Tafarn yr Alarch Wen, Trefynwy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tafarn yr Alarch Wen
White Swan Court, Monmouth.JPG
Math adeiladwaith pensaernïol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 1709 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Trefynwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.8128°N 2.71497°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata

Perthyn i'r 18g mae Gwesty'r Alarch Wen, (neu Westy'r Alarch Wen), Heol yr Eglwys, Trefynwy, Sir Fynwy.[1] Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas). Mae rhai'n honi mai dyma adeilad pwysicaf y dre, oherwydd ei bensaerniaeth unigryw. Cofrestwyd yr adeilad fel Gradd II* ym Mehefin 1952.[2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r adeilad ar dri llawr, gyda ffenest bwaog ar y llawr isaf ac mae wyneb yr adeilad allan o stucco gwyn, sy'n dyddio nôl i'r 19g.[3] Gwyddom fod yma dafarn gynharach yn 1709 o'r enw "Yr Alarch a'r Gwalch" ond erbyn 1774, peidiwyd a defnyddio'r Gwalch a bathwyd yr enw The White Swan Inn.[1] Adferwyd yr adeilad yn 1839, wedi i'r stryd (Heol y Priordy) gael ei ddatblygu. Mae'r fynedfa'n ddigon mawr ar gyfer coets o Heol y Priordy a cheir mynedfa arall, llai, o Heol yr Eglwys.

Mae'n debygol iawn fod yr Alarch Wen wedi'i basio i lawr yr oesau oddi wrth Mary de Bohun, a roddodd enedigaeth i Harri V, brenin Lloegr yng Nghastell Trefynwy.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Records relating to the White Swan, Monmouth, archiveWales, adalwyd Ionawr 2012
  2. White Swan, British Listed Buildings, adalwyd 21 Ionawr 2012
  3. Tafarn yr Alarch Wen. Gwefan Coflein., Royal Commission on Ancient and Histoc Monuments of Wales, adalwyd 20 Ionawr 2012