Eglwys Prior y Santes Fair

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eglwys Prior y Santes Fair
Tower and spire, St Mary's Priory Church - geograph.org.uk - 867907.jpg
Math eglwys Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1075 (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Trefynwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.8132°N 2.71392°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd i Y Forwyn Fair Edit this on Wikidata
Crefydd/Enwad Yr Eglwys yng Nghymru Edit this on Wikidata
Esgobaeth Esgobaeth Trefynwy Edit this on Wikidata

Saif Eglwys Prior y Santes Fair yn Whitecross Street yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, De-ddwyrain Cymru. Eglwys Anglicanaidd yw hi ond fe'i sefydlwyd fel priordy Benedictaidd yn 1075. Mae'r eglwys bresennol, fodd bynnag, yn tarddu'n ôl i'r 18g. Cofrestryd hi yn 1952 gyda Gradd II*.

Mae'n un o 24 o adeiladau hanesyddol sydd ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ysgythriad 1799 gan R. Ackermann

Adeiladodd yr arglwydd Normanaidd William FitzOsbern gastell yn Nhrefynwy tua 1070. Rai blynyddoedd wedyn, rhoddodd y Llydawr Guihenoc o Fynwy yr eglwys a thir o'i chwmpas i Abaty Sant Fflorent ger Saumur yn Ffrainc. Cysegrwyd eglwys y priordy tua 1101 neu 1102. Ar y dechrau, roedd saith mynach a phrior.

Clychau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1953 adferwyd ac ail grogwyd y clychau ar ball bearings gan Gillett & Johnston. Yn hydref 1972 roedd yn rhaid ru trwsio, ond roedd y problemau'n parhau a bu'n rhaid eu trwsio eto. Codwyd £4,000 gan Faer y Dref a rhoddwyd £10,000 mewn ewyllus a chomisiynnwyd the Whitechapel Bell Foundry a r gost o £22,000. Cawsant eu hailosod yn Nhachwedd 1982.[2]

Ceir wyth cloch:

Cloch Diametr (mm) Pwysau (kg) Nodyn
1 710 246 Eb
2 740 248 D
3 800 305 C
4 865 357 Bb
5 950 510 Ab
6 990 550 G
7 1070 660 F
8 1200 860 Eb

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Monmouth Civic Society, Monmouth Heritage Blue Plaque Trail, n.d., tud.19
  2. "The Bells" at monmouthparishes.org
  • Newman J., The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, (2000) Penguin Books, ISBN 0-14-071053-1
  • Keith Kissack, Monmouth and its Buildings, (2003) Logaston Press, ISBN 1-904396-01-1,

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: