Brwydr Trefynwy (1233)
Prif Dŵr Castell Mynwy. | |
Math | brwydr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ymosodiad y Normaniaid ar Gymru |
Lleoliad | Trefynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.813°N 2.725°W |
Cyfnod | 25 Tachwedd 1233 |
Ar 25 Tachwedd 1233 ymladdwyd Brwydr Trefynwy rhwng milwyr Harri III (brawd Siwan) a Richard Marshal, 3ydd Iarll Penfro a oedd wedi wedi dod i gytundeb gyda Llywelyn Fawr ac Owain ap Gruffudd (ŵyr yr Arglwydd Rhys). Roedd Richard yn fab i'r enwog William Marshal, Iarll 1af Penfro.
Asgwrn y gynnen oedd y ffaith i Marshal wrthod ymweld â'r brenin yn ei Lys yng Nghaerloyw yn Awst 1233 a chyhoeddodd y brenin ef yn fradwr; dychwelodd Marshall i'w gastell yng Nghas-gwent. Ymateb y brenin oedd symud ei filwyr i'r Fenni. Daeth Owain a'i fyddin i ymuno â byddin Marshall ac aethant ar eu hunion i gipio Castell Caerdydd, Castell Casnewydd, y Fenni a Chastell y Grysmwnt, 10 milltir i'r gogledd o Drefynwy, o fewn tafliad carreg â'r ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Henffordd yn Lloegr. Dychwelodd y brenin i Gaerloyw.
Daeth y ddwy fyddin at ei gilydd ychydig i'r gorllewin o Afon Mynwy, ger Trefynwy: ar dir a elwir heddiw yn "Gaeau Vauxhall".[1] Lladdwyd nifer helaeth o filwyr y brenin wrth iddynt geisio dianc; Marshall ac Owain a orfu.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "RCAHMW: Monmouth, Site of battle" Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011