Carchar Trefynwy

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Carchar Trefynwy
12 Monmouth County Gaol HTsmall.jpg
Math Adeilad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1790 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Trefynwy Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.81703°N 2.71358°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Cost 5,000 punt sterling Edit this on Wikidata

Mae Hen Garchar Sir Fynwy yn adeilad sy'n perthyn i'r 18g ac sydd wedi'i leoli yn North Parade, Trefynwy, Sir Fynwy, De-ddwyrain Cymru. Dyma oedd prif garchar y sir pan agorwyd ei ddrysau cadarn yn 1790.[1] Edrychai'n debyg i gaer canoloesol ond mai ei bwrpas oedd cadw pobl o'i fewn ac nid eu cadw allan. Arferid crogi drwgweithredwyr yma hyd at y 1850au; yn wir daeth cymaint a thair mil o bobl yma i wylio'r crogi diwethaf.[2]

Roedd arwynebedd y carchar yn arfer bod tua thair erw ac roedd yn cynnwys capel, ysbyty, celloedd a melin-droed.[2] Caewyd y drysau am y tro diwethaf yn 1869.[3] Yn 1884 dymchwelwyd llawer o'r adeiladau, ac nid oes bellach namyn y porthdy hwn (neu'r gatehouse)[3] sydd yn adeilad rhestredig Gradd II. Oddi fewn i'r adeilad ceir darlun gwydr o'r hen garchar.[1]

Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Newman J., The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, (2000) Penguin Books, tudalen 407
  2. 2.0 2.1 "Monmouth Gaol". Royal Forest of Dean.info. Cyrchwyd 14 Mawrth 2012.
  3. 3.0 3.1 Gwefan Coflein, Royal Commission on Ancient and Historic Monuments in Wales, adalwyd 06 Ebrill 2012
  • Newman J., The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, (2000) Penguin Books

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]