyd ar 11 Mawrth 2012.
  3. Listed Buildings, English Heritage, 2010, http://www.english-heritage.org.uk/caring/listing/listed-buildings/, retrieved Ebrill 2012