Eglwys Sant Tomos y Merthyr, Trefynwy
![]() | |
Math | eglwys ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Thomas Becket ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trefynwy ![]() |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 17.2 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8085°N 2.72024°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Cysegrwyd i | Thomas Becket ![]() |
Manylion | |
Deunydd | Tywodfaen, llechfaen ![]() |
Esgobaeth | Esgobaeth Mynwy ![]() |
Saif Eglwys Sant Tomos y Merthyr, Trefynwy (neu Eglwys Sant Tomos ar lafar) ar bwys Pont Canol Oesol Mynwy yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru. Mae'r bont yn croesi Afon Mynwy. Mae rhan o'r adeilad yn mynd yn ôl i tua 1180 ac mae ganddo bwa cangell sy'n dyddio'n ôl i'r 12ed ganrif. Adferwyd y tu allan yn y 19g.
Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas). Mae rhai'n honi mai dyma adeilad pwysicaf y dre, oherwydd ei bensaerniaeth unigryw.[1]
Hanes a phensaerniaeth[golygu | golygu cod]
Tywodfaen coch yw gwneuthuriad y waliau.[2] Enwyd yr eglwys ar ôl St Thomas à Becket,[3] fe'i gwnaed yn gapel anwes i Briordy Trefynwy gan nad oedd ganddo blwy. Fe'i rhestrwyd mewn dogfen a wnaed gan y Pab Urban III yn 1186.[4] Ymddengys iddo fod wedi'i godi erbyn 1170[5].
Cafodd y Priordy a'r bont gyfagos eu dinistrio gan dân ym Mrwydr Trefynwy yn 1233 pan godwyd gwrthryfel: y barwniaid yn erbyn Harri III.[4] Bu'n rhaid atgyweirio'r eglwys drwy ddefnyddio 12 derwen enfawr a roddwyd i'r eglwys gan Gwnstabl St Briavels yn Swydd Gaerwrangon.[4] Yn 1256 roedd nifer helaeth o feudwyaid yn byw yn y Priordy.[6]
Deiliaid[golygu | golygu cod]
- 1830 Joseph Fawcett Beddy
- 1870 Thomas O. Tudor
- 1879 Peter Potter
- 1891 Francis Dudley
- 1915 James Percy Lax Amos
- 1923 H. Raymond Harvey
- 1924 Ernest Anderson Thorne
- 1939 Edmund Loftus MacNaghten
- 1942 Ronald Davies
- 1943 Edmund Ronald James Henry
- 1947 Oliver Vivian Griffiths
- 1964 Norman Havelock Price
- 1993 Julian Francis Gray
- 1998 Richard Pain
- 2009 David McGladdery[7]
Oriel[golygu | golygu cod]
Y tu fewn[golygu | golygu cod]
Y tu allan[golygu | golygu cod]
Yr olygfa o'r eglwys o'r ochr arall i Afon Mynwy
Pont Trefynwy o gefn yr eglwys
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Adeiladau Cofrestredig Gwledydd Prydain; adalwyd 07/04/2012.
- ↑ John Newman, The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, Penguin Books, 2000, ISBN 0-14-071053-1, t.398
- ↑ Welcome to Monmouth, St Thomas Church Monmouth. Adalwyd 7 Rhagfyr 2011
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "History of St Thomas the Martyr". Monmouth Parishes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-14. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2011.
- ↑ "Monmouth Town Guide". Cyngor Trefynwy. Cyrchwyd 10 Rhagfyr 2011.[dolen marw]
- ↑ Monmouth Civic Society, Guide to the Monmouth Heritage Blue Plaque Trail, n.d., t.3
- ↑ Church of St Thomas, Monmouth pamphlet, Monmouthshire. Y Parchedig David McGladdery
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Dolen allanol[golygu | golygu cod]
- (Saesneg) Monmouth Parishes, St Thomas the Martyr Archifwyd 2012-04-26 yn y Peiriant Wayback.