Theatr y Savoy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Theatr y Savoy
The Savoy Theatre, Monmouth - geograph.org.uk - 1070497.jpg
Math Sinema, theatr Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1928 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Trefynwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.8129°N 2.71452°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata

Saif Theatr y Savoy a'i sinema yn Nhrefynwy, yn Ne Cymru; tref gyda thua 9,000 o drigolion ynddi. Fe'i benodwyd yn adeilad rhestredig Gradd II* a chafodd ei adnewyddu yn yr arddull gwreiddiol, traddodiadol. Mae 360 o seddi y tu fewn a chaiff ei reoli gan elusen. Mae'n un o 24 adeilad hynafol a geir ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.

Y theatr

Saif yr adeilad ar hen safle Tafarn y Gloch a rhoddwyd trwydded i'r theatr yn wreiddiol yn 1832. Yn 1850 galwyd hi'n "Ystafelloedd y Cynulliad" ac yn 1850 yn "Theatre Royal" dan reolaeth J F Rogers, a'r "Corn Exchange" ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Daeth dan berchnogaeth Gwesty'r Alarch Wen ar ddiwedd y 19g, pan ddefnyddiwyd yr adeilad fel maes llafnrolio. Yn 1910 agorwyd y lle'n sinema o'r enw "Living Picture Palace and Rinkeries". Yn 1912 newidiwyd yr enw i "Y Palas" ac yna i'r "Scala" a "Regent" yn ddiweddarach.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [Gweler llyfr Keith Kissack: Monmouth and its Buildings; Cyhoeddwr: Logaston Press; 2003, ISBN 1-904396-01-1, tudalennau 142-144.]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]